Leviticus 8
Ordeinio Aaron a'i feibion yn Offeiriaid
(Exodus 29:1-37) 1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 2“Galw Aaron a'i feibion. Cymer eu gwisgoedd, yr olew eneinio, y tarw ifanc i'w offrymu dros eu pechod, y ddau hwrdd, a basged o fara wedi ei bobi heb furum. 3Wedyn galw bobl Israel i gyd at ei gilydd o flaen y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.” 4A dyma Moses yn gwneud fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrtho. Pan oedd pawb yno 5dyma Moses yn cyhoeddi, “Yr Arglwydd sydd wedi gorchymyn gwneud hyn.” 6A dyma fe'n galw Aaron a'i feibion i ddod ymlaen. Dyma fe'n eu golchi nhw gyda dŵr. 7Wedyn dyma fe'n rhoi crys am Aaron, a'i rwymo am ei ganol gyda sash. Yna rhoi mantell yr offeiriad amdano, a'r effod dros ei ysgwyddau, a'i glymu gyda strap wedi ei blethu. 8Wedyn dyma fe'n gosod y boced oedd i fynd dros y frest arno, gyda'r Wrim a'r Thwmim ynddi. 9Ac yn olaf dyma fe'n rhoi twrban ar ben Aaron. Ar flaen y twrban gosododd fedaliwn aur bach yn symbol ei fod wedi ei gysegru i wasanaethu Duw. Gwnaeth Moses bopeth fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn iddo. 10Yna nesaf, dyma Moses yn cymryd yr olew eneinio a'i daenellu ar y Tabernacl a phopeth ynddo i'w cysegru nhw. 11Dyma fe'n taenellu peth ar yr allor saith gwaith. Taenellu peth ar yr offer i gyd, a'r ddisgyl bres fawr a'i stand. 12Ac wedyn dyma fe'n tywallt peth o'r olew ar ben Aaron, i'w gysegru i waith yr Arglwydd. 13Yna dyma Moses yn gwisgo meibion Aaron yn eu crysau, rhwymo sash am eu canol, a rhoi cap ar eu pennau. Gwnaeth Moses bopeth fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn iddo. 14Wedyn dyma Moses yn cymryd y tarw ifanc oedd i gael ei offrymu i'w glanhau o'u pechodau, a dyma Aaron a'i feibion yn gosod eu dwylo ar ben yr anifail. 15Ar ôl i'r tarw gael ei ladd dyma Moses yn cymryd peth o'r gwaed a'i roi gyda'i fys ar gyrn yr allor i'w phuro hi. Wedyn dyma fe'n tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor. Dyma sut wnaeth e gysegru'r allor, a'i gwneud hi'n iawn i aberthu arni. 16Yna cymerodd y brasder oedd o gwmpas perfeddion y tarw, rhan isaf yr iau, a'r ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a'i llosgi nhw ar yr allor. 17Wedyn dyma fe'n cymryd gweddill y tarw, ei groen, y cig a'r coluddion, a'i losgi tu allan i'r gwersyll, yn union fel roedd yr Arglwydd wedi dweud. 18Nesaf, dyma Moses yn cymryd yr hwrdd oedd i'w gyflwyno'n offrwm i'w losgi, a dyma Aaron a'i feibion yn gosod eu dwylo ar ben yr anifail. 19Ar ôl i'r hwrdd gael ei ladd, dyma Moses yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor. 20Roedd yr hwrdd wedyn yn cael ei dorri'n ddarnau, cyn i Moses losgi'r pen a'r darnau a'i frasder. 21Yna ar ôl golchi'r coluddion a'r coesau ôl gyda dŵr, dyma Moses yn llosgi'r hwrdd cyfan ar yr allor. Offrwm i'w losgi oedd e, ac yn arogli'n hyfryd i'r Arglwydd. Gwnaeth Moses bopeth fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn iddo. 22Wedyn dyma Moses yn cymryd yr ail hwrdd, sef hwrdd yr ordeinio, a dyma Aaron a'i feibion yn gosod eu dwylo ar ben yr anifail. 23Ar ôl i'r hwrdd gael ei ladd, dyma Moses yn rhoi peth o'r gwaed ar glust dde Aaron, bawd ei law dde, a bawd ei droed dde. 24Yna dyma fe'n gwneud yr un peth i feibion Aaron, cyn sblasio gweddill y gwaed o gwmpas yr allor. 25Yna dyma fe'n cymryd y brasder – sef brasder y gynffon, y brasder o gwmpas y perfeddion, rhan isaf yr iau, a'r ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw – a darn uchaf y goes ôl dde. 26Yna cymerodd Moses o'r fasged beth o'r bara wedi ei wneud gyda'r blawd gwenith gorau – un dorth o fara heb furum ynddo, un dorth wedi ei socian mewn olew olewydd, ac un o'r bisgedi. 27Yna eu gosod nhw ar ben y brasder a darn uchaf y goes ôl dde, a rhoi'r cwbl yn nwylo Aaron a'i feibion. A dyma nhw'n ei godi'n uchel a'i gyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr Arglwydd. 28Wedyn dyma Moses yn cymryd y cwbl yn ôl ac yn ei losgi ar yr allor gyda'r offrwm sydd i'w losgi'n llwyr. Roedd hwn yn offrwm ordeinio, ac yn arogli'n hyfryd i'r Arglwydd. 29Yna dyma Moses yn codi'r frest yn uchel a'i chyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr Arglwydd. Roedd Moses yn cael cadw'r rhan yma o hwrdd yr ordeinio, yn union fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrtho. 30Yna'n olaf dyma Moses yn cymryd peth o'r olew eneinio a peth o'r gwaed oedd ar yr allor a'i daenellu ar Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd. Dyna sut wnaeth e gysegru Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd i wasanaeth yr Arglwydd. 31A dyma Moses yn dweud wrth Aaron a'i feibion, “Rhaid i chi goginio cig yr hwrdd yma wrth y fynedfa i'r Tabernacl. Yna ei fwyta gyda'r bara sydd yn y fasged sy'n dal yr offrymau ordeinio. Mae Duw wedi dweud wrtho i mai dim ond chi sydd i fod i'w fwyta. 32Wedyn rhaid i chi losgi'r cig ar bara sydd ar ôl. 33Rhaid i chi aros yma wrth y fynedfa i'r Tabernacl am saith diwrnod, nes bydd cyfnod y seremoni ordeinio drosodd. 34Dŷn ni wedi gwneud popeth heddiw yn union fel mae'r Arglwydd wedi dweud, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi a fe. 35Nawr, mae'r Arglwydd wedi dweud wrtho i fod rhaid i chi aros wrth y fynedfa i'r Tabernacl nos a dydd am saith diwrnod, neu byddwch chi'n marw.” 36A dyma Aaron a'i feibion yn gwneud popeth oedd yr Arglwydd wedi ei orchymyn drwy Moses.
Copyright information for
CYM