Nehemiah 9
Y bobl yn cyffesu eu pechodau
1Ar y pedwerydd ar hugain o'r un mis dyma bobl Israel yn dod at ei gilydd eto. Roedden nhw'n ymprydio, yn gwisgo sachliain, ac wedi taflu pridd ar eu pennau. 2Dyma'r rhai oedd yn ddisgynyddion go iawn i bobl Israel yn gwahanu eu hunain oddi wrth bobl o wledydd eraill, ac yn sefyll i gyffesu eu bod nhw a'u hynafiaid wedi pechu a gwneud drwg. 3Buon nhw'n sefyll yno am dair awr, tra roedd Cyfraith yr Arglwydd eu Duw yn cael ei darllen o'r sgrôl, ac yna am dair awr arall yn cyffesu eu pechodau a plygu i lawr i addoli. 4Yna dyma'r Lefiaid – Ieshŵa, Bani, Cadmiel, Shefaneia, Bwnni, Sherefeia, Bani, a Cenani – yn sefyll ar y grisiau yn crïo a galw'n uchel ar yr Arglwydd eu Duw. 5Wedyn dyma grŵp arall o Lefiaid – Ieshŵa, Cadmiel, Bani, Chashafneia, Sherefeia, Hodeia, Shefaneia, a Pethacheia – yn cyhoeddi, “Safwch ar eich traed a bendithio yr Arglwydd eich Duw!” “Bendith arnat ti, O Arglwydd ein Duw, o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb! Boed i dy enw gwych di gael ei fendithio, er nad ydy geiriau'n ddigon i fynegi'r fendith a'r mawl! 6Ti ydy'r Arglwydd, a dim ond ti.Ti wnaeth greu yr awyr,
y gofod a'r holl sêr,
y ddaear a phopeth sydd arni,
a'r moroedd a phopeth sydd ynddynt.
Ti sydd yn cynnal y cwbl,
ac mae tyrfa'r nefoedd yn plygu o dy flaen di.
7Ti ydy'r Arglwydd Dduw wnaeth ddewis Abram,
a'i arwain allan o Ur yn Babilonia,
a rhoi'r enw Abraham iddo.
8Pan welaist ei fod yn ffyddlon
dyma ti'n ymrwymo gydag e
i roi gwlad Canaan i'w ddisgynyddion –
tir yr Hethiaid a'r Amoriaid,
y Peresiaid, y Jebwsiaid a'r Girgasiaid.
A dyma ti'n cadw dy air,
am dy fod ti'n gwneud beth sy'n iawn.
9Gwelaist ein hynafiaid yn dioddef yn yr Aifft,
a clywaist nhw'n gweiddi am help wrth y Môr Coch. ▼
▼9:9 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”.
10Yna gwnest wyrthiau rhyfeddol i daro'r Pharo
a'i swyddogion, a pobl y wlad, am fod mor greulon.
Ti'n enwog am y pethau yma hyd heddiw.
11Dyma ti'n hollti'r môr o'u blaenau nhw,
iddyn nhw gerdded drwy'r môr ar dir sych!
Yna dyma ti'n taflu'r rhai oedd yn ceisio'u dal i'r dŵr dwfn,
a dyma nhw'n suddo fel carreg dan y tonnau mawr.
12Ti wnaeth arwain dy bobl gyda cholofn o niwl yn y dydd,
a cholofn o dân i oleuo'r ffordd yn y nos.
13Dyma ti'n dod i lawr ar Fynydd Sinai,
a siarad gyda nhw o'r nefoedd.
Rhoddaist ganllawiau teg, dysgeidiaeth wir,
rheolau a gorchmynion da.
14Eu dysgu nhw fod y Saboth yn gysegredig,
a cael Moses i ddysgu
dy orchmynion, dy reolau a'th ddysgeidiaeth iddyn nhw.
15Rhoist fara o'r nefoedd iddyn nhw,
pan oedden nhw eisiau bwyd;
a dod â dŵr o'r graig
pan oedden nhw'n sychedig.
Yna dwedaist wrthyn nhw am fynd i gymryd y tir
roeddet ti wedi addo ei roi iddyn nhw.
16Ond roedd ein hynafiaid yn falch ac ystyfnig,
a wnaethon nhw ddim gwrando ar dy orchmynion di.
17Gwrthodon nhw wrando, ac anghofio'r gwyrthiau
roeddet ti wedi eu gwneud yn eu plith nhw.
Dyma nhw'n gwrthryfela, a dewis arweinydd
i'w harwain nhw yn ôl i'r Aifft.
Ond rwyt ti yn Dduw sydd yn maddau,
rwyt ti mor garedig a thrugarog,
mor amyneddgar ac mor anhygoel o hael! b
Wnest ti ddim hyd yn oed troi cefn arnyn nhw
18pan wnaethon nhw eilun metel ar siâp tarw ifanc
a honni, ‘Dyma'r duw ddaeth â chi allan o'r Aifft!’
neu pan oedden nhw'n cablu yn ofnadwy.
19Am dy fod ti mor drugarog,
wnest ti ddim troi cefn arnyn nhw yn yr anialwch.
Roedd y golofn o niwl yn dal i'w harwain yn y dydd,
a'r golofn dân yn dal i oleuo'r ffordd iddyn nhw yn y nos.
20Dyma ti'n rhoi dy ysbryd da i'w dysgu nhw.
Wnest ti ddim stopio rhoi manna iddyn nhw i'w fwyta,
a dal i roi dŵr i dorri eu syched.
