b Eseia 6:9 (LXX)

‏ Luke 8

Y gwragedd oedd yn helpu Iesu

1Am beth amser wedyn roedd Iesu'n teithio o gwmpas y trefi a'r pentrefi yn cyhoeddi'r newyddion da am Dduw yn teyrnasu. Roedd y deuddeg disgybl gydag e, 2a hefyd rhyw wragedd oedd wedi cael eu hiacháu o effeithiau ysbrydion drwg ac afiechydon: Mair, oedd yn cael ei galw'n Magdalen – roedd saith o gythreuliaid wedi dod allan ohoni hi; 3Joanna, gwraig Chwsa (prif reolwr palas Herod)
8:3 Herod: Herod Antipas, mab Herod Fawr.
; Swsana, a nifer o rai eraill oedd yn defnyddio eu harian i helpu i gynnal Iesu a'i ddisgyblion.

Stori'r ffermwr yn hau

(Mathew 13:1-17; Marc 4:1-12)

4Dwedodd y stori yma pan oedd tyrfa fawr o bobl o wahanol drefi wedi casglu at ei gilydd: 5“Aeth ffermwr allan i hau hadau. Wrth iddo wasgaru'r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr. Cafodd ei sathru dan draed, a dyma'r adar yn ei fwyta. 6Dyma beth ohono yn syrthio ar dir creigiog, ond wrth ddechrau tyfu dyma fe'n gwywo am fod dim dŵr ganddo. 7A dyma beth yn syrthio i ganol drain. Tyfodd y drain yr un pryd a thagu'r planhigion. 8Ond syrthiodd peth ohono ar bridd da. Tyfodd hwnnw, a rhoddodd gnwd oedd gan gwaith mwy na beth gafodd ei hau.”

Ar ôl dweud hyn, galwodd allan yn uchel, “Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”

9Yn nes ymlaen dyma'i ddisgyblion yn gofyn iddo beth oedd ystyr y stori. 10Atebodd Iesu, “Dych chi'n cael gwybod beth ydy'r gyfrinach am deyrnasiad Duw, ond i eraill dw i ddim ond yn adrodd straeon, felly,

‘Er eu bod yn edrych, chân nhw ddim gweld;
er eu bod yn gwrando, chân nhw ddim deall.’ b

Iesu'n esbonio'r stori am y ffermwr yn hau

(Mathew 13:18-23; Marc 4:13-20)

11“Dyma beth ydy ystyr y stori: Neges Duw ydy'r hadau. 12Y rhai ar y llwybr ydy'r bobl sy'n clywed y neges, ond mae'r diafol yn dod ac yn cipio'r neges oddi arnyn nhw, i'w rhwystro nhw rhag credu a chael eu hachub. 13Y rhai ar y tir creigiog ydy'r bobl hynny sy'n derbyn y neges yn frwd i ddechrau, ond dydy'r neges ddim yn gafael ynddyn nhw. Maen nhw'n credu am sbel, ond pan ddaw'r amser iddyn nhw gael eu profi maen nhw'n rhoi'r gorau iddi. 14Yna'r rhai syrthiodd i ganol drain ydy'r bobl sy'n clywed y neges, ond mae poeni drwy'r adeg am bethau fel cyfoeth a phleserau yn eu tagu, a dŷn nhw ddim yn aeddfedu. 15Ond yr hadau syrthiodd i bridd da ydy'r bobl hynny sy'n clywed y neges ac yn dal gafael i'r diwedd – pobl sydd â chalon agored ddidwyll. Mae'r effaith ar eu bywydau nhw fel cnwd anferth.

Lamp ar fwrdd

(Marc 4:21-25)

16“Dydy pobl ddim yn goleuo lamp ac yna'n rhoi rhywbeth drosti neu'n ei chuddio dan y gwely. Na, mae'n cael ei gosod ar fwrdd, er mwyn i bawb sy'n dod i mewn allu gweld. 17Bydd popeth sydd wedi ei guddio yn cael ei weld yn glir maes o law. Bydd pob cyfrinach yn cael ei rhannu ac yn dod i'r golwg. 18Felly gwrandwch yn ofalus. Bydd y rhai sydd wedi deall yn derbyn mwy; ond am y rhai hynny sydd heb ddeall, bydd hyd yn oed yr hyn maen nhw'n meddwl maen nhw'n ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw.”

