fcyfeiriad at 2 Brenhinoedd 1:9-16
Luke 9
Iesu'n anfon allan y deuddeg
(Mathew 10:5-15; Marc 6:7-13) 1Galwodd Iesu y deuddeg disgybl at ei gilydd, a rhoi nerth ac awdurdod iddyn nhw fwrw allan gythreuliaid a iacháu pobl. 2Yna anfonodd nhw allan i gyhoeddi bod Duw yn teyrnasu, ac i iacháu pobl. 3Dwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd gyda chi – dim ffon, dim bag teithio, dim bwyd, dim arian, dim hyd yn oed dillad sbâr. 4Pan gewch groeso yng nghartre rhywun, arhoswch yno nes byddwch chi'n gadael y dre. 5Os na chewch chi groeso yn rhywle, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed wrth adael y dref honno. Bydd hynny'n arwydd o farn Duw arnyn nhw!” 6Felly i ffwrdd â nhw i deithio o un pentref i'r llall gan gyhoeddi'r newyddion da a iacháu pobl ym mhobman.Herod yn poeni
(Mathew 14:1-12; Marc 6:14-29) 7Clywodd y llywodraethwr Herod ▼▼9:7 Herod: Herod Antipas, mab Herod Fawr.
am y cwbl oedd yn digwydd. Roedd mewn penbleth, am fod rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr oedd wedi dod yn ôl yn fyw. 8Roedd eraill yn dweud mai'r proffwyd Elias ▼▼9:8 Elias: Roedd yr Iddewon yn disgwyl i'r proffwyd Elias ddod i baratoi'r ffordd ar gyfer y Meseia.
oedd wedi dod, ac eraill eto'n meddwl mai un o broffwydi'r gorffennol oedd wedi dod yn ôl yn fyw. 9“Torrais ben Ioan i ffwrdd,” meddai Herod, “felly, pwy ydy hwn dw i'n clywed y pethau yma amdano?” Roedd ganddo eisiau gweld Iesu. Iesu'n bwydo'r pum mil
(Mathew 14:13-21; Marc 6:30-44; Ioan 6:1-14) 10Pan ddaeth yr apostolion yn ôl, dyma nhw'n dweud wrth Iesu beth roedden nhw wedi ei wneud. Yna aeth Iesu â nhw i ffwrdd ar eu pennau eu hunain, i dref o'r enw Bethsaida. 11Ond clywodd y tyrfaoedd ble roedd wedi mynd, a'i ddilyn yno. Dyma Iesu'n eu croesawu ac yn siarad â nhw am Dduw yn teyrnasu, a iacháu y rhai ohonyn nhw oedd yn sâl. 12Yn hwyr yn y p'nawn dyma'r deuddeg disgybl yn dod ato a dweud wrtho, “Anfon y dyrfa i ffwrdd, iddyn nhw fynd i'r pentrefi sydd o gwmpas i gael llety a bwyd. Mae'r lle yma yn anial.” 13Ond dwedodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.” “Dim ond pum torth fach ▼▼9:13 torth fach: Torth fach gron fflat, mae'n debyg.
