‏ Psalms 70

Gweddi am help

(Salm 40:13-17)

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. I'th atgoffa.

1O Dduw, achub fi!
O Arglwydd, brysia i'm helpu!
2Gwna i'r rhai sydd am fy lladd i
deimlo embaras a chywilydd.
Gwna i'r rhai sydd am wneud niwed i mi
droi yn ôl mewn cywilydd.
3Gwna i'r rhai sy'n chwerthin ar fy mhen
droi yn ôl mewn cywilydd.
4Ond gwna i bawb sy'n dy geisio di ddathlu'n llawen!
Gwna i'r rhai sy'n mwynhau dy weld ti'n achub ddweud,
“Mae Duw mor fawr!”
5Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn;
O Dduw, brysia ata i!
Ti ydy'r un sy'n gallu fy helpu a'm hachub.
O Arglwydd, paid oedi!
Copyright information for CYM