Psalms 129
Gweddi yn erbyn y gelynion
Cân yr orymdaith.
1“Maen nhw wedi ymosod arna i lawer gwaithers pan oeddwn i'n ifanc,”
gall Israel ddweud.
2“Maen nhw wedi ymosod arna i lawer gwaith
ers pan oeddwn i'n ifanc,
ond dŷn nhw ddim wedi fy nhrechu i.”
3Mae dynion wedi aredig ar fy nghefn
ac agor cwysi hirion.
4Ond mae'r Arglwydd yn ffyddlon,
ac wedi torri'r rhaffau sy'n tynnu aradr y rhai drwg.
5Gwna i bawb sy'n casáu Seion
gael eu cywilyddio a'u gyrru yn ôl!
6Gwna nhw fel glaswellt ar ben to
yn gwywo cyn ei dynnu;
7dim digon i lenwi dwrn yr un sy'n medi,
na breichiau'r un sy'n casglu'r ysgubau!
8A fydd y rhai sy'n pasio heibio ddim yn dweud,
“Bendith yr Arglwydd arnoch chi!
Bendith arnoch chi yn enw'r Arglwydd.”
Copyright information for
CYM