Mam a brodyr Iesu

(Mathew 12:46-50; Marc 3:31-35)

19Yna cyrhaeddodd mam Iesu a'i frodyr yno, ond roedden nhw'n methu mynd yn agos ato o achos y dyrfa. 20Dwedodd rhywun wrtho, “Mae dy fam a dy frodyr yn sefyll y tu allan, eisiau dy weld di.”

21Ond atebodd Iesu, “Fy mam a'm brodyr i ydy'r bobl sy'n clywed neges Duw ac yn gwneud beth mae'n ei ddweud.”

Iesu'n tawelu'r storm

(Mathew 8:23-27; Marc 4:35-41)

22Un diwrnod dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Beth am i ni groesi i ochr draw'r llyn?”
8:22 ochr draw'r llyn: ochr ddwyreiniol Llyn Galilea. Doedd rhan fwya'r bobl oedd yn byw yno ddim yn Iddewon.
Felly i ffwrdd â nhw mewn cwch.
23Wrth groesi'r llyn syrthiodd Iesu i gysgu. Daeth storm ofnadwy ar y llyn ac roedd y cwch yn llenwi â dŵr nes eu bod nhw mewn peryg o suddo.

24Dyma'r disgyblion yn mynd at Iesu a'i ddeffro, ac yn dweud wrtho, “Feistr! dŷn ni'n suddo feistr!” Cododd Iesu ar ei draed a cheryddu'r gwynt a'r tonnau gwyllt; a dyma'r storm yn stopio, ac roedd pobman yn hollol dawel. 25“Ble mae'ch ffydd chi?” gofynnodd i'w ddisgyblion.

Roedden nhw wedi dychryn ac yn rhyfeddu at beth ddigwyddodd. “Pwy ydy hwn?” medden nhw, “Mae hyd yn oed yn rhoi gorchymyn i'r gwynt a'r dŵr, ac maen nhw'n ufuddhau iddo.”

Iacháu y dyn yng ngafael cythraul

(Mathew 8:28-34; Marc 5:1-20)

26Dyma nhw'n cyrraedd ardal Gerasa
8:26 Gerasa: Neu, Gergesa yn ôl rhai llawysgrifau.
sydd yr ochr draw i'r llyn o Galilea.
27Wrth i Iesu gamu allan o'r cwch i'r lan dyma ddyn o'r dref oedd yng ngafael cythreuliaid yn dod i'w gyfarfod. Doedd y dyn yma ddim wedi gwisgo dillad na byw mewn tŷ ers amser maith – roedd wedi bod yn byw yng nghanol y beddau. 28Pan welodd Iesu, rhoddodd y dyn sgrech a syrthio i lawr o'i flaen tan weiddi nerth ei ben, “Gad di lonydd i mi, Iesu, mab y Duw Goruchaf! Dw i'n crefu arnat ti, paid poenydio fi!” 29(Roedd Iesu newydd orchymyn i'r ysbryd drwg ddod allan o'r dyn. Ers amser hir roedd yr ysbryd wedi meistroli'r dyn yn llwyr. Roedd rhaid iddo gael ei warchod, gyda'i ddwylo a'i draed mewn cadwyni. Ond roedd yn llwyddo i ddianc o hyd, ac roedd y cythraul yn ei yrru allan i'r anialwch.)

30A dyma Iesu'n gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di?”

“Lleng,” atebodd, achos roedd llawer o gythreuliaid wedi mynd iddo. 31Roedden nhw'n pledio'n daer ar i Iesu beidio gorchymyn iddyn nhw fynd i'r dyfnder tywyll.
8:31 dyfnder tywyll: Lle roedd ysbrydion drwg yn cael eu cadw a'u cosbi.

32Roedd cenfaint fawr o foch yn pori ar ochr bryn cyfagos, a dyma'r cythreuliaid yn pledio ar Iesu i adael iddyn nhw fynd i fyw yn y moch. Felly dyma Iesu'n rhoi caniatâd iddyn nhw. 33Pan aeth y cythreuliaid allan o'r dyn a mynd i mewn i'r moch, dyma'r moch i gyd yn rhuthro i lawr y llechwedd serth i mewn i'r llyn, a boddi.

