cgw. Actau 8:3; 22:4; 26:9-11

‏ Philippians 3

Ymffrostio yn y Meseia

1Yn olaf, ffrindiau, byddwch yn llawen eich bod chi'n perthyn i'r Arglwydd!

Dw i ddim yn blino dal ati i ysgrifennu'r un peth atoch chi. Dw i'n gwneud hynny i'ch amddiffyn chi.

2Gwyliwch y bobl hynny sydd ond eisiau gwneud drwg – y cŵn annifyr! Y rhai sy'n dweud fod rhaid torri'r cnawd â chyllell i gael eich achub! 3Ni, dim nhw, ydy'r rhai sydd wedi cael ein henwaedu go iawn – ni sy'n addoli Duw dan arweiniad yr Ysbryd Glân.
3:3 dan arweiniad yr Ysbryd Glân: Mae rhai llawysgrifau yn dweud o ddifri.
Ni sy'n ymfalchïo yn beth wnaeth y Meseia Iesu, dim beth sydd wedi ei wneud i'r corff.

4Er, byddai gen i ddigon o sail i ymddiried yn hynny taswn i eisiau! Mae gen i fwy o le i ymddiried yn y math yna o beth na neb!

5Ces i fy enwaedu yn wythnos oed;
3:5 yn wythnos oed: Mae bechgyn Iddewig yn cael eu henwaedu wythnos ar ôl eu geni.

dw i'n dod o dras Iddewig pur;
dw i'n aelod o lwyth Benjamin;
dw i'n siarad Hebraeg, fel mae fy rhieni;
roeddwn i'n Pharisead oedd yn cadw Cyfraith Moses yn fanwl, fanwl;
6roeddwn i mor frwd nes i mi fynd ati i erlid yr eglwys Gristnogol. c
Yn ôl y safonau mae'r Gyfraith Iddewig yn ei hawlio, doedd neb yn gallu gweld bai arna i.

7Roeddwn i'n cyfri'r pethau yna i gyd mor bwysig ar un adeg, ond o achos beth wnaeth y Meseia, dŷn nhw'n dda i ddim bellach. 8Does dim byd mwy gwerthfawr bellach na'r fraint aruthrol o gael nabod fy Arglwydd, y Meseia Iesu! Dw i'n gallu byw heb y pethau eraill i gyd, cyn belled â mod i'n cael y Meseia. Sbwriel ydy'r cwbl o'i gymharu â chael 9perthyn i'r Meseia! Bellach, dw i ddim yn honni bod mewn perthynas iawn gyda Duw ar sail beth dw i wedi llwyddo i'w wneud (hynny ydy, ufuddhau i'r Gyfraith Iddewig). Yr unig beth sy'n cyfri bellach ydy fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon – mae perthynas iawn gyda Duw yn rhodd i ni sy'n credu ynddo! 10Bellach yr unig beth dw i eisiau ydy dod i nabod y Meseia Iesu yn well, drwy brofi y pŵer hwnnw wnaeth ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, a gallu dioddef fel y gwnaeth e – hyd yn oed os bydd hynny'n golygu marw drosto! 11Bydda innau wedyn yn cael rhannu'r profiad o godi yn ôl yn fyw ar ôl i mi farw.

Bwrw mlaen i ennill y ras

12Dw i ddim yn honni fy mod i eisoes wedi cyrraedd, nac yn honni bod yn berffaith! Ond dw i'n dal ati er mwyn ennill y cwbl mae'r Meseia Iesu wedi ei fwriadu ar fy nghyfer i pan alwodd fi i'w ddilyn. 13Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i ddim am eiliad yn meddwl mod i eisoes wedi cyrraedd! Y cwbl dw i'n ei ddweud ydy hyn: Dw i'n anghofio beth sydd tu cefn i mi ac yn canolbwyntio fy holl egni ar beth sydd o'm blaen i. 14Fel taswn i mewn ras, dw i'n rhedeg at y llinell derfyn gyda'r bwriad o ennill! Dw i am ennill y wobr sydd gan Dduw ar ein cyfer ni. Ei alwad i'r nefoedd o achos beth wnaeth y Meseia Iesu.

15Felly gadewch i bob un ohonon ni sy'n ‛berffaith‛ fod â'r un agwedd. Os dych chi'n gweld pethau'n wahanol, dw i'n credu y bydd Duw yn dangos eich camgymeriad i chi. 16Beth bynnag, gadewch i ni fyw yn gyson â beth dŷn ni eisoes yn ei wybod sy'n wir.

17Dw i am i chi ddilyn fy esiampl i, frodyr a chwiorydd, a dysgu gan y rhai sy'n byw fel yma – dŷn ni wedi dangos y ffordd i chi. 18Dw i wedi dweud hyn lawer gwaith, a dw i'n dweud yr un peth eto gyda dagrau – mae llawer yn byw mewn ffordd sy'n dangos eu bod nhw'n elynion i'r neges am farwolaeth y Meseia ar y groes. 19Dinistr fydd eu diwedd nhw! Dynion sy'n addoli beth maen nhw'n ei fwyta – dyna'r duw sy'n eu rheoli nhw! Dynion sy'n brolio am beth ddylai godi cywilydd arnyn nhw! Pethau'r byd ydy'r unig bethau sydd ar eu meddyliau nhw. 20Ond dŷn ni'n wahanol. Dŷn ni'n ddinasyddion y nefoedd, ac yn edrych ymlaen yn frwd i'n Hachubwr, yr Arglwydd Iesu Grist, ddod yn ôl o'r nefoedd. 21Bydd yn trawsffurfio ein cyrff marwol, tila ni, ac yn eu gwneud yr un fath â'i gorff rhyfeddol ei hun, drwy'r grym sy'n ei alluogi i osod pob peth dan ei reolaeth ei hun.

Copyright information for CYM