‏ Matthew 20

Stori'r gweithwyr yn y winllan

1“Dyma sut mae'r Un nefol yn teyrnasu – mae fel dyn busnes yn mynd allan gyda'r wawr i gyflogi pobl i weithio yn ei winllan. 2Cyn eu hanfon i'w winllan cytunodd i dalu'r cyflog arferol iddyn nhw o un darn arian am ddiwrnod o waith.

3“Yna, tua naw o'r gloch y bore, aeth allan eto a gweld rhai eraill yn sefyllian o gwmpas sgwâr y farchnad yn gwneud dim byd. 4‘Os ewch chi i weithio yn y winllan i mi, tala i gyflog teg i chi,’ meddai. 5Felly i ffwrdd â nhw.

“Gwnaeth yn union yr un peth pan aeth allan tua chanol dydd, ac eto am dri o'r gloch y p'nawn. 6Hyd yn oed am bump o'r gloch y p'nawn gofynnodd i ryw bobl, ‘Pam dych chi'n sefyllian yma yn gwneud dim byd trwy'r dydd?’

7“‘Does neb wedi'n cyflogi ni,’ medden nhw.

“Felly meddai wrthyn nhw, ‘Ewch i weithio yn y winllan i mi.’

8“Pan oedd hi wedi mynd yn hwyr galwodd perchennog y winllan ei fforman, ac meddai wrtho, ‘Galw'r gweithwyr draw a talu eu cyflog iddyn nhw. Dechreua gyda'r rhai olaf i gael eu cyflogi a gorffen gyda'r rhai cyntaf.’

9“Dyma'r gweithwyr oedd wedi dechrau tua pump o'r gloch y p'nawn yn dod ac yn cael un darn arian bob un. 10Felly pan ddaeth y rhai gafodd eu cyflogi yn gynnar yn y bore, roedden nhw'n disgwyl derbyn mwy. Ond un darn arian gafodd pob un ohonyn nhw hefyd. 11Wrth dderbyn eu tâl dyma nhw'n dechrau cwyno. 12‘Dim ond am awr weithiodd y rhai olaf yna,’ medden nhw, ‘A dych chi wedi rhoi'r un faint iddyn nhw ag i ni sydd wedi gweithio'n galed drwy'r dydd.’

13“Ond meddai'r dyn busnes wrth un ohonyn nhw, ‘Gwranda gyfaill, dw i ddim yn annheg. Gwnest ti gytuno i weithio am y cyflog arferol, hynny ydy un darn arian am ddiwrnod o waith. 14Felly cymer dy gyflog a dos adre. Fy newis i ydy rhoi'r un faint i'r person olaf un i gael ei gyflogi. 15Mae gen i hawl i wneud beth fynna i gyda f'arian fy hun! Ai bod yn hunanol wyt ti am fy mod i'n dewis bod yn hael?’

16“Felly bydd y rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen a'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn.”

Iesu'n dweud eto ei fod yn mynd i farw

(Marc 10:32-34; Luc 18:31-34)

17Pan oedd Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem, aeth â'r deuddeg disgybl i'r naill ochr i siarad gyda nhw. 18“Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem, bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i'r prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith. Byddan nhw'n rhoi dedfryd marwolaeth arna i, 19ac yna'n fy rhoi yn nwylo'r Rhufeiniaid.
20:19 Rhufeiniaid: Groeg, “estroniaid”.
Bydd y rheiny yn gwneud sbort ar fy mhen, fy chwipio a'm croeshoelio. Ond yna ddeuddydd wedyn bydda i'n dod yn ôl yn fyw!”

Dymuniad mam

(Marc 10:35-45)

20Dyma fam Iago ac Ioan, sef gwraig Sebedeus, yn mynd at Iesu gyda'i meibion. Aeth ar ei gliniau o'i flaen i ofyn ffafr ganddo.

21“Beth ga i wneud i chi?” gofynnodd Iesu.

Dyma'r fam yn ateb, “Baswn i'n hoffi i'm meibion i gael eistedd bob ochr i ti pan fyddi'n teyrnasu.”

22“Dych chi ddim yn gwybod am beth dych chi'n siarad!” meddai Iesu. “Allwch chi yfed o'r gwpan chwerw
20:22 yfed o'r gwpan chwerw: Symbol o ddioddef.
dw i'n mynd i yfed ohoni?” “Gallwn,” medden nhw wrtho.

23Dwedodd Iesu, “Byddwch chi'n yfed o'm cwpan i, ond dim fi sydd i ddweud pwy sy'n cael eistedd bob ochr i mi. Mae'r lleoedd hynny wedi eu cadw i bwy bynnag mae fy Nhad wedi eu dewis.”

24Pan glywodd y deg disgybl arall am y peth, roedden nhw'n wyllt gyda'r ddau frawd. 25Ond dyma Iesu'n eu galw nhw i gyd at ei gilydd a dweud, “Dych chi'n gwybod sut mae'r rhai sy'n llywodraethu'r cenhedloedd yn ymddwyn – maen nhw wrth eu bodd yn dangos eu hawdurdod ac yn ei lordio hi dros bobl. 26Ond rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i'r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu, 27a phwy bynnag sydd am fod yn geffyl blaen fod yn was i eraill. 28Wnes i, hyd yn oed, ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu'r pris i ryddhau llawer o bobl.”

Dau ddyn dall yn derbyn eu golwg

(Marc 10:46-52; Luc 18:35-43)

29Wrth iddo fynd allan o Jericho gyda'i ddisgyblion, roedd tyrfa fawr yn dilyn Iesu. 30Roedd dau ddyn dall yn cardota ar ochr y ffordd, a phan ddeallodd y ddau ohonyn nhw mai Iesu oedd yn mynd heibio, dyma nhw'n gweiddi, “Helpa ni Fab Dafydd!”
20:30 Fab Dafydd: gw. y nodyn ar 9:27

31“Cauwch eich cegau!” meddai'r dyrfa wrthyn nhw. Ond yn lle hynny dyma nhw'n gweiddi'n uwch, “Arglwydd! Helpa ni Fab Dafydd!”

32Dyma Iesu'n stopio, a'u galw nhw draw a gofyn, “Beth ga i wneud i chi?”

33Dyma nhw'n ateb, “Arglwydd, dŷn ni eisiau gweld.”

34Roedd Iesu'n llawn tosturi, a dyma fe'n cyffwrdd eu llygaid nhw. Yn sydyn roedden nhw'n gallu gweld! A dyma nhw'n ei ddilyn e.

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.