Numbers 9
Yr Ail Basg
1Dyma'r Arglwydd yn siarad â Moses yn anialwch Sinai, flwyddyn ar ôl iddyn nhw ddod allan o wlad yr Aifft: 2“Mae pobl Israel i ddathlu'r Pasg ar yr amser iawn bob blwyddyn, 3sef pan mae hi'n dechrau nosi ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis yma. ▼▼9:3 mis yma Abib (sydd hefyd yn cael ei alw yn Nisan), sef mis cyntaf y calendr Hebreig, o tua canol Mawrth i ganol Ebrill.
Rhaid cadw'n fanwl at holl reolau a threfn yr Ŵyl.” 4Felly dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel am gadw'r Pasg. 5A dyma'r bobl yn gwneud hynny yn anialwch Sinai, ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf, pan oedd hi'n dechrau nosi. Dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrth Moses. 6Ond roedd rhai o'r bobl yn aflan am eu bod nhw wedi cyffwrdd corff rhywun oedd wedi marw, ac felly doedden nhw ddim yn gallu dathlu'r Pasg y diwrnod hwnnw. Felly dyma nhw'n mynd at Moses ac Aaron 7a dweud, “Dŷn ni'n aflan am ein bod ni wedi cyffwrdd corff rhywun oedd wedi marw. Ond pam ddylen ni gael ein rhwystro rhag cyflwyno offrwm i'r Arglwydd gyda pawb arall o bobl Israel?” 8A dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Arhoswch yma, a gwna i fynd i wrando beth sydd gan yr Arglwydd i'w ddweud am y peth.” 9A dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 10“Dywed wrth bobl Israel, ‘Os oes rhywun, heddiw neu yn y dyfodol, yn aflan am ei fod wedi cyffwrdd corff marw; neu'n methu bod yn y dathliadau am ei fod wedi mynd ar daith bell, bydd yn dal yn gallu dathlu'r Pasg i'r Arglwydd. 11Bydd yn gwneud hynny fis yn ddiweddarach, pan mae'n dechrau nosi ar y pedwerydd ar ddeg o'r ail fis. Rhaid iddyn nhw fwyta'r oen gyda bara heb furum ynddo a llysiau chwerw. 12Does dim ohono i'w adael tan y bore, a does dim o'i esgyrn i gael eu torri. Rhaid iddyn nhw gadw holl reolau'r Ŵyl. 13Ond os oes rhywun, sydd ddim yn aflan nac i ffwrdd ar daith, yn peidio dathlu'r Pasg, rhaid i'r person hwnnw gael ei dorri allan o blith pobl Dduw. Rhaid iddo wynebu canlyniadau ei bechod, am beidio dod ag offrwm i'r Arglwydd ar yr amser iawn. 14Os ydy'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi eisiau dathlu'r Pasg i'r Arglwydd, rhaid iddyn nhw gadw'r un rheolau a'r un drefn. Mae'r un rheolau yn berthnasol i frodorion a mewnfudwyr.’” Y cwmwl a'r tân
(Exodus 40:34-38) 15Y diwrnod pan gafodd y Tabernacl ei godi, dyma gwmwl yn ei orchuddio – sef pabell y dystiolaeth. Yna gyda'r nos tan y bore wedyn roedd yn edrych fel petai tân uwch ben y Tabernacl. 16A dyna sut oedd pethau drwy'r adeg. Roedd y cwmwl oedd yn ei orchuddio drwy'r dydd yn troi i edrych fel tân yn y nos. 17Pan oedd y cwmwl yn codi oddi ar y babell roedd pobl Israel yn cychwyn ar eu taith. Yna ble bynnag roedd y cwmwl yn setlo byddai pobl Israel yn codi eu gwersyll. 18Felly, yr Arglwydd oedd yn dangos i bobl Israel pryd i symud a ble i stopio. Bydden nhw'n dal i wersylla yn yr un fan tra byddai'r cwmwl yn aros dros y Tabernacl. 19Weithiau roedd y cwmwl yn aros dros y Tabernacl am amser hir, a fyddai pobl Israel ddim yn symud y gwersyll nes roedd yr Arglwydd yn dweud. 20Dro arall roedd y cwmwl dim ond yn aros dros y Tabernacl am ychydig ddyddiau. Felly roedd y bobl yn gwersylla am y dyddiau hynny, ac yna'n symud ymlaen pan oedd yr Arglwydd yn dweud. 21A weithiau doedd y cwmwl ddim ond yn aros dros nos. Pan oedd y cwmwl yn codi y bore wedyn, roedden nhw'n symud ymlaen. Pryd bynnag roedd y cwmwl yn codi, yn y dydd neu yn y nos, roedden nhw'n symud yn eu blaenau. 22Roedd pobl Israel yn aros yn y gwersyll am faint bynnag roedd y cwmwl yn aros dros y Tabernacl – boed hynny'n ddeuddydd, yn fis, neu'n flwyddyn. Ond pan oedd y cwmwl yn codi, roedden nhw'n teithio yn eu blaenau. 23Yr Arglwydd oedd yn dweud pryd oedden nhw'n teithio a pryd oedden nhw'n gwersylla. Roedden nhw'n gwneud yn union beth roedd yr Arglwydd yn ei ddweud trwy Moses.
Copyright information for
CYM