Psalms 11
Trystio'r Arglwydd
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
1Dw i wedi troi at yr Arglwydd i'm cadw'n saff.Felly sut allwch chi ddweud wrtho i:
“Dianc i'r mynyddoedd fel aderyn!”?
2“Gwylia dy hun!
Mae'r rhai drwg yn plygu eu bwa,
ac yn gosod saeth ar y llinyn
i saethu o'r cysgodion
at y rhai sy'n byw'n gywir!”
3Pan mae'r sylfeini wedi chwalu,
beth all y cyfiawn ei gyflawni?
4Mae'r Arglwydd yn ei balas sanctaidd!
Ie, yr Arglwydd – mae ei orsedd yn y nefoedd!
Mae e'n gweld y cwbl!
Mae'n edrych yn fanwl ar y ddynoliaeth.
5Mae'r Arglwydd yn gwylio y rhai cyfiawn,
ond mae'n casáu y rhai drwg a'r rhai sy'n hoffi trais.
6Bydd yn tywallt tân a lafa ar y rhai drwg!
Corwynt dinistriol maen nhw'n ei haeddu!
7Ydy, mae'r Arglwydd yn gyfiawn.
Mae'n caru gweld cyfiawnder,
a bydd y rhai sy'n byw'n gywir yn cael gweld ei wyneb.
Copyright information for
CYM