Matthew 27
Jwdas yn cyflawni hunanladdiad
(Marc 15:1; Luc 23:1,2; Ioan 18:28-32; Actau 1:18-19) 1Yn gynnar iawn yn y bore, dyma'r holl brif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill yn penderfynu fod rhaid i Iesu gael ei ddedfrydu i farwolaeth. 2Felly, dyma nhw'n ei rwymo a'i drosglwyddo i Peilat, y llywodraethwr.Marwolaeth Jwdas
(Actau 1:18-19) 3Pan sylweddolodd Jwdas, y bradwr, fod Iesu'n mynd i gael ei ddienyddio, roedd yn edifar am beth wnaeth e. Aeth â'r tri deg darn arian yn ôl i'r prif offeiriaid a'r arweinwyr. 4“Dw i wedi pechu;” meddai, “dw i wedi bradychu dyn cwbl ddieuog.” “Does dim ots gynnon ni.” medden nhw, “Dy gyfrifoldeb di ydy hynny.” 5Felly dyma Jwdas yn taflu'r arian ar lawr y deml a mynd allan a chrogi ei hun. 6Dyma'r prif offeiriaid yn codi'r darnau arian. “Allwn ni ddim rhoi'r arian yma yn nhrysorfa'r deml. Mae yn erbyn y Gyfraith i dderbyn arian gafodd ei dalu am ladd rhywun.” 7Felly dyma nhw'n cytuno i ddefnyddio'r arian i brynu Maes y Crochenydd fel mynwent i gladdu pobl oedd ddim yn Iddewon. 8A dyna pam mai ‛Maes y Gwaed‛ ydy'r enw arno hyd heddiw. 9A dyna sut daeth geiriau'r proffwyd Jeremeia yn wir: “Dyma nhw'n cymryd y tri deg darn arian(dyna oedd ei werth yng ngolwg pobl Israel),
10a phrynu maes y crochenydd,
fel yr oedd yr Arglwydd wedi dweud.” a
Iesu o flaen Peilat
(Marc 15:2-15; Luc 23:3-5,13-26; Ioan 18:33—9:16) 11Yn y cyfamser, roedd Iesu'n sefyll ei brawf o flaen y llywodraethwr Rhufeinig. Dyma Peilat yn dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?” “Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu. 12Ond pan oedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr yn cyflwyno eu hachos yn ei erbyn, roedd Iesu'n gwrthod ateb. 13A dyma Peilat yn gofyn iddo, “Wyt ti ddim yn clywed y cyhuddiadau yma sydd ganddyn nhw yn dy erbyn di?” 14Ond wnaeth Iesu ddim ateb hyd yn oed un cyhuddiad! Doedd y peth yn gwneud dim sens i'r llywodraethwr. 15Adeg y Pasg roedd hi'n arferiad gan y llywodraethwr i ryddhau un carcharor – un roedd y dyrfa'n ei ddewis. 16Roedd un carcharor roedd pawb yn gwybod amdano – dyn o'r enw Barabbas. 17Felly pan oedd y dyrfa wedi ymgasglu, dyma Peilat yn gofyn iddyn nhw, “Pa un o'r ddau dych chi am i mi ei ollwng yn rhydd? Barabbas, neu Iesu, yr un sy'n cael ei alw ‛Y Meseia‛?” 18(Roedd yn gwybod yn iawn eu bod wedi arestio Iesu am eu bod yn genfigennus ohono.) 19Roedd Peilat yno'n eistedd yn sedd y barnwr pan ddaeth neges iddo oddi wrth ei wraig: “Mae'r dyn yna'n ddieuog – paid gwneud dim byd iddo. Ces i hunllef ofnadwy amdano neithiwr.” 20Ond roedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig wedi bod yn perswadio'r dyrfa i ofyn am ryddhau Barabbas, er mwyn gwneud yn siŵr fod Iesu'n cael ei ddienyddio. 21Gofynnodd y llywodraethwr eto, “Pa un o'r ddau yma dych chi eisiau i mi ei ryddhau?” Dyma nhw'n ateb, “Barabbas!” 22“Felly, beth dw i i'w wneud gyda'r Iesu yma, sy'n cael ei alw ‛Y Meseia‛?” Dyma nhw i gyd yn gweiddi, “Ei groeshoelio!” 