Psalms 86
Gweddi am help
Gweddi. Salm Dafydd.
1Gwranda, O Arglwydd, ac ateb fi!Dw i'n wan ac yn ddiamddiffyn.
2Cadw fi'n saff. Dw i'n ffyddlon i ti!
Achub dy was. Ti ydy fy Nuw
a dw i'n dy drystio di.
3Dangos drugaredd ata i, O Arglwydd!
Dw i wedi bod yn gweiddi arnat ti'n ddi-baid.
4Gwna dy was yn llawen eto!
Dw i'n gweddïo'n daer arnat ti Arglwydd.
5Rwyt ti, Arglwydd, yn dda ac yn maddau.
Rwyt ti mor anhygoel o hael at y rhai sy'n galw arnat ti!
6Gwranda ar fy ngweddi, O Arglwydd!
Edrych! Dw i'n erfyn am drugaredd!
7Dw i mewn trafferthion ac yn galw arnat,
am mai ti sy'n gallu fy ateb i.
8Does dim un o'r duwiau eraill yn debyg i ti, Arglwydd!
Does neb arall yn gallu gwneud y pethau rwyt ti'n eu gwneud.
9Bydd yr holl genhedloedd rwyt ti wedi eu creu
yn dod ac yn plygu o dy flaen di, O Arglwydd!
Byddan nhw'n anrhydeddu dy enw di,
10am dy fod ti'n Dduw mawr
ac yn gwneud pethau anhygoel!
Ti ydy'r unig Dduw go iawn!
11Dysga fi sut i fyw, O Arglwydd,
i mi dy ddilyn di'n ffyddlon.
Gwna fi'n benderfynol o d'addoli di'n iawn.
12Bydda i'n dy addoli o waelod calon, O Arglwydd fy Nuw,
ac yn anrhydeddu dy enw am byth.
13Mae dy gariad tuag ata i mor fawr!
Ti wedi fy achub i o ddyfnder Annwn. ▼
▼86:13 Annwn Hebraeg, Sheol, sef “y byd tanddaearol ble mae'r meirw yn mynd”
14O Dduw, mae yna bobl haerllug wedi troi yn fy erbyn i.
Mae yna griw creulon am fy lladd i,
Does dim bwys ganddyn nhw amdanat ti.
15Ond rwyt ti, O Arglwydd, mor drugarog a charedig,
rwyt mor amyneddgar!
Mae dy haelioni a dy ffyddlondeb di yn anhygoel! b
16Tro ata i, a dangos drugaredd!
Rho dy nerth i dy was,
Achub blentyn dy gaethferch!
17Dangos i mi ryw arwydd o dy ddaioni,
er mwyn i'r rhai sy'n fy nghasáu i weld hynny
a chael eu cywilyddio am dy fod ti, Arglwydd,
wedi fy helpu i a'm cysuro.
Copyright information for
CYM