agw. Exodus 20:9,10; Deuteronomium 5:13,14
Luke 13
Troi at Dduw neu gael eich dinistrio
1Dyma bobl yn dod a dweud wrth Iesu fod Peilat wedi lladd rhyw bobl o Galilea pan oedden nhw wrthi'n aberthu i Dduw. 2“Ydych chi'n meddwl fod y Galileaid yna yn bechaduriaid gwaeth na phobl eraill Galilea? Ai dyna pam wnaethon nhw ddioddef?” 3“Nage! dim o gwbl! Cewch chithau hefyd eich dinistrio os fyddwch chi ddim yn newid eich ffyrdd a throi at Dduw!” 4“Neu beth am y bobl yna gafodd eu lladd pan syrthiodd tŵr Siloam ar eu pennau? – un deg wyth ohonyn nhw! Ydych chi'n meddwl eu bod nhw'n waeth na phawb arall oedd yn byw yn Jerwsalem?” 5“Nac oedden! Dim o gwbl! Ond byddwch chithau hefyd yn cael eich dinistrio os fyddwch chi ddim yn troi at Dduw!”Stori y goeden ffigys ddiffrwyth
6Yna dwedodd y stori yma: “Roedd rhyw ddyn wedi plannu coeden ffigys yn ei winllan. Bu'n disgwyl a disgwyl i rywbeth dyfu arni, ond chafodd e ddim byd. 7Felly dyma'r dyn yn dweud wrth y gwas oedd yn gweithio fel garddwr iddo, ‘Dw i wedi bod yn disgwyl i ffrwyth dyfu ar y goeden ffigys yma ers tair blynedd, ac wedi cael dim. Torra hi i lawr, mae hi'n wastraff o dir da.’ 8“‘Ond syr,’ meddai'r garddwr, ‘gad hi am flwyddyn arall, i mi balu o'i chwmpas hi a rhoi digon o wrtaith iddi. 9Wedyn os bydd ffrwyth yn tyfu arni, gwych! Ond os bydd dim ffrwyth eto, yna torrwn hi i lawr.’”Gwraig anabl yn cael ei hiacháu ar y Saboth
10Roedd Iesu'n dysgu yn un o'r synagogau ryw Saboth, 11ac roedd gwraig yno oedd ag ysbryd drwg wedi ei gwneud hi'n anabl ers un deg wyth mlynedd. Roedd ei chefn wedi crymu nes ei bod yn methu sefyll yn syth o gwbl. 12Dyma Iesu'n ei gweld hi ac yn ei galw draw ato. “Wraig annwyl,” meddai wrthi “rwyt ti'n mynd i gael dy iacháu o dy wendid.” 13Yna rhoddodd ei ddwylo arni, a dyma ei chefn yn sythu yn y fan a'r lle. A dechreuodd foli Duw. 14Ond roedd arweinydd y synagog wedi gwylltio am fod Iesu wedi iacháu ar y Saboth. Cododd a dweud wrth y bobl oedd yno, “Mae yna chwe diwrnod i weithio. Dewch i gael eich iacháu y dyddiau hynny, dim ar y Saboth!” a 15Ond meddai'r Arglwydd wrtho, “Rwyt ti mor ddauwynebog! Dych chi i gyd yn gollwng ychen ac asyn yn rhydd ar y Saboth, ac yn eu harwain at ddŵr! 16Dyma i chi un o blant Abraham – gwraig wedi ei rhwymo gan Satan ers un deg wyth mlynedd! Onid ydy'n iawn iddi hi hefyd gael ei gollwng yn rhydd ar y Saboth?” 17Roedd ei eiriau yn codi cywilydd ar ei wrthwynebwyr i gyd. Ond roedd y bobl gyffredin wrth eu bodd gyda'r holl bethau gwych roedd yn eu gwneud.Stori'r hedyn mwstard a stori'r burum
(Mathew 13:31-33; Marc 4:30-32) 18Gofynnodd Iesu, “Sut beth ydy teyrnasiad Duw? Sut alla i ei ddisgrifio? 19Mae fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei ardd. Tyfodd yn goeden, a daeth yr adar i nythu yn ei changhennau!” 20A gofynnodd eto, “Sut beth ydy teyrnasiad Duw? 21Mae fel burum. Mae gwraig yn ei gymryd ac yn ei gymysgu gyda digonedd o flawd nes iddo ledu drwy'r toes i gyd.”Y drws cul
(Mathew 7:13-14,21-23) 22Ar ei ffordd i Jerwsalem roedd Iesu'n galw yn y trefi a'r pentrefi i gyd ac yn dysgu'r bobl. 23Dyma rywun yn gofyn iddo, “Arglwydd, ai dim ond ychydig bach o bobl sy'n mynd i gael eu hachub?” Dyma'i ateb: 24“Gwnewch eich gorau glas i gael mynd drwy'r drws cul. Wir i chi, bydd llawer yn ceisio mynd i mewn ond yn methu. 25Pan fydd perchennog y tŷ wedi codi i gau'r drws, bydd hi'n rhy hwyr. Byddwch chi'n sefyll y tu allan yn curo ac yn pledio, ‘Syr, agor y drws i ni.’ Ond bydd yn ateb, ‘Dw i ddim yn gwybod pwy ydych chi.’ 26Byddwch chithau'n dweud, ‘Buon ni'n bwyta ac yn yfed gyda ti. Roeddet ti'n dysgu ar ein strydoedd ni.’ 27A bydd e'n ateb eto, ‘Dw i ddim yn eich nabod chi. Ewch o ma! Pobl ddrwg ydych chi i gyd!’ 28“Byddwch chi'n wylo'n chwerw ac mewn artaith, wrth weld Abraham, Isaac a Jacob a'r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chi'ch hunain wedi eich taflu allan. 29Bydd pobl yn dod o bob rhan o'r byd i wledda pan ddaw Duw i deyrnasu. 30Yn wir bydd y rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen, a'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn.”Cariad Iesu at Jerwsalem
(Mathew 23:37-39) 31Yna daeth rhyw Phariseaid at Iesu a dweud wrtho, “Rhaid i ti ddianc o ma. Mae Herod ▼▼13:31 Herod: Herod Antipas, mab Herod Fawr.
Antipas eisiau dy ladd di.” 32Atebodd Iesu, “Ewch i ddweud wrth y llwynog, ‘Bydda i'n bwrw cythreuliaid allan ac yn iacháu pobl heddiw a fory, a'r diwrnod wedyn bydda i wedi cyrraedd lle dw i'n mynd.’ 33Mae'n rhaid i mi ddal i fynd am dri diwrnod arall – does dim un proffwyd yn marw y tu allan i Jerwsalem! 34“O! Jerwsalem, Jerwsalem! Y ddinas sy'n lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r negeswyr mae Duw'n eu hanfon ati. Mor aml dw i wedi hiraethu am gael casglu dy blant at ei gilydd, fel mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd – ond doedd gen ti ddim diddordeb! 35Edrych! Mae Duw wedi gadael dy deml. Dw i'n dweud hyn – fyddi di ddim yn fy ngweld i eto nes byddi'n dweud, ‘Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr!’”
Copyright information for
CYM