agw. Genesis 8:21; Exodus 29:18,25,41; Lefiticus 1:9,13,17

‏ Philippians 4

1Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i'n eich caru chi gymaint ac yn hiraethu amdanoch chi. Dych chi'n fy ngwneud i mor hapus, a dw i mor falch ohonoch chi. Felly daliwch ati – arhoswch yn ffyddlon i'r Arglwydd.

Anogaethau

2Dw i'n apelio ar Euodia a Syntyche i ddod ymlaen â'i gilydd am eu bod yn perthyn i'r Arglwydd. 3A dw i'n gofyn i ti, fy mhartner ffyddlon i, eu helpu nhw. Mae'r ddwy yn wragedd sydd wedi brwydro gyda mi o blaid y newyddion da, gyda Clement a phob un arall o'm cydweithwyr. Mae eu henwau i gyd yn Llyfr y Bywyd.

4Byddwch yn llawen bob amser am eich bod yn perthyn i'r Arglwydd. Dw i'n dweud eto: Byddwch yn llawen! 5Gadewch i bawb weld eich bod yn bobl garedig. Mae'r Arglwydd yn dod yn fuan. 6Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. 7Byddwch chi'n profi'r heddwch perffaith mae Duw'n ei roi – y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg – yn gwarchod eich calonnau a'ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.

8Ac un peth arall i gloi, ffrindiau: meddyliwch bob amser am beth sy'n wir ac i'w edmygu – am beth sy'n iawn i'w wneud, yn bur, yn garedig ac yn anrhydeddus – hynny ydy, popeth da ac unrhyw beth sy'n haeddu ei ganmol. 9Gwnewch y pethau hynny dych chi wedi eu dysgu a'u gweld a'u clywed gen i. A bydd y Duw sy'n rhoi ei heddwch gyda chi.

Diolch am eu rhodd

10Roeddwn i mor llawen, ac yn diolch i'r Arglwydd eich bod wedi dangos gofal amdana i unwaith eto. Dw i'n gwybod mai felly roeddech chi'n teimlo drwy'r adeg, ond doedd dim cyfle i chi ddangos hynny. 11Dw i ddim yn dweud hyn am fy mod i mewn angen, achos dw i wedi dysgu bod yn fodlon beth bynnag sy'n digwydd i mi. 12Dw i'n gwybod sut mae byw pan dw i'n brin, a sut beth ydy bod ar ben fy nigon. Dw i wedi dysgu'r gyfrinach o fod yn hapus beth bynnag ydy'r sefyllfa – pan mae gen i stumog lawn, a phan dw i'n llwgu, os oes gen i hen ddigon neu os nad oes gen i ddim. 13Dw i'n gallu wynebu pob sefyllfa am fod y Meseia yn rhoi'r nerth i mi wneud hynny.

14Beth bynnag, diolch i chi am fod mor barod i rannu gyda mi pan oedd pethau'n anodd. 15Yn y dyddiau cynnar pan glywoch chi'r newyddion da gyntaf, pan adewais i Macedonia, chi yn Philipi oedd yr unig rai wnaeth fy helpu i – dych chi'n gwybod hynny'n iawn. 16Hyd yn oed pan roeddwn i yn Thesalonica, dyma chi'n anfon rhodd ata i sawl tro. 17A dw i ddim yn pysgota am rodd arall wrth ddweud hyn i gyd. Dim ond eisiau i chi ddal ati i ychwanegu at eich stôr o weithredoedd da ydw i. 18Dw i wedi derbyn popeth sydd arna i ei angen, a mwy! Bellach mae gen i hen ddigon ar ôl derbyn eich rhodd gan Epaffroditws. Mae'r cwbl fel offrwm i Dduw – yn arogli'n hyfryd, ac yn aberth sy'n dderbyniol gan Dduw ac yn ei blesio. a 19Bydd Duw yn rhoi popeth sydd arnoch ei angen i chithau – mae ganddo stôr rhyfeddol o gyfoeth i'w rannu gyda ni sy'n perthyn i'r Meseia Iesu.

20Felly, bydded i Dduw a'n Tad ni gael ei foli am byth! Amen!

Cyfarchion i gloi

21Cofiwch fi at bob un o'r Cristnogion acw. Mae'r ffrindiau sydd gyda mi yma yn anfon eu cyfarchion. 22Ac mae'r Cristnogion eraill i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi hefyd – yn arbennig y rhai hynny sy'n gweithio ym mhalas Cesar.

23Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist! Amen.

Copyright information for CYM