Psalms 138
Gweddi o ddiolch
Salm Dafydd.
1Dw i'n diolch i ti o waelod calon,ac yn canu mawl i ti o flaen y duwiau!
2Dw i'n ymgrymu i gyfeiriad dy deml sanctaidd
ac yn moli dy enw am dy gariad a dy ffyddlondeb.
Mae dy enw a dy addewid di yn well na phopeth sy'n bod.
3Dyma fi'n galw, a dyma ti'n ateb,
fy ysbrydoli, a rhoi hyder i mi.
4Bydd brenhinoedd y byd i gyd yn diolch i ti, O Arglwydd,
pan fyddan nhw'n clywed y cwbl rwyt ti'n ei addo.
5Byddan nhw'n canu am weithredoedd yr Arglwydd:
“Mae dy ysblander di, Arglwydd, mor fawr!”
6Er bod yr Arglwydd mor fawr,
mae'n gofalu am y gwylaidd;
ac mae'n gwybod o bell am y balch.
7Pan dw i mewn trafferthion,
rwyt yn fy achub o afael y gelyn gwyllt;
ti'n estyn dy law gref i'm helpu.
8Bydd yr Arglwydd yn talu'n ôl ar fy rhan i!
O Arglwydd, mae dy haelioni yn ddiddiwedd!
Paid troi cefn ar dy bobl, gwaith dy ddwylo!
Copyright information for
CYM