Psalms 110
Yr Arglwydd a'r brenin ddewisodd
Salm gan Dafydd.
1Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd,“Eistedd yma yn y sedd anrhydedd
nes i mi wneud dy elynion yn stôl dan dy draed di.”
2Bydd yr Arglwydd yn estyn dy deyrnas o Seion,
a byddi'n rheoli'r gelynion sydd o dy gwmpas!
3Mae dy bobl yn barod i dy ddilyn i'r frwydr.
Ar y bryniau sanctaidd
bydd byddin ifanc yn dod atat
fel gwlith yn codi o groth y wawr.
4Mae'r Arglwydd wedi tyngu llw,
a fydd e ddim yn torri ei air,
“Rwyt ti'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.”
5Mae'r Arglwydd, sydd ar dy ochr dde di,
yn sathru brenhinoedd ar y diwrnod pan mae'n ddig.
6Mae'n cosbi'r cenhedloedd,
yn pentyrru'r cyrff marw
ac yn sathru eu harweinwyr drwy'r byd i gyd.
7Ond bydd e'n yfed o'r nant ar ochr y ffordd,
ac yn codi ar ei draed yn fuddugol.
Copyright information for
CYM