‏ Psalms 17

Gweddi am gyfiawnder

Gweddi Dafydd.

1O Arglwydd, dw i'n gofyn am gyfiawnder.
Gwranda arna i'n galw arnat ti.
Clyw fy ngweddi,
sy'n gwbl ddidwyll.
2Ti sy'n gallu rhoi cyfiawnder i mi.
Mae dy lygaid yn gweld y gwir.
3Rwyt wedi dod ata i yn y nos, chwilio fy meddyliau,
fy mhwyso a'm mesur a chael dim byd o'i le.
Dw i'n benderfynol o beidio dweud dim i dy dramgwyddo di.
4Dw i'n gweld beth mae pobl eraill yn ei wneud,
ond dw i wedi cadw at beth rwyt ti'n ddweud,
ac wedi cadw draw o ffyrdd lladron.
5Dw i wedi dilyn dy lwybrau di,
a heb grwydro oddi ar y ffordd o gwbl.
6Dw i'n galw arnat ti,
achos byddi di'n ateb, O Dduw.
Gwranda arna i.
Clyw beth dw i'n ddweud.
7Dangos mor ffyddlon wyt ti
drwy wneud pethau rhyfeddol!
Ti sy'n gallu achub y rhai sy'n troi atat
i'w hamddiffyn rhag yr ymosodwyr.
8Amddiffyn fi fel cannwyll dy lygad.
Cuddia fi dan gysgod dy adenydd.
9Cuddia fi oddi wrth y rhai drwg sy'n ymosod arna i;
y gelynion o'm cwmpas sydd eisiau fy lladd.
10Maen nhw'n gwbl ddidrugaredd!
Maen nhw mor falch wrth gega!
11Maen nhw wedi fy amgylchynu i,
ac maen nhw am fy mwrw i'r llawr.
12Maen nhw fel llew yn edrych am ysglyfaeth,
neu lew ifanc yn llechu o'r golwg.
13Cod, Arglwydd!
Dos allan yn eu herbyn.
Taro nhw i lawr gyda dy gleddyf!
Achub fi rhag y rhai drwg;
14Achub fi o afael y llofruddion, Arglwydd!
Lladd nhw! Paid gadael iddyn nhw fyw!
Ond i'r rhai sy'n werthfawr yn dy olwg –
rwyt yn llenwi eu boliau,
mae eu plant yn cael eu bodloni
a byddan nhw'n gadael digonedd i'w rhai bach.
15Caf gyfiawnder, a bydda i'n gweld dy wyneb!
Pan fyddaf yn deffro, bydd dy weld yn ddigon i mi!
Copyright information for CYM