‏ Psalms 15

Sut mae Duw am i ni fyw?

Salm Dafydd.

1Arglwydd, pwy sy'n cael aros yn dy babell di?
Pwy sy'n cael byw ar dy fynydd cysegredig?
2Y sawl sy'n byw bywyd di-fai,
yn gwneud beth sy'n iawn,
ac yn dweud y gwir bob amser.
3Dydy e ddim yn defnyddio'i dafod i wneud drwg,
i wneud niwed i neb,
na gwneud hwyl ar ben pobl eraill.
4Mae'n ffieiddio'r rhai mae Duw'n eu gwrthod,
ond yn anrhydeddu'r rhai sy'n parchu'r Arglwydd.
Mae'n cadw ei air hyd yn oed pan mae hynny'n gostus iddo.
5Dydy e ddim yn ceisio gwneud elw wrth fenthyg arian, a
na derbyn breib i gondemnio'r dieuog.
Fydd yr un sy'n byw felly byth yn cael ei ysgwyd.
Copyright information for CYM