Matthew 7
Beirniadu pobl eraill
(Luc 6:37,38,41,42) 1“Peidiwch bod yn feirniadol o bobl eraill, ac wedyn wnaiff Duw mo'ch barnu chi. 2Oherwydd cewch chi'ch barnu yn yr un ffordd â dych chi'n barnu pobl eraill. Y pren mesur dych chi'n ei ddefnyddio ar bobl eraill fydd yn cael ei ddefnyddio arnoch chi. 3“Pam wyt ti'n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad dy hun!? 4Sut alli di ddweud, ‘Gad i mi dynnu'r sbecyn yna allan o dy lygad di,’ pan mae trawst yn sticio allan o dy lygad dy hun? 5Rwyt ti mor ddauwynebog! Tynna'r trawst allan o dy lygad dy hun yn gyntaf, ac wedyn byddi'n gweld yn ddigon clir i dynnu'r sbecyn allan o lygad y person arall. 6“Peidiwch rhoi beth sy'n sanctaidd i gŵn, rhag iddyn nhw ymosod arnoch chi a'ch rhwygo chi'n ddarnau. Peidiwch taflu perlau gwerthfawr i foch, fydd yn gwneud dim ond eu sathru nhw dan draed.Gofyn, Chwilio a Churo
(Luc 11:9-13) 7“Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch ar y drws a bydd yn cael ei agor. 8Mae pawb sy'n gofyn yn derbyn; pawb sy'n chwilio yn cael; ac mae'r drws yn cael ei agor i bawb sy'n curo. 9“Pwy ohonoch chi fyddai'n rhoi carreg i'ch plentyn pan mae'n gofyn am fara? 10Neu neidr pan mae'n gofyn am bysgodyn? 11Felly os dych chi sy'n ddrwg yn gwybod sut i roi anrhegion da i'ch plant, mae'ch Tad yn y nefoedd yn siŵr o roi rhoddion da i'r rhai sy'n gofyn iddo! 12Dylech chi bob amser drin pobl eraill fel byddech chi'n hoffi iddyn nhw eich trin chi. Mae'n egwyddor sy'n crynhoi popeth mae Cyfraith Moses ac ysgrifau'r proffwydi'n ei ddweud.Y fynedfa gul a'r fynedfa lydan
(Luc 13:24) 13“Ewch i mewn drwy'r fynedfa gul. Oherwydd mae'r fynedfa i'r ffordd sy'n arwain i ddinistr yn llydan. Mae'n ddigon hawdd dilyn y ffordd honno, ac mae llawer o bobl yn mynd arni. 14Ond mae'r fynedfa sy'n arwain i fywyd yn gul, a'r llwybr yn galed. Does ond ychydig o bobl yn dod o hyd iddi.Coeden a'i ffrwyth
(Luc 6:43-45; 13:25-27) 15“Gwyliwch allan am broffwydi ffug. Bleiddiaid rheibus ydyn nhw go iawn, ond yn rhoi'r argraff i chi eu bod mor ddiniwed â defaid. 16Y ffordd i'w nabod nhw ydy drwy edrych ar y ffrwyth yn eu bywydau nhw. Dydy grawnwin ddim yn tyfu ar ddrain, na ffigys ar ysgall. 17Felly lle mae ffrwyth da mae coeden iach, ond os ydy'r ffrwyth yn ddrwg mae'r goeden yn wael. 18Dydy ffrwyth drwg ddim yn tyfu ar goeden iach, na ffrwyth da ar goeden wael! 19Bydd pob coeden sydd heb ffrwyth da yn tyfu arni yn cael ei thorri i lawr a'i llosgi. 20Felly y ffordd i nabod y proffwydi ffug ydy drwy edrych ar y ffrwyth yn eu bywydau nhw. 21“Fydd pawb sy'n fy ngalw i'n ‛Arglwydd‛ ddim yn cael dod dan deyrnasiad yr Un nefol, dim ond y bobl hynny sy'n gwneud beth mae fy Nhad yn y nefoedd yn ei ofyn. 22Ar y diwrnod hwnnw pan fydd Duw yn dod i farnu, bydd llawer o bobl yn dweud wrtho i ‘Arglwydd, Arglwydd, oni fuon ni'n proffwydo ar dy ran di, ac yn bwrw allan gythreuliaid a gwneud llawer iawn o wyrthiau eraill?’ 23Ond bydda i'n dweud wrthyn nhw'n blaen, ‘Dw i erioed wedi'ch nabod chi. Ewch o ma! Pobl ddrwg ydych chi!’Yr adeiladwr call a'r adeiladwr twp
(Luc 6:47-49) 24“Felly dyma sut bobl ydy'r rhai sy'n gwrando arna i ac yna'n gwneud beth dw i'n ei ddweud. Maen nhw fel dyn call sy'n adeiladu ei dŷ ar graig solet. 25Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, ond wnaeth y tŷ ddim syrthio am fod ei sylfeini ar graig solet. 26Ond mae pawb sy'n gwrando arna i heb wneud beth dw i'n ei ddweud yn debyg i ddyn dwl sy'n adeiladu ei dŷ ar dywod! 27Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, a syrthiodd y tŷ a chwalu'n llwyr.” 28Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma, roedd y tyrfaoedd yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu. 29Roedd yn wahanol i'r arbenigwyr yn y Gyfraith – roedd ganddo awdurdod oedd yn gwneud i bobl wrando arno.
Copyright information for
CYM