21Dyma ti'n eu cynnal nhw am bedwar deg mlynedd.
Er eu bod yn yr anialwch, doedden nhw'n brin o ddim;
wnaeth eu dillad ddim treulio, a'u traed ddim chwyddo. c
22Yna dyma ti'n rhoi teyrnasoedd a phobloedd iddyn nhw,
a rhannu pob cornel o'r tir rhyngddyn nhw.
Dyma nhw'n meddiannu tir Sihon, brenin Cheshbon,
a tir Og, brenin Bashan.
23Dyma ti'n rhoi cymaint o ddisgynyddion iddyn nhw
ag sydd o sêr yn yr awyr.
A dod â nhw i'r tir roeddet ti wedi dweud
wrth eu tadau eu bod i'w feddiannu.
24A dyma'r disgynyddion yn mynd i mewn a'i gymryd.
Ti wnaeth goncro'r Canaaneaid oedd yn byw yn y wlad.
Ti wnaeth roi'r fuddugoliaeth iddyn nhw –
iddyn nhw wneud fel y mynnon nhw
â'r bobl a'u brenhinoedd.
25Dyma nhw'n concro trefi caerog
a chymryd tir ffrwythlon.
Meddiannu tai yn llawn o bethau da,
pydewau wedi eu cloddio, gwinllannoedd,
gerddi olewydd, a digonedd o goed ffrwythau.
Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a pesgi;
roedden nhw'n byw'n fras ar dy holl ddaioni.
26Ond dyma nhw'n dechrau bod yn anufudd
a gwrthryfela yn dy erbyn di.
Troi cefn ar dy Gyfraith di,
a lladd dy broffwydi
oedd wedi bod yn eu siarsio
i droi yn ôl atat
– roedden nhw'n cablu yn ofnadwy.
27Felly dyma ti'n gadael i'w gelynion
eu gorchfygu a'u gorthrymu.
Ond dyma nhw'n gweiddi am dy help
o ganol eu trafferthion,
a dyma ti'n gwrando o'r nefoedd.
Am dy fod ti mor barod i dosturio,
dyma ti'n anfon rhai i'w hachub o afael eu gelynion.
28Ond yna, pan oedden nhw'n gyfforddus eto,
dyma nhw'n mynd yn ôl i'w ffyrdd drwg.
Felly dyma ti'n gadael i'w gelynion
gael y llaw uchaf arnyn nhw.
Wedyn bydden nhw'n gweiddi am dy help di eto,
a byddet tithau'n gwrando o'r nefoedd
ac yn eu hachub nhw dro ar ôl tro
am dy fod mor drugarog.
29Yna roeddet ti'n eu siarsio nhw
i droi yn ôl at dy Gyfraith di,
ond roedden nhw'n falch ac yn gwrthod gwrando ar dy orchmynion.
Dyma nhw'n gwrthod dy ganllawiau –
y rhai sy'n rhoi bywyd i'r sawl sy'n ufudd iddyn nhw.
Aethon nhw'n fwy a mwy ystyfnig;
a gwrthryfela yn lle bod yn ufudd.
30Buost mor amyneddgar hefo nhw,
am flynyddoedd lawer.
Buodd dy Ysbryd yn eu siarsio
drwy'r proffwydi.
Ond doedden nhw ddim am wrando,
felly dyma ti'n gadael i bobloedd gwledydd eraill eu gorchfygu.
31Ac eto, am dy fod ti mor drugarog,
wnest ti ddim cael gwared â nhw yn llwyr;
wnest ti ddim troi dy gefn arnyn nhw.
Rwyt ti mor garedig a thrugarog!
32Felly, o ein Duw – y Duw mawr, pwerus, rhyfeddol,
sy'n cadw dy ymrwymiad ac sydd mor hael –
dŷn ni wedi dioddef caledi ers dyddiau brenhinoedd Asyria
(ni y bobl, ein brenhinoedd, arweinwyr, offeiriaid, proffwydi, a'n hynafiaid);
paid meddwl mai peth bach ydy hyn.
33Roeddet ti'n iawn yn gadael i'r cwbl ddigwydd i ni.
Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon;
ni sydd wedi bod ar fai.
34Wnaeth ein brenhinoedd a'n harweinwyr,
ein hoffeiriaid a'n hynafiaid,
ddim cadw dy gyfraith, dy ganllawiau a'th orchmynion.
35Wnaethon nhw ddim dy wasanaethu di
na troi cefn ar eu ffyrdd drwg,
hyd yn oed pan oedd popeth ganddyn nhw:
teyrnas, dy ddaioni rhyfeddol tuag atyn nhw,
a'r tir da a ffrwythlon wnest ti ei roi iddyn nhw.
36A dyma ni, heddiw, yn gaethweision
yn y tir ffrwythlon wnest ti ei roi i'n hynafiaid!
Ydyn, dŷn ni'n gaethweision yma!
37Mae'r holl gnydau sy'n tyfu yma
yn mynd i'r brenhinoedd rwyt ti wedi eu rhoi i'n rheoli,
o achos ein pechodau.
Maen nhw'n ein rheoli ni a'n hanifeiliaid,
ac yn gwneud fel y mynnon nhw!
Mae hi'n galed arnon ni!
Y bobl yn addo bod yn ffyddlon
38“O achos hyn i gyd dŷn ni, bobl Israel, yn gwneud ymrwymiad ysgrifenedig. Mae ein harweinwyr, ein Lefiaid a'n hoffeiriaid wedi arwyddo'r ddogfen, a'i selio.”
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024