‏ Psalms 101

Addewid brenin

Salm Dafydd.

1Canaf am ffyddlondeb a chyfiawnder.
Canaf gân i ti, O Arglwydd!
2Canaf delyneg am dy ffordd berffaith.
Pryd wyt ti'n mynd i ddod ata i?
Dw i wedi byw bywyd didwyll yn y palas.
3Dw i ddim am ystyried bod yn anonest;
dw i'n casáu twyll,
ac am gael dim i'w wneud â'r peth.
4Does gen i ddim meddwl mochaidd,
a dw i am gael dim i'w wneud â'r drwg.
5Dw i'n rhoi taw ar bwy bynnag sy'n enllibio'i gymydog yn y dirgel.
Alla i ddim diodde pobl falch sy'n llawn ohonyn nhw eu hunain.
6Dw i wedi edrych am y bobl ffyddlon yn y wlad,
i'w cael nhw i fyw gyda mi.
Dim ond pobl onest
sy'n cael gweithio i mi.
7Does neb sy'n twyllo
yn cael byw yn y palas.
Does neb sy'n dweud celwydd
yn cael cadw cwmni i mi.
8Dw i bob amser yn rhoi taw
ar y rhai sy'n gwneud drwg yn y wlad.
Dw i'n cael gwared â'r rhai sy'n gwneud drwg
o ddinas yr Arglwydd.
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.

Everyone uses cookies. We do too! Cookies are little bits of information stored on your computer which help us give you a better experience. You can find out more by reading the STEPBible cookie policy.