Proverbs 29
1Pan mae rhywun yn troi'n ystyfnig ar ôl cael ei geryddu dro ar ôl tro,yn sydyn bydd e'n torri, a fydd dim gwella arno.
2Pan mae pobl dda yn llwyddo, mae dathlu mawr,
ond pan mae'r rhai drwg yn rheoli, mae pobl yn griddfan.
3Mae'r un sy'n caru doethineb yn gwneud ei dad yn hapus,
ond bydd y dyn sy'n cadw cwmni puteiniaid yn gwastraffu ei eiddo.
4Mae brenin yn gwneud gwlad yn sefydlog drwy weithredu'n gyfiawn,
ond mae'r un sy'n trethu'r bobl yn drwm yn ei rhwygo i lawr.
5Mae'r un sy'n seboni ei gyfaill
yn taenu rhwyd i'w ddal ynddi.
6Mae pobl ddrwg yn cael eu trapio gan eu drygioni,
ond mae'r cyfiawn yn hapus ac yn canu'n braf.
7Mae gan y cyfiawn gonsýrn am hawliau pobl dlawd;
ond dydy pobl ddrwg ddim yn gweld pam y dylid poeni.
8Mae'r rhai sy'n gwawdio pobl eraill yn creu helynt,
ond mae'r doeth yn tawelu dig.
9Pan mae person doeth yn mynd â ffŵl i gyfraith,
bydd digon o arthio a gwawdio, ond dim heddwch!
10Mae llofruddion yn casáu pobl onest,
ond mae'r rhai cyfiawn yn eu hamddiffyn nhw.
11Mae'r ffŵl yn colli ei limpyn yn lân,
ond mae'r doeth yn rheoli ei dymer.
12Pan mae llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd,
mae ei swyddogion i gyd yn ddrwg.
13Mae un peth sy'n wir am y cyfoethog a'r tlawd:
yr Arglwydd sydd wedi rhoi bywyd i'r ddau.
14Os ydy brenin yn trin pobl dlawd yn deg
bydd ei orsedd yn ddiogel bob amser.
15Mae gwialen a cherydd yn gwneud plentyn yn ddoeth,
ond mae plentyn afreolus yn codi cywilydd ar ei fam.
16Pan mae pobl ddrwg mewn grym, mae mwy o droseddu,
ond bydd y cyfiawn yn gweld eu cwymp.
17Disgybla dy blentyn i fod yn dawel dy feddwl;
a bydd bywyd yn bleserus i ti.
18Heb weledigaeth gan Dduw does dim rheolaeth ar bobl,
ond mae'r rhai sy'n cadw'r Gyfraith wedi eu bendithio'n fawr.
19Dydy geiriau ddim yn ddigon i ddisgyblu gwas;
falle ei fod e'n deall, ond fydd e ddim yn gwrando.
20Mae mwy o obaith i ffŵl
nag i rywun sy'n rhy barod ei dafod.
21Pan mae caethwas wedi ei sbwylio ers yn blentyn,
fydd dim ond trafferthion yn y diwedd.
22Mae'r un sy'n fyr ei dymer yn creu helynt,
a'r un sy'n gwylltio'n hawdd yn troseddu'n aml.
23Mae balchder yn arwain i gywilydd,
ond bydd person gostyngedig yn cael ei anrhydeddu.
24Mae rhywun sy'n helpu lleidr yn elyn iddo'i hun;
mae'n cael ei alw i dystio, ond yn dweud dim.
25Mae bod ag ofn pobl yn drap peryglus,
ond mae'r un sy'n trystio'r Arglwydd yn saff.
26Mae llawer yn ceisio ennill ffafr llywodraethwr,
ond yr Arglwydd sy'n rhoi cyfiawnder i bobl.
27Mae pobl dda yn casáu'r rhai sy'n gwneud drwg,
ac mae'r rhai sy'n gwneud drwg yn casáu'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.
Copyright information for
CYM