a dau bysgodyn sydd gynnon ni,” medden nhw. “Wyt ti'n disgwyl i ni fynd i brynu bwyd i'r bobl yma i gyd?” 14(Roedd tua pum mil o ddynion yno!) Dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion, “Gwnewch iddyn nhw eistedd mewn grwpiau o tua hanner cant.” 15Dyma'r disgyblion yn gwneud hynny, ac eisteddodd pawb. 16Wedyn dyma Iesu'n cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a'i roi i'w ddisgyblion i'w rannu i'r bobl. 17Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a dyma nhw'n casglu deuddeg llond basged o dameidiau oedd dros ben. Datganiad Pedr
(Mathew 16:13-28; Marc 8:27—9:1) 18Un tro pan oedd Iesu wedi bod yn gweddïo ar ei ben ei hun, aeth at ei ddisgyblion a gofyn iddyn nhw, “Pwy mae'r bobl yn ei ddweud ydw i?” 19Dyma nhw'n ateb, “Mae rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr wyt ti; eraill yn dweud Elias; a phobl eraill eto'n dweud fod un o'r proffwydi ers talwm wedi dod yn ôl yn fyw.” 20“Ond beth amdanoch chi?” meddai. “Pwy dych chi'n ddweud ydw i?” Atebodd Pedr, “Meseia Duw.” 21Ond dyma Iesu'n pwyso'n drwm arnyn nhw i beidio dweud wrth neb. 22Dwedodd wrthyn nhw, “Mae'n rhaid i mi, Mab y Dyn, ddioddef yn ofnadwy. Bydd yr arweinwyr, y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn fy ngwrthod i. Bydda i'n cael fy lladd, ond yna'n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.” 23Yna dwedodd wrth bawb oedd yno: “Rhaid i bwy bynnag sydd am fy nilyn i stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill bob dydd, a cherdded yr un llwybr â mi. 24Bydd y rhai sy'n ceisio cadw eu bywyd eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond y rhai sy'n barod i ollwng gafael ar eu bywyd er fy mwyn i yn diogelu bywyd go iawn. 25Beth ydy'r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i'w gynnig, a cholli eich hunan? 26Pawb sydd â chywilydd ohono i a beth dw i'n ei ddweud, bydd gen i, Fab y Dyn, gywilydd ohonyn nhw pan fydda i'n dod yn ôl yn fy holl ysblander, sef ysblander y Tad a'i angylion sanctaidd. 27Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi sy'n sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Duw'n teyrnasu.”Y Gweddnewidiad
(Mathew 17:1-8; Marc 9:2-8) 28Tuag wythnos ar ôl iddo ddweud hyn, aeth Iesu i weddïo i ben mynydd, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan gydag e. 29Wrth iddo weddïo newidiodd ei olwg, a throdd ei ddillad yn wyn llachar. 30A dyma nhw'n gweld dau ddyn, Moses ac Elias, yn sgwrsio gyda Iesu. 31Roedd hi'n olygfa anhygoel, ▼▼9:31 Roedd hi'n olygfa anhygoel: Groeg, “wedi dod i'r golwg mewn ysblander”
ac roedden nhw'n siarad am y ffordd roedd Iesu'n mynd i adael y byd, ▼▼9:31 y ffordd roedd Iesu'n mynd i adael y byd: Groeg, “ei exodus”, sef yma, y ffordd oedd e'n mynd i achub pobl drwy ei farwolaeth.
hynny ydy beth oedd ar fin digwydd iddo yn Jerwsalem. 32Roedd Pedr a'r lleill wedi bod yn teimlo'n gysglyd iawn, ond dyma nhw'n deffro go iawn pan welon nhw ysblander Iesu a'r ddau ddyn yn sefyll gydag e. 33Pan oedd Moses ac Elias ar fin gadael, dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Feistr, mae'n dda cael bod yma. Gad i ni godi tair lloches – un i ti, un i Moses ac un i Elias.” (Doedd ganddo ddim syniad go iawn beth roedd yn ei ddweud!) 34Tra roedd yn dweud hyn, dyma gwmwl yn dod i lawr a chau o'u cwmpas. Roedden nhw wedi dychryn wrth iddyn nhw fynd i mewn i'r cwmwl. 35A dyma lais yn dod o'r cwmwl a dweud, “Fy Mab i ydy hwn – yr un dw i wedi ei ddewis. Gwrandwch arno!” 36Ar ôl i'r llais ddweud hyn, roedd Iesu ar ei ben ei hun unwaith eto. Dyma'r lleill yn cadw'n dawel am y peth – ddwedon nhw ddim wrth neb bryd hynny am beth roedden nhw wedi ei weld. Iacháu bachgen oedd ag ysbryd drwg ynddo
