Luke 22
Jwdas yn cytuno i fradychu Iesu
(Mathew 26:1-5,14,16; Marc 14:1-2,10-11; Ioan 11:45-53) 1Roedd hi'n agos at Ŵyl y Bara Croyw, sy'n dechrau gyda dathlu'r Pasg. a 2Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dal i edrych am ffordd i gael gwared â Iesu. Ond roedd arnyn nhw ofn beth fyddai'r bobl yn ei wneud. 3Ond yna aeth Satan i mewn i Jwdas Iscariot, oedd yn un o'r deuddeg disgybl. 4Aeth Jwdas at y prif offeiriaid a swyddogion diogelwch y deml, i drafod sut y gallai fradychu Iesu iddyn nhw. 5Roedden nhw wrth eu bodd, a dyma nhw'n addo rhoi arian iddo. 6Cytunodd yntau a dechrau edrych am gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw pan oedd y dyrfa ddim o gwmpas.Y Swper Olaf
(Mathew 26:17-30; Marc 14:12-26; Ioan 13:21-30; 1 Corinthiaid 11:23-25) 7Daeth diwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw (hynny ydy, y diwrnod pan roedd rhaid aberthu oen y Pasg). 8Dyma Iesu'n anfon Pedr ac Ioan yn eu blaenau i wneud y trefniadau. “Ewch i baratoi swper y Pasg i ni, er mwyn i ni i gyd gael bwyta gyda'n gilydd,” meddai wrthyn nhw. 9“Ble rwyt ti am i ni fynd i'w baratoi?” medden nhw wrtho. 10Atebodd e, “Wrth i chi fynd i mewn i'r ddinas bydd dyn yn dod i'ch cyfarfod yn cario llestr dŵr. Ewch ar ei ôl 11i mewn i'r tŷ y bydd yn mynd iddo, a gofyn i'r perchennog, ‘Mae'r athro eisiau gwybod ble mae'r ystafell westai, iddo ddathlu'r Pasg gyda'i ddisgyblion.’ 12Bydd yn mynd â chi i fyny'r grisiau i ystafell fawr wedi ei pharatoi'n barod. Gwnewch swper i ni yno.” 13I ffwrdd â nhw, a digwyddodd popeth yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Felly dyma nhw'n paratoi swper y Pasg yno. 14Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd, a'i apostolion gydag e. 15Meddai wrthyn nhw, “Dw i wedi edrych ymlaen yn fawr at gael bwyta'r swper Pasg yma gyda chi cyn i mi ddioddef. 16Dw i'n dweud wrthoch chi y bydda i ddim yn ei fwyta eto nes i'r cwbl gael ei gyflawni pan ddaw Duw i deyrnasu.” 17Yna cymerodd gwpan o win, adrodd gweddi o ddiolch, ac yna dweud wrth ei ddisgyblion, “Cymerwch hwn a'i rannu rhyngoch. 18Dw i'n dweud wrthoch chi, fydda i ddim yn yfed gwin eto nes i Dduw ddod i deyrnasu.” 19Yna cymerodd dorth o fara, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Dyma fy nghorff i, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.” 20Wedyn ar ôl bwyta swper gafaelodd yn y cwpan eto, a dweud, “Mae'r cwpan yma'n cynrychioli'r ymrwymiad newydd drwy fy ngwaed i, sy'n cael ei dywallt ar eich rhan chi. b 21Ond mae'r un sy'n mynd i mradychu i yn eistedd wrth y bwrdd yma gyda mi. c 22Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw fel mae wedi ei drefnu, ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i!” 23Yna dechreuodd y disgyblion drafod pwy ohonyn nhw fyddai'n gwneud y fath beth.Y ddadl am pwy oedd y pwysica
