‏ Psalms 126

Gweddi am help Duw

Cân yr orymdaith.

1Ar ôl i'r Arglwydd roi llwyddiant i Seion eto,
roedden ni fel rhai yn breuddwydio –
2roedden ni'n chwerthin yn uchel,
ac yn canu'n llon.
Roedd pobl y cenhedloedd yn dweud:
“Mae'r Arglwydd wedi gwneud pethau mawr iddyn nhw!”
3Ydy, mae'r Arglwydd wedi gwneud pethau mawr i ni.
Dŷn ni mor hapus!
4O Arglwydd, wnei di roi llwyddiant i ni eto,
fel pan mae ffrydiau dŵr yn llifo yn anialwch y Negef?
5Bydd y rhai sy'n wylo wrth hau
yn canu'n llawen wrth fedi'r cynhaeaf.
6Mae'r un sy'n cario ei sach o hadau
yn crïo wrth fynd i hau.
Ond bydd yr un sy'n cario'r ysgubau
yn dod adre dan ganu'n llon!
Copyright information for CYM