Psalms 150
Molwch yr Arglwydd!
1Haleliwia! Molwch Dduw yn ei deml!Molwch e yn ei nefoedd gadarn!
2Molwch e am wneud pethau mor fawr!
Molwch e am ei fod mor wych!
3Molwch e drwy chwythu'r corn hwrdd ▼
▼150:3 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
!Molwch e gyda'r nabl a'r delyn!
4Molwch e gyda drwm a dawns!
Molwch e gyda llinynnau a ffliwt!
5Molwch e gyda sŵn symbalau!
Molwch e gyda symbalau'n atseinio!
6Boed i bopeth sy'n anadlu foli'r Arglwydd!
Haleliwia!
Copyright information for
CYM