24Ond yna dyma ddadl yn codi yn eu plith nhw ynglŷn â pha un ohonyn nhw oedd y pwysica. 25Felly dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae brenhinoedd y cenhedloedd yn ei lordio hi dros bobl; ac mae pobl fawr eraill sy'n hoffi dangos eu hawdurdod yn cael teitlau fel ‛Cyfaill y bobl‛! 26Ond dim fel yna dylech chi fod. Dylai'r pwysica ohonoch chi ymddwyn fel y person lleia pwysig, a dylai'r un sy'n arwain fod fel un sy'n gwasanaethu. 27Pwy ydy'r pwysica fel arfer? Ai'r sawl sy'n eistedd wrth y bwrdd neu'r sawl sy'n gwasanaethu? Y sawl sy'n eistedd wrth y bwrdd wrth gwrs! Ond dw i yma fel un sy'n gwasanaethu. 28“Dych chi wedi sefyll gyda mi drwy'r treialon, 29a dw i'n mynd i roi hawl i chi deyrnasu yn union fel gwnaeth y Tad ei roi i mi. 30Cewch chi fwyta ac yfed wrth fy mwrdd i pan fydda i'n teyrnasu, a byddwch yn eistedd ar orseddau i farnu deuddeg llwyth gwlad Israel.Disgyblion Iesu'n cael eu profi
(Mathew 26:31-35; Marc 14:27-31; Ioan 13:36-38) 31“Simon, Simon – mae Satan wedi bod eisiau eich cymryd chi i gyd i'ch ysgwyd a'ch profi chi fel mae us yn cael ei wahanu oddi wrth y gwenith. 32Ond dw i wedi gweddïo drosot ti, Simon, y byddi di ddim yn colli dy ffydd. Felly pan fyddi di wedi troi'n ôl dw i eisiau i ti annog a chryfhau'r lleill.” 33“Ond Arglwydd,” meddai Pedr, “dw i'n fodlon mynd i'r carchar neu hyd yn oed farw drosot ti!” 34“Pedr,” meddai'r Arglwydd wrtho, “gwranda'n ofalus ar beth dw i'n ei ddweud. Cyn i'r ceiliog ganu bore fory byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di hyd yn oed yn fy nabod i.”Pwrs, bag a chleddyf
35Wedyn dyma Iesu'n gofyn i'w ddisgyblion, “Pan wnes i'ch anfon chi allan heb bwrs na bag teithio na sandalau sbâr, fuoch chi'n brin o gwbl?” “Naddo,” medden nhw. 36Yna dwedodd wrthyn nhw, “Ond nawr, ewch â'ch pwrs a'ch bag gyda chi; ac os oes gynnoch chi ddim cleddyf, gwerthwch eich côt i brynu un. 37Mae'r broffwydoliaeth sy'n dweud, ‘Roedd yn cael ei ystyried yn un o'r gwrthryfelwyr’ d, yn mynd i ddod yn wir. Ydy, mae'r cwbl sydd wedi ei ysgrifennu amdana i yn yr ysgrifau sanctaidd yn mynd i ddod yn wir.” 38“Edrych, Arglwydd,” meddai'r disgyblion, “mae gynnon ni ddau gleddyf yn barod!” “Dyna ddigon!” meddai.Iesu'n gweddïo ar Fynydd yr Olewydd
(Mathew 26:36-46; Marc 14:32-42) 39Dyma Iesu'n mynd allan i Fynydd yr Olewydd eto, fel roedd wedi gwneud bob nos. Ac aeth ei ddisgyblion ar ei ôl. 40Pan gyrhaeddodd lle roedd yn mynd, dwedodd wrthyn nhw, “Gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi.” 41Yna aeth yn ei flaen dafliad carreg, a mynd ar ei liniau a dechrau gweddïo, 42“Dad, os wyt ti'n fodlon, cymer y cwpan chwerw yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” 43Yna gwelodd angel o'r nefoedd, ac roedd yr angel yn ei annog ac yn cryfhau ei benderfyniad. 44Gweddïodd yn fwy taer, ond gan ei fod mewn cymaint o boen meddwl, roedd ei chwys yn disgyn ar lawr fel dafnau o waed. 45Pan gododd ar ei draed a mynd yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. Roedd tristwch yn eu llethu nhw. 46Gofynnodd iddyn nhw, “Pam dych chi'n cysgu? Codwch ar eich traed, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi.”Arestio Iesu