34Pan welodd y rhai oedd yn gofalu am y moch beth ddigwyddodd, dyma nhw'n rhedeg i ffwrdd a dweud wrth bawb. 35Aeth pobl allan i weld drostyn nhw'u hunain. Dyma nhw'n dychryn pan ddaethon nhw at Iesu, achos dyna lle roedd y dyn roedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn eistedd yn dawel o flaen Iesu yn gwisgo dillad ac yn ei iawn bwyll. 36Dwedodd y llygad-dystion eto sut roedd y dyn yng ngafael cythreuliaid wedi cael ei iacháu. 37Felly ar ôl hynny dyma bobl ardal Gerasa
8:37 Gerasa: gw. nodyn ar 8:26.
i gyd yn gofyn i Iesu adael, achos roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. Felly aeth Iesu yn ôl i'r cwch.

38Dyma'r dyn roedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn erfyn am gael aros gydag e, ond dyma Iesu yn ei anfon i ffwrdd a dweud wrtho, 39“Dos yn ôl adre i ddweud am y cwbl mae Duw wedi ei wneud i ti.” Felly i ffwrdd â'r dyn, a dweud wrth bawb yn y dref am bopeth roedd Iesu wedi ei wneud iddo.

Merch fach wedi marw a gwraig oedd â gwaedlif

(Mathew 9:18-26; Marc 5:21-43)

40Pan aeth Iesu yn ôl i ochr draw'r llyn, roedd tyrfa yno i'w groesawu – roedden nhw wedi bod yn disgwyl amdano. 41Dyma ddyn o'r enw Jairus, un o arweinwyr y synagog, yn dod ato. Syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu a chrefu'n daer arno i fynd i'w dŷ. 42Roedd ei ferch fach ddeuddeg oed, oedd yn unig blentyn, yn marw. Wrth iddo fynd, roedd y dyrfa yn gwasgu o'i gwmpas. 43Yn eu canol roedd gwraig oedd wedi bod â gwaedlif arni ers deuddeng mlynedd, a doedd neb yn gallu ei gwella. 44Sleifiodd at Iesu o'r tu ôl iddo a chyffwrdd y taselau ar ei glogyn, a dyma'r gwaedu yn stopio'n syth. 45“Pwy gyffyrddodd fi?” gofynnodd Iesu.

Wrth i bawb wadu'r peth, dyma Pedr yn dweud, “Ond Feistr, mae'r bobl yma i gyd yn gwthio ac yn gwasgu o dy gwmpas di!”

46Ond dyma Iesu'n dweud, “Mae rhywun wedi nghyffwrdd i; dw i'n gwybod fod nerth wedi llifo allan ohono i.”

47Pan sylweddolodd y wraig ei bod hi ddim yn mynd i osgoi sylw, dyma hi'n dod a syrthio o'i flaen yn dal i grynu. Esboniodd o flaen pawb pam roedd hi wedi cyffwrdd Iesu, a'i bod wedi cael ei hiacháu y funud honno. 48A dyma Iesu'n dweud wrthi, “Wraig annwyl, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu. Dos adre! Bendith Duw arnat ti!”

49Tra oedd Iesu'n siarad, roedd dyn o dŷ Jairus wedi cyrraedd, a dweud wrtho, “Mae dy ferch wedi marw, felly paid poeni'r athro ddim mwy.”

50Pan glywodd Iesu hyn, meddai wrth Jairus, “Paid bod ofn; dalia i gredu, a bydd hi'n cael ei hiacháu.”

51Pan gyrhaeddodd dŷ Jairus, dim ond Pedr, Ioan a Iago, a rhieni'r ferch fach gafodd fynd i mewn gydag e. 52Roedd y lle'n llawn o bobl yn galaru ac udo crïo ar ei hôl. “Stopiwch y sŵn yma,” meddai Iesu, “dydy hi ddim wedi marw – cysgu mae hi!” 53Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben, gan eu bod nhw'n gwybod ei bod hi wedi marw. 54Dyma Iesu'n gafael yn llaw'r ferch fach a dweud, “Cod ar dy draed mhlentyn i!” 55Daeth bywyd yn ôl i'w chorff a chododd ar ei thraed yn y fan a'r lle. Wedyn dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw am roi rhywbeth i'w fwyta iddi. 56Roedd ei rhieni wedi eu syfrdanu, ond rhybuddiodd Iesu nhw i beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd.

Copyright information for CYM