Psalms 99
Duw y Brenin Mawr
1Yr Arglwydd sy'n teyrnasu,felly dylai'r gwledydd grynu!
Boed i'r ddaear gyfan grynu
o flaen yr un sydd wedi ei orseddu
uwch ben y ceriwbiaid!
2Yr Arglwydd ydy'r Duw mawr yn Seion;
yr un sy'n rheoli'r holl bobloedd.
3Boed i bawb dy addoli di – y Duw mawr, rhyfeddol!
Ti ydy'r Duw sanctaidd!
4Ti ydy'r brenin cryf sy'n caru cyfiawnder!
Ti ydy'r un sydd wedi dangos beth ydy tegwch,
ac yn hybu cyfiawnder a chwarae teg yn Jacob.
5Addolwch yr Arglwydd ein Duw!
Ymgrymwch i lawr wrth ei stôl droed! a
Mae e'n sanctaidd!
6Roedd Moses, ac Aaron ei offeiriad,
a Samuel yn galw ar ei enw –
Roedden nhw'n galw ar yr Arglwydd,
ac roedd e'n ateb.
7Siaradodd gyda nhw o'r golofn o niwl.
Roedden nhw'n ufudd i'w orchmynion,
a'r rheolau roddodd iddyn nhw.
8O Arglwydd ein Duw, roeddet ti'n eu hateb nhw.
Roeddet ti'n Dduw oedd yn barod i faddau iddyn nhw,
ond roeddet ti hefyd yn eu galw i gyfrif am eu drygioni.
9Addolwch yr Arglwydd ein Duw!
Ymgrymwch i lawr ar ei fynydd cysegredig,
achos mae'r Arglwydd ein Duw yn sanctaidd!
Copyright information for
CYM