(Mathew 26:47-56; Marc 14:43-50; Ioan 18:3-11) 47Wrth iddo ddweud hyn, dyma dyrfa yn dod ato. Jwdas, un o'r deuddeg disgybl oedd yn eu harwain, ac aeth at Iesu i'w gyfarch â chusan. 48Ond dyma Iesu'n gofyn iddo, “Wyt ti'n bradychu Mab y Dyn â chusan?” 49Pan sylweddolodd dilynwyr Iesu beth oedd ar fin digwydd, dyma nhw'n gweiddi, “Arglwydd, wyt ti eisiau i ni ymladd gyda'r cleddyfau yma?” 50A dyma un ohonyn nhw yn taro gwas yr archoffeiriad, a thorri ei glust dde i ffwrdd. 51“Stopiwch! Dyna ddigon!” meddai Iesu. Yna cyffyrddodd glust y dyn a'i iacháu. 52Yna dwedodd wrth y prif offeiriaid, swyddogion diogelwch y deml a'r arweinwyr eraill oedd wedi dod i'w ddal, “Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth? Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma? 53Pam na ddalioch chi fi yn y deml? Roeddwn i yno gyda chi bob dydd! Ond dyma'ch cyfle chi – yr amser pan mae pwerau'r tywyllwch yn rheoli.”Pedr yn gwadu ei fod yn nabod Iesu
(Mathew 26:57-58,69-75; Marc 14:53-54,66-72; Ioan 18:12-18,25-27) 54Dyma nhw'n gafael ynddo, a mynd ag e i dŷ'r archoffeiriad. Roedd Pedr yn eu dilyn o bell. 55Ond yna ar ôl iddyn nhw gynnau tân yng nghanol yr iard dyma Pedr yn mynd yno ac yn eistedd gyda nhw. 56Dyma un o'r morynion yn sylwi ei fod yn eistedd yno. Edrychodd hi'n ofalus arno yng ngolau'r tân, ac yna dweud, “Roedd y dyn yma gyda Iesu!” 57Ond gwadu wnaeth Pedr. “Dw i ddim yn nabod y dyn, ferch!” meddai. 58Yna ychydig yn ddiweddarach dyma rywun arall yn sylwi arno ac yn dweud, “Rwyt ti'n un ohonyn nhw!” “Na dw i ddim!” atebodd Pedr. 59Yna ryw awr yn ddiweddarach dyma rywun arall eto yn dweud, “Does dim amheuaeth fod hwn gyda Iesu; mae'n amlwg ei fod yn dod o Galilea.” 60Atebodd Pedr, “Does gen i ddim syniad am beth rwyt ti'n sôn, ddyn!” A dyma'r ceiliog yn canu wrth iddo ddweud y peth. 61Dyma'r Arglwydd Iesu yn troi ac yn edrych yn syth ar Pedr. Yna cofiodd Pedr beth roedd yr Arglwydd wedi ei ddweud: “Byddi di wedi gwadu dy fod yn fy nabod i dair gwaith cyn i'r ceiliog ganu.” 62Aeth allan yn beichio crïo.Y milwyr yn gwatwar Iesu
(Mathew 26:67-68; Marc 14:65) 63Dyma'r milwyr oedd yn cadw Iesu yn y ddalfa yn dechrau gwneud hwyl ar ei ben a'i guro. 64Dyma nhw'n rhoi mwgwd arno ac yna ei daro a dweud wrtho, “Tyrd, Proffwyda! Pwy wnaeth dy daro di y tro yna?” 65Roedden nhw'n ei regi ac yn hyrddio pob math o enllibion ato.Iesu o flaen y Sanhedrin
(Mathew 26:59-66; Marc 14:55-64; Ioan 18:19-24) 66Pan oedd hi'n gwawrio dyma'r Sanhedrin yn cyfarfod, hynny ydy, yr arweinwyr oedd yn brif-offeiriaid neu'n arbenigwyr yn y Gyfraith. A dyma Iesu'n cael ei osod o'u blaenau nhw. 67“Dywed wrthon ni ai ti ydy'r Meseia,” medden nhw. Atebodd Iesu, “Fyddech chi ddim yn credu taswn i yn dweud. 68A taswn i'n gofyn y cwestiwn i chi, wnaech chi ddim ateb. 69Ond o hyn ymlaen, bydd Mab y Dyn yn llywodraethu gyda'r ▼▼22:69 yn llywodraethu gyda'r Groeg, “eistedd ar ochr dde”
Duw grymus.” 70“Felly wyt ti'n dweud mai ti ydy Mab Duw?” medden nhw gyda'i gilydd. “Chi sydd wedi dweud y peth,” meddai. 71A dyma nhw'n dweud, “Pam mae angen tystiolaeth bellach? Dŷn ni wedi ei glywed yn dweud y peth ei hun.”
Copyright information for
CYM