Psalms 125
Mae pobl Dduw yn saff
Cân yr orymdaith.
1Mae'r rhai sy'n trystio'r Arglwyddfel Mynydd Seion –
does dim posib ei symud,
mae yna bob amser.
2Fel mae Jerwsalem gyda bryniau o'i chwmpas,
mae'r Arglwydd yn cofleidio ei bobl
o hyn allan ac am byth.
3Fydd teyrnwialen drygioni ddim yn cael aros
ar y tir sydd wedi ei roi i'r rhai cyfiawn,
rhag i'r rhai cyfiawn droi at ddrygioni.
4Bydd yn dda, O Arglwydd, at y rhai da,
sef y rhai hynny sy'n byw yn iawn.
5Ond am y bobl sy'n dilyn eu ffyrdd troëdig –
boed i'r Arglwydd eu symud nhw o'r ffordd
gyda'r rhai sy'n gwneud drwg.
Heddwch i Israel!
Copyright information for
CYM