23“Pam?” meddai Peilat, “Beth mae e wedi ei wneud o'i le?” Ond dyma nhw'n dechrau gweiddi'n uwch, “Croeshoelia fe!” 24Dyma Peilat yn gweld fod dim pwynt cario ymlaen am fod y dyrfa'n dechrau cynhyrfu. Felly galwodd am ddŵr, a golchi ei ddwylo o flaen pawb. “Dim fi sy'n gyfrifol am ladd y dyn yma,” meddai. “Chi sy'n gyfrifol!” 25Dyma'r bobl yn ateb gyda'i gilydd, “Iawn, ni fydd yn gyfrifol am y peth – ni a'n plant!” 26Felly dyma Peilat yn rhyddhau Barabbas iddyn nhw. Wedyn gorchmynnodd fod Iesu i gael ei chwipio, ac yna ei ddedfrydu i gael ei groeshoelio.Y milwyr yn gwatwar Iesu
(Marc 15:16-21; Ioan 19:2,3) 27Dyma filwyr Rhufeinig yn mynd â Iesu i'r palas (Pencadlys y llywodraethwr), a galw'r holl fintai i gasglu o'i gwmpas. 28Dyma nhw'n tynnu ei ddillad a rhoi clogyn ysgarlad amdano, 29plethu drain i wneud coron i'w rhoi ar ei ben, rhoi gwialen yn ei law dde a phenlinio o'i flaen a gwneud hwyl am ei ben. “Eich mawrhydi! Brenin yr Iddewon!” medden nhw. 30Roedden nhw'n poeri arno, ac yn ei daro ar ei ben dro ar ôl tro gyda'r wialen. 31Pan oedden nhw wedi blino cael sbort, dyma nhw'n tynnu'r clogyn oddi arno, a'i wisgo yn ei ddillad ei hun unwaith eto. Wedyn dyma nhw'n ei arwain allan i gael ei groeshoelio.Y Croeshoelio
(Marc 15:22-32; Luc 23:27-43; Ioan 19:17-27) 32Ar eu ffordd allan, daeth dyn o Cyrene o'r enw Simon i'w cyfarfod, a dyma'r milwyr yn ei orfodi i gario croes Iesu. 33Ar ôl cyrraedd y lle sy'n cael ei alw yn Golgotha (sef ‛Lle y Benglog‛), 34dyma nhw'n cynnig diod o win wedi ei gymysgu gyda chyffur chwerw i Iesu, ond ar ôl ei flasu gwrthododd Iesu ei yfed. b 35Ar ôl ei hoelio ar y groes, dyma nhw'n gamblo i weld pwy fyddai'n cael ei ddillad. c 36Wedyn dyma nhw'n eistedd i lawr i gadw golwg arno. 37Roedd arwydd uwch ei ben yn dweud beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn: DYMA IESU – BRENIN YR IDDEWON. 38Cafodd dau leidr eu croeshoelio yr un pryd, un bob ochr iddo. 39Roedd y bobl oedd yn pasio heibio yn gwneud sbort am ei ben, ac yn hyrddio enllibion ato, d 40“Felly! Ti sy'n mynd i ddinistrio'r deml a'i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod? Tyrd yn dy flaen! Achub dy hun! Tyrd i lawr o'r groes yna, os mai ti ydy Mab Duw go iawn!” 41Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill yno hefyd yn cael sbort ymhlith ei gilydd. 42“Roedd e'n achub pobl eraill,” medden nhw, “ond dydy e ddim yn gallu achub ei hun! Beth am i ni ei weld yn dod i lawr oddi ar y groes yna, os mai Brenin Israel ydy e! Gwnawn ni gredu wedyn! 43Mae'n dweud ei fod e'n trystio Duw, gadewch i ni weld Duw yn ei achub e! Onid oedd e'n dweud ei fod yn Fab Duw?” 44Roedd hyd yn oed y lladron gafodd eu croeshoelio gydag e yn ei sarhau a'i enllibio.Iesu'n marw
