Luke 18
Stori am wraig weddw oedd yn gwrthod rhoi'r gorau iddi
1Dwedodd Iesu stori wrth ei ddisgyblion i ddangos y dylen nhw ddal ati i weddïo, a pheidio byth ag anobeithio: 2“Roedd barnwr yn byw mewn rhyw dref,” meddai, “dyn oedd ddim yn parchu Duw na neb arall. 3Ac yn yr un dref roedd gwraig weddw oedd yn mynd ato o hyd ac o hyd i ofyn iddo farnu rhywun oedd wedi gwneud niwed iddi. 4“Chymerodd y barnwr ddim sylw ohoni i ddechrau. Ond yn y diwedd roedd wedi cael hen ddigon – ‘Dw i ddim yn ddyn duwiol a dw i ddim yn poeni beth mae pobl eraill yn ei feddwl ohono i. 5Ond bydd y wraig yma wedi ngyrru i'n wallgof os na wna i beth mae hi eisiau!’” 6Yna meddai'r Arglwydd, “Gwrandwch, mae gwers i'w dysgu yma. 7Dych chi'n gwybod beth ddwedodd y barnwr drwg. Felly beth am Dduw? Dych chi ddim yn meddwl y bydd e'n amddiffyn y bobl mae wedi eu dewis iddo'i hun? Fydd e ddim yn oedi! Bydd yn ymateb ar unwaith i'r rhai sy'n galw arno ddydd a nos! 8Dw i'n dweud wrthoch chi, bydd yn rhoi dedfryd gyfiawn iddyn nhw, a hynny ar frys! Ond, pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl, faint o bobl fydd yn dal i gredu bryd hynny?”Stori am y Pharisead a'r casglwr trethi
9Dwedodd Iesu y stori yma wrth rai pobl oedd yn meddwl eu bod nhw eu hunain mor dduwiol, ac yn edrych i lawr eu trwynau ar bawb arall: 10“Aeth dau ddyn i weddïo yn y deml. Pharisead oedd un ohonyn nhw, a'r llall yn ddyn oedd yn casglu trethi i Rufain. 11Dyma'r Pharisead yn sefyll ar ei draed yn hyderus, a dyma oedd ei weddi: ‘O Dduw, dw i yn diolch i ti mod i ddim yr un fath â phobl eraill. Dw i ddim yn twyllo na gwneud dim byd drwg arall, a dw i ddim yn gwneud pethau anfoesol. Dw i ddim yr un fath â'r bradwr yma! 12Dw i'n ymprydio ddwywaith yr wythnos ac yn rhoi un rhan o ddeg o bopeth sydd gen i i'r deml.’ 13“Ond roedd y casglwr trethi wedi mynd i sefyll mewn rhyw gornel ar ei ben ei hun. Doedd e ddim yn meiddio edrych i fyny hyd yn oed. Yn lle hynny roedd yn curo ei frest mewn cywilydd. Dyma oedd ei weddi e: ‘O Dduw, wnei di faddau i mi. Dw i'n bechadur ofnadwy.’ 14“Dw i'n dweud wrthoch chi mai'r casglwr trethi, dim y Pharisead, oedd yr un aeth adre a'i berthynas gyda Duw yn iawn. Bydd Duw yn torri crib pobl falch ac yn anrhydeddu'r rhai gostyngedig.”Iesu a'r plant bach
(Mathew 19:13-15; Marc 10:13-16) 15Roedd pobl yn dod â'u babanod at Iesu er mwyn iddo eu cyffwrdd a'u bendithio. Ond pan welodd y disgyblion nhw, dyma nhw'n dweud y drefn wrthyn nhw. 16Ond dyma Iesu'n eu galw nhw ato. “Gadewch i'r plant bach ddod ata i,” meddai, “Peidiwch eu rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad Duw. 17Credwch chi fi, heb ymddiried fel plentyn bach, wnewch chi byth ddod yn un o'r rhai mae Duw'n teyrnasu yn eu bywydau.”Y dyn cyfoethog
