Psalms 133
Y fendith o fod gyda'n gilydd
Cân yr orymdaith. Salm Dafydd.
1Mae mor dda, ydy mae mor hyfrydpan mae brodyr yn eistedd gyda'i gilydd.
2Mae fel olew persawrus
yn llifo i lawr dros y farf –
dros farf Aaron
ac i lawr dros goler ei fantell.
3Mae fel gwlith Hermon
yn disgyn ar fryniau Seion!
Dyna ble mae'r Arglwydd
wedi gorchymyn i'r fendith fod –
bywyd am byth!
Copyright information for
CYM