(Marc 15:33-41; Luc 23:44-49; Ioan 19:28-30) 45O ganol dydd hyd dri o'r gloch y p'nawn aeth yn hollol dywyll drwy'r wlad i gyd. 46Yna am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu'n uchel, “Eli, Eli, lama sabachthani?” – sy'n golygu, “Fy Nuw, fy Nuw, pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?” e 47Pan glywodd rhai o'r bobl oedd yn sefyll yno hyn, medden nhw, “Mae'n galw ar y proffwyd Elias am help.” 48Dyma un ohonyn nhw'n rhedeg ar unwaith i nôl ysbwng, a'i drochi mewn gwin sur rhad. Yna fe'i cododd ar flaen ffon i'w gynnig i Iesu i'w yfed. f 49Ond dyma'r lleill yn dweud, “Gad lonydd iddo, i ni gael gweld os daw Elias i'w achub.” 50Yna ar ôl gweiddi'n uchel eto, dyma Iesu'n marw. 51Dyna'n union pryd wnaeth y llen oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner o'r top i'r gwaelod. Roedd y ddaear yn crynu a'r creigiau yn hollti, 52a chafodd beddau eu hagor. (Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw cododd cyrff llawer iawn o bobl dduwiol 53allan o'u beddau, a mynd i mewn i Jerwsalem, y ddinas sanctaidd, a gwelodd llawer iawn o bobl nhw.) 54Dyma'r daeargryn a phopeth arall ddigwyddodd yn dychryn y capten Rhufeinig a'i filwyr oedd wedi bod yn cadw golwg ar Iesu. Gwaeddodd, “Mab Duw oedd y dyn yma, reit siŵr!” 55Roedd nifer o wragedd wedi bod yn gwylio beth oedd yn digwydd o bell. Roedden nhw wedi dilyn Iesu yr holl ffordd o Galilea i ofalu fod ganddo bopeth oedd arno'i angen. 56Roedd Mair Magdalen yn un ohonyn nhw, Mair mam Iago a Joseff, a mam Iago a Ioan, sef gwraig Sebedeus hefyd.Claddu Iesu
(Marc 15:42-47; Luc 23:50-56; Ioan 19:38-42) 57Ychydig cyn iddi nosi, dyma ddyn o'r enw Joseff (dyn cyfoethog o Arimathea oedd yn un o ddilynwyr Iesu) yn mynd at Peilat. 58Aeth i ofyn i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu, a dyma Peilat yn gorchymyn rhoi'r corff iddo. 59Dyma Joseff yn cymryd y corff a'i lapio mewn lliain glân. 60Yna fe'i rhoddodd i orwedd yn ei fedd newydd ei hun, un wedi ei naddu yn y graig. Wedyn, ar ôl rholio carreg drom dros geg y bedd, aeth i ffwrdd. 61Roedd Mair Magdalen a'r Fair arall wedi bod yno yn eistedd gyferbyn â'r bedd yn gwylio'r cwbl.Milwyr yn gwarchod y bedd
62Y diwrnod wedyn, hynny ydy y dydd Saboth, dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid yn mynd i weld Peilat. 63“Syr,” medden nhw wrtho, “un peth ddwedodd y twyllwr yna pan oedd e'n dal yn fyw oedd, ‘Bydda i'n dod yn ôl yn fyw ymhen deuddydd’. g 64Felly wnei di orchymyn i'r bedd gael ei wneud yn ddiogel hyd drennydd. Bydd hynny'n rhwystro'i ddisgyblion rhag dod a dwyn y corff, a mynd o gwmpas wedyn yn dweud wrth bobl ei fod wedi dod yn ôl yn fyw. Byddai'r twyll yna'n waeth na'r twyll cyntaf!” 65“Cymerwch filwyr,” meddai Peilat, “ac ewch i wneud y bedd mor ddiogel ag y gallwch chi.” 66Felly dyma nhw'n mynd a gosod sêl ar y garreg oedd dros geg y bedd, a rhoi milwyr ar ddyletswydd i'w gwarchod.
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number. Everyone uses cookies. We do too! Cookies are little bits of information stored on your computer which help us give you a better experience. You can find out more by reading the STEPBible cookie policy.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024