Proverbs 17
1Mae crystyn sych a thipyn o heddwchyn well na gwledd fawr lle mae pobl yn ffraeo.
2Bydd gwas da yn rheoli mab sy'n achos cywilydd,
a bydd yn rhannu'r etifeddiaeth fel un o'r teulu.
3Tawddlestr i arian, a ffwrnais i aur,
ond yr Arglwydd sy'n profi'r galon.
4Mae'r rhai sy'n gwneud drwg yn gwrando ar gyngor drwg;
a'r un sy'n dweud celwydd yn rhoi sylw i eiriau maleisus.
5Mae'r sawl sy'n chwerthin ar y tlawd yn amharchu ei Grëwr;
a bydd yr un sy'n mwynhau gweld trychineb yn cael ei gosbi.
6Coron pobl mewn oed ydy eu wyrion a'u wyresau,
a balchder plant ydy eu rhieni.
7Dydy geiriau gwych ddim yn gweddu i ffŵl;
llai fyth celwydd i ŵr bonheddig.
8Mae breib fel swyn i'r un sy'n ei gynnig;
ble bynnag mae'n troi, mae'n llwyddo.
9Mae'r sawl sy'n cuddio bai yn ceisio cyfeillgarwch,
ond yr un sy'n hel clecs yn colli ffrindiau.
10Mae gair o gerydd yn gwneud mwy o argraff ar ddyn doeth
na chwipio ffŵl gant o weithiau.
11Dydy rhywun drwg ond eisiau gwrthryfela;
felly bydd swyddog creulon yn cael ei anfon yn ei erbyn.
12Gwell cyfarfod arthes wedi colli ei chenawon
na ffŵl yn siarad nonsens.
13Fydd trafferthion byth yn gadael tŷ
rhywun sy'n talu drwg am dda.
14Mae dechrau ffrae fel crac mewn argae;
gwell tewi cyn i bethau fynd yn draed moch.
15Dau beth sy'n gas gan yr Arglwydd –
gollwng yr euog yn rhydd a chosbi'r dieuog.
16Wnaiff arian yn llaw ffŵl ddim prynu doethineb.
Pam talu am wersi, ac yntau ddim eisiau deall?
17Mae ffrind yn ffyddlon bob amser;
a brawd wedi ei eni i helpu mewn helbul.
18Does dim sens gan rywun
sy'n cytuno i dalu dyled rhywun arall. a
19Mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi trafferthion;
a'r un sy'n brolio yn gofyn am drwbwl.
20Fydd yr un sy'n twyllo ddim yn llwyddo;
mae'r rhai sy'n edrych am helynt yn mynd i drafferthion.
21Mae'r un sy'n magu plentyn ffôl yn profi tristwch;
does dim mwynhad i dad plentyn gwirion.
22Mae llawenydd yn iechyd i'r corff;
ond mae iselder ysbryd yn sychu'r esgyrn.
23Person drwg sy'n derbyn breib yn dawel bach
i wyrdroi cyfiawnder. b
24Mae'r person craff yn gweld yn glir beth sy'n ddoeth;
ond dydy'r ffŵl ddim yn gwybod ble i edrych.
25Mae plentyn ffôl yn achosi gofid i'w dad
a dolur calon i'w fam.
26Dydy cosbi rhywun dieuog ddim yn iawn;
byddai fel rhoi curfa i swyddog llys am fod yn onest.
27Mae'r un sy'n brathu ei dafod yn dangos synnwyr cyffredin;
a'r person pwyllog yn dangos ei fod yn gall.
28Gall hyd yn oed ffŵl sy'n cadw'n dawel gael ei ystyried yn ddoeth;
a'r un sy'n cau ei geg, yn ddeallus.
Copyright information for
CYM