(Mathew 17:14-18; Marc 9:14-27) 37Y diwrnod wedyn, pan ddaethon nhw i lawr o'r mynydd, daeth tyrfa fawr i'w gyfarfod. 38Dyma ryw ddyn yn y dyrfa yn gweiddi ar Iesu, “Athro, dw i'n crefu arnat ti i edrych ar fy mab i – dyma fy unig blentyn i! 39Mae yna ysbryd yn gafael ynddo'n aml, ac yn sydyn mae'n sgrechian; wedyn mae'r ysbryd yn gwneud iddo gael ffit nes ei fod yn glafoerio. Dydy'r ysbryd prin yn gadael llonydd iddo! Mae'n ei ddinistrio! 40Roeddwn i'n crefu ar dy ddisgyblion di i'w fwrw allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.” 41“Pam dych chi mor ystyfnig ac amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi a'ch dioddef chi? Tyrd â dy fab yma.” 42Wrth i'r bachgen ddod ato dyma'r cythraul yn ei fwrw ar lawr mewn ffit epileptig. Ond dyma Iesu'n ceryddu'r ysbryd drwg, iacháu'r bachgen a'i roi yn ôl i'w dad. 43Roedd pawb wedi eu syfrdanu wrth weld nerth Duw ar waith.Iesu'n siarad am ei farwolaeth eto
(Mathew 17:22,23; Marc 9:30-32) Tra roedd pawb wrthi'n rhyfeddu at yr holl bethau roedd Iesu'n eu gwneud, dwedodd wrth ei ddisgyblion, 44“Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio fy mod i wedi dweud hyn: Dw i, Mab y Dyn, yn mynd i gael fy mradychu.” 45Doedd gan y disgyblion ddim syniad am beth oedd e'n sôn. Roedd yn ddirgelwch iddyn nhw, ac roedden nhw'n methu'n lân a deall beth roedd yn ei olygu, ond roedd arnyn nhw ofn gofyn iddo am y peth.Pwy fydd y pwysica?
(Mathew 18:1-5; Marc 9:33-37,38-40) 46Dyma'r disgyblion yn dechrau dadlau pwy ohonyn nhw oedd y pwysica. 47Roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd trwy eu meddyliau, a gosododd blentyn bach i sefyll wrth ei ymyl. 48Yna meddai wrthyn nhw, “Mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i'r plentyn bach yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi; ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi yn croesawu'r Un sydd wedi fy anfon i. Mae'r un lleia pwysig ohonoch chi yn bwysig dros ben.” 49“Feistr,” meddai Ioan, “gwelon ni rywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma ni'n dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un o'n criw ni.” 50“Peidiwch gwneud hynny,” meddai Iesu. “Os ydy rhywun ddim yn eich erbyn chi, mae o'ch plaid chi.”Pobl Samaria yn ei wrthwynebu
51Dyma Iesu'n cychwyn ar y daith i Jerwsalem, gan fod yr amser yn agosáu iddo fynd yn ôl i'r nefoedd. 52Anfonodd negeswyr o'i flaen, a dyma nhw'n mynd i un o bentrefi Samaria i baratoi ar ei gyfer; 53ond dyma'r bobl yno yn gwrthod rhoi croeso iddo am ei fod ar ei ffordd i Jerwsalem. 54Pan glywodd Iago ac Ioan am hyn, dyma nhw'n dweud wrth Iesu, “Arglwydd, wyt ti am i ni alw tân i lawr o'r nefoedd i'w dinistrio nhw?” f 55A dyma Iesu'n troi atyn nhw a'u ceryddu nhw am ddweud y fath beth. 56A dyma nhw'n mynd yn eu blaenau i bentref arall.Y gost o ddilyn Iesu
(Mathew 8:19-22) 57Wrth iddyn nhw gerdded ar hyd y ffordd, dyma rywun yn dweud wrtho, “Dw i'n fodlon dy ddilyn di ble bynnag byddi di'n mynd!” 58Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.” 59Dwedodd Iesu wrth rywun arall, “Tyrd, dilyn fi.” Ond dyma'r dyn yn dweud, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.” 60Ond ateb Iesu oedd, “Gad i'r rhai sy'n farw eu hunain gladdu eu meirw; dy waith di ydy cyhoeddi fod Duw yn dod i deyrnasu.” 61Dwedodd rhywun arall wedyn, “Gwna i dy ddilyn di, Arglwydd; ond gad i mi fynd i ffarwelio â'm teulu gyntaf.” 62Atebodd Iesu, “Dydy'r sawl sy'n gafael yn yr aradr ac yn edrych yn ôl ddim ffit i wasanaethu'r Duw sy'n teyrnasu.”
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024