Psalms 116
Rhywun wedi ei achub rhag marw yn moli Duw
1Dw i wir yn caru'r Arglwyddam ei fod yn gwrando ar fy ngweddi.
2Mae e'n troi i wrando arna i
a dw i'n mynd i ddal ati i alw arno bob amser.
3Roedd rhaffau marwolaeth wedi eu rhwymo amdana i;
roedd ofn y bedd wedi gafael ynof fi.
Ro'n i mewn helbul! Roedd fy sefyllfa'n druenus!
4A dyma fi'n galw ar yr Arglwydd,
“O Arglwydd, plîs achub fi!”
5Mae'r Arglwydd mor hael a charedig;
ydy, mae ein Duw ni mor drugarog.
6Mae'r Arglwydd yn amddiffyn pobl gyffredin;
achubodd fi pan oeddwn i'n teimlo mor isel.
7Ond bellach dw i'n gallu ymlacio eto!
Mae'r Arglwydd wedi achub fy ngham!
8Wyt, rwyt ti wedi achub fy mywyd i,
cymryd y dagrau i ffwrdd,
a'm cadw i rhag baglu.
9Dw i'n mynd i fyw'n ffyddlon i'r Arglwydd
ar dir y byw.
10Roeddwn i'n credu ynddo pan ddywedais,
“Dw i'n diodde yn ofnadwy,”
11ond yna dweud mewn panig,
“Alla i ddim trystio unrhyw un.”
12Sut alla i dalu nôl i'r Arglwydd
am fod mor dda tuag ata i?
13Dyma offrwm o win i ddiolch iddo am fy achub,
a dw i am alw ar enw'r Arglwydd.
14Dw i am gadw fy addewidion i'r Arglwydd
o flaen ei bobl.
15Mae bywyd pob un o'i bobl ffyddlon
yn werthfawr yng ngolwg yr Arglwydd.
16Plîs Arglwydd,
dw i wir yn un o dy weision
ac yn blentyn i dy forwyn.
Rwyt ti wedi datod y clymau oedd yn fy rhwymo i.
17Dw i'n cyflwyno offrwm i ddiolch i ti
ac yn galw ar enw yr Arglwydd.
18Dw i am gadw fy addewidion i'r Arglwydd
o flaen y bobl sy'n ei addoli
19yn ei deml yn Jerwsalem.
Haleliwia!
Copyright information for
CYM