‏ Proverbs 31

Geiriau Lemwel – Cyngor i frenin

1Y pethau ddysgodd Lemwel, brenin Massa
31:1 Massa Ardal yng ngogledd Arabia – gw. Genesis 25:14; 1 Cronicl 1:30
, gan ei fam:

2O fy mab!
O blentyn annwyl fy nghroth!
Y mab wnes i ei gyflwyno i Dduw!
3Paid gwastraffu dy nerth i gyd ar ferched,
a rhoi dy holl egni i'r rhai sy'n dinistrio brenhinoedd.
4O Lemwel, ddylai brenhinoedd ddim yfed gwin,
ac arweinwyr ddim ysu am gwrw,
5rhag iddyn nhw yfed ag anghofio'r deddfau,
a sathru ar hawliau'r tlodion.
6Rhowch ddiod feddwol i'r rhai sy'n marw
a gwin i'r un sy'n diodde'n chwerw.
7Gadewch iddyn nhw yfed i anghofio'u tlodi,
a fydd dim rhaid iddyn nhw gofio'u trafferthion.
8Siarad ar ran y bobl hynny sydd heb lais,
ac amddiffyn y rhai sydd wedi colli popeth.
9Coda dy lais o'u plaid nhw, barna'n gyfiawn,
a dadlau dros hawliau'r rhai mewn angen a'r tlawd.

Gwraig dda

10Pwy sy'n gallu dod o hyd i wraig dda?
Mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau.
11Mae ei gŵr yn ymddiried ynddi'n llwyr,
ac ar ei ennill bob amser.
12Mae hi'n dda iddo bob amser,
a byth yn gwneud drwg.
13Mae hi'n edrych am wlân a defnydd arall
ac yn mwynhau gweu a gwnïo.
14Mae hi fel fflyd o longau masnach
yn cario bwyd o wledydd pell.
15Mae hi'n codi yn yr oriau mân,
i baratoi bwyd i'w theulu,
a rhoi gwaith i'w morynion.
16Mae hi'n meddwl yn ofalus cyn prynu cae,
a defnyddio'i harian i blannu gwinllan ynddo.
17Mae hi'n bwrw iddi'n frwd,
ac yn gweithio'n galed.
18Mae hi'n gwneud yn siŵr fod ei busnes yn llwyddo;
dydy ei lamp ddim yn diffodd drwy'r nos.
19Mae hi'n brysur yn nyddu â'i dwylo,
a'i bysedd yn trin y gwlân.
20Mae hi'n rhoi yn hael i'r tlodion;
ac yn helpu pwy bynnag sydd mewn angen.
21Dydy hi ddim yn poeni am ei theulu pan ddaw eira,
am fod digon o ddillad cynnes ganddyn nhw.
22Mae hi'n gwneud cwiltiau i'r gwely,
a dillad o liain main drud.
23Mae ei gŵr yn adnabyddus ar gyngor y ddinas,
ac yn eistedd gyda'r arweinwyr i gyd.
24Mae hi'n gwneud defnydd i'w werthu,
a dillad i'r masnachwyr eu prynu.
25Mae hi'n wraig o gymeriad cryf ac urddasol,
ac yn edrych ymlaen i'r dyfodol yn hyderus.
26Mae hi'n siarad yn ddoeth bob amser,
ac yn garedig wrth ddysgu eraill.
27Mae hi'n gofalu am y teulu i gyd,
a dydy hi byth yn segur.
28Mae ei phlant yn tyfu ac yn meddwl y byd ohoni;
ac mae ei gŵr yn ei chanmol i'r cymylau,
29“Mae yna lawer o ferched da i'w cael,
ond rwyt ti'n well na nhw i gyd.”
30Mae prydferthwch yn gallu twyllo,
a harddwch yn arwynebol.
Gwraig sy'n parchu'r Arglwydd
sydd yn haeddu cael ei chanmol.
31Rhowch glod iddi am beth mae wedi ei gyflawni,
a boed i arweinwyr y ddinas ei chanmol am ei gwaith.
Copyright information for CYM