(Mathew 19:16-30; Marc 10:17-31) 18Un tro gofynnodd rhyw arweinydd crefyddol y cwestiwn yma i Iesu: “Athro da, beth alla i ei wneud i gael bywyd tragwyddol?” 19“Pam wyt ti'n fy ngalw i'n dda?” meddai Iesu. “Onid Duw ydy'r unig un sy'n dda? 20Ti'n gwybod beth wnaeth Duw ei orchymyn: ‘Paid godinebu, paid llofruddio, paid dwyn, paid rhoi tystiolaeth ffals, gofala am dy dad a dy fam.’ a” 21Atebodd y dyn, “Dw i wedi cadw'r rheolau yma i gyd ers pan o'n i'n fachgen ifanc.” 22Pan glywodd Iesu hynny, dwedodd wrth y dyn, “Mae un peth arall ar ôl. Gwertha bopeth, dy eiddo i gyd, a rhannu'r arian gyda phobl dlawd. Wedyn cei di drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.” 23Doedd y dyn ddim yn hapus o gwbl pan glywodd beth ddwedodd Iesu, am ei fod yn ddyn cyfoethog dros ben. 24Edrychodd Iesu ar y dyn yn cerdded i ffwrdd, ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mae hi mor anodd i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau! 25Mae'n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!” 26Dyma'r rhai glywodd hyn yn dweud, “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?” 27Atebodd Iesu, “Mae Duw yn gallu gwneud beth sy'n amhosib i bobl ei wneud.” 28Dyma Pedr yn ymateb, “Ond dŷn ni wedi gadael popeth sydd gynnon ni i dy ddilyn di!” 29“Credwch chi fi,” meddai Iesu wrthyn nhw, “bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref a gadael gwraig neu frodyr neu rieni neu blant er mwyn teyrnas Dduw 30yn derbyn llawer iawn mwy yn y bywyd yma. Ac yn yr oes sydd i ddod byddan nhw'n derbyn bywyd tragwyddol!”Iesu'n dweud eto ei fod yn mynd i farw
(Mathew 20:17-19; Marc 10:32-34) 31Aeth Iesu â'r deuddeg disgybl i'r naill ochr, a dweud wrthyn nhw, “Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem, daw'r cwbl mae'r proffwydi wedi ei ysgrifennu amdana i, Mab y Dyn, yn wir. 32Bydda i'n cael fy rhoi yn nwylo'r Rhufeiniaid. ▼▼18:32 Rhufeiniaid: Groeg, “estroniaid”.
Byddan nhw'n gwneud sbort ar fy mhen, yn fy ngham-drin, ac yn poeri arna i. 33Yna bydda i'n cael fy chwipio a'm lladd. Ond yna, ddeuddydd wedyn bydda i'n dod yn ôl yn fyw.” 34Doedd y disgyblion ddim yn deall hyn o gwbl. Roedd y cwbl yn ddirgelwch pur iddyn nhw, a doedd ganddyn nhw ddim syniad am beth roedd e'n siarad. Cardotyn dall yn cael gweld
(Mathew 20:29-34; Marc 10:46-52) 35Pan oedd Iesu'n agosáu at Jericho dyma ddyn dall oedd yn cardota ar ochr y ffordd 36yn clywed sŵn tyrfa o bobl yn pasio heibio, a dyma fe'n gofyn, “Beth sy'n digwydd?” 37“Iesu o Nasareth sy'n pasio heibio,” meddai rhywun wrtho. 38Felly dyma'r dyn dall yn gweiddi'n uchel, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!” 39“Cau dy geg!” meddai'r bobl oedd ar flaen y dyrfa. Ond yn lle hynny dechreuodd weiddi'n uwch fyth, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!” 40Dyma Iesu'n stopio, ac yn dweud wrthyn nhw am ddod â'r dyn ato. Pan ddaeth ato, gofynnodd i'r dyn, 41“Beth ga i wneud i ti?” “Arglwydd,” meddai, “dw i eisiau gallu gweld.” 42Yna dwedodd Iesu wrtho, “Iawn, cei di weld; am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” 43Yn sydyn roedd y dyn yn gweld, a dilynodd Iesu gan foli Duw. Ac roedd pawb welodd beth ddigwyddodd yn moli Duw hefyd!
Copyright information for
CYM