Judges 9
Abimelech eisiau bod yn frenin
1Dyma Abimelech, mab Jerwb-baal (sef Gideon), yn mynd i Sichem i weld ei berthnasau. Dwedodd wrthyn nhw, ac wrth bobl y clan i gyd, 2“Gofynnwch i arweinwyr Sichem, ‘Ydych chi eisiau saith deg o feibion Jerwb-baal yn llywodraethu arnoch chi, neu dim ond un dyn? Cofiwch mod i'n perthyn yn agos i chi.’” 3Felly dyma'i berthnasau yn mynd i weld arweinwyr Sichem ar ei ran. Roedden nhw'n tueddu i'w gefnogi, am ei fod yn perthyn yn agos iddyn nhw. 4Dyma nhw'n rhoi saith deg darn arian iddo o deml Baal-berith. A dyma Abimelech yn defnyddio'r arian i gyflogi criw o rapsgaliwns gwyllt i'w ddilyn. 5Dyma fe'n mynd i gartref ei dad yn Offra, a lladd ei frodyr, sef saith deg mab Gideon, ar yr un garreg. Dim ond Jotham, mab ifancaf Gideon, lwyddodd i ddianc drwy guddio. 6Yna dyma arweinwyr Sichem a Beth-milo yn dod at ei gilydd at y dderwen sydd wrth y golofn yn Sichem, i wneud Abimelech yn frenin. 7Pan glywodd Jotham am hyn dyma fe'n dringo i gopa Mynydd Gerisim. A dyma fe'n gweiddi'n uchel ar y bobl islaw, “Gwrandwch arna i, arweinwyr Sichem –os ydych chi eisiau i Dduw wrando arnoch chi.
8Aeth y coed allan i ddewis brenin.
A dyma nhw'n dweud wrth y goeden olewydd,
‘Bydd yn frenin arnon ni.’
9Ond atebodd y goeden olewydd,
‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu olew,
sy'n bendithio Duw a dynion,
er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’
10Felly dyma'r coed yn dweud wrth y goeden ffigys,
‘Bydd di yn frenin arnon ni.’
11Ond atebodd y goeden ffigys,
‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu ffigys melys,
fy ffrwyth hyfryd,
er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’
12Felly dyma'r coed yn dweud wrth y winwydden,
‘Bydd di yn frenin arnon ni.’
13Ond atebodd y winwydden,
‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu gwin,
sy'n gwneud duwiau a dynion yn hapus,
er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’
14Felly dyma'r coed yn dweud wrth berth o ddrain,
‘Bydd di yn frenin arnon ni.’
15A dyma'r berth ddrain yn ateb,
‘Os ydych chi wir eisiau fi'n frenin,
dewch i gysgodi oddi tanaf fi.
Os na wnewch chi,
bydda i'n cynnau tân
fydd yn llosgi coed cedrwydd Libanus.’
16“Roedd fy nhad i wedi ymladd drosoch chi a mentro'i fywyd i'ch achub chi o afael y Midianiaid. Ai dyma sut ydych chi'n diolch iddo? – trwy wneud Abimelech yn frenin! Ydych chi wedi ymddwyn yn anrhydeddus? Ydych chi wedi bod yn deg â Gideon ▼
▼9:16,19,24,28,57 Gideon Hebraeg, “Jerwb-baal”, ei lys-enw (gw. 6:32).
a'i deulu? Naddo! 18Dych chi wedi ei fradychu. Dych chi wedi lladd ei feibion – saith deg ohonyn nhw – ar un garreg! A dyma chi, yn gwneud Abimelech, mab ei gaethferch, yn frenin, dim ond am ei fod yn perthyn i chi! 19Os ydych chi wedi trin Gideon a'i deulu yn anrhydeddus, boed i Abimelech eich gwneud chi'n hapus, ac i chi ei wneud e'n hapus. 20Ond os ddim, boed i Abimelech gynnau tân fydd yn eich llosgi chi arweinwyr Sichem a Beth-milo! A boed i arweinwyr Sichem a Beth-milo gynnau tân fydd yn dinistrio Abimelech!” 21Yna dyma Jotham yn dianc i dref Beër, i gadw o ffordd Abimelech, ei hanner brawd. Sichem yn gwrthryfela yn erbyn Abimelech
22Pan oedd Abimelech wedi rheoli Israel am dair blynedd, 23anfonodd Duw ysbryd i godi helynt rhwng Abimelech ac arweinwyr Sichem. A dyma arweinwyr Sichem yn gwrthryfela yn ei erbyn. 24Gwnaeth Duw hyn i'w gosbi e ac arweinwyr Sichem am lofruddio meibion Gideon i gyd – saith deg ohonyn nhw! 25Dyma arweinwyr Sichem yn gosod lladron yn y bryniau, i ymosod ar bawb oedd yn teithio'r ffordd honno. Ond dyma Abimelech yn clywed am y peth. 26Bryd hynny, dyma Gaal fab Efed yn symud i fyw i Sichem gyda'i berthnasau. A dyma arweinwyr Sichem yn troi ato fe i'w hamddiffyn nhw. 27Pan oedd hi'n adeg y cynhaeaf grawnwin, roedd pobl Sichem wedi bod yn casglu'r grawnwin, eu sathru i gael y sudd ohonyn nhw, ac yna wedi mynd i deml eu Duw i ddathlu a cynnal parti. Roedden nhw'n rhegi Abimelech wrth fwynhau'r gwledda a'r yfed. 28“Pwy ydy Abimelech?” meddai Gaal fab Efed. “Pam ddylen ni, bobl Sichem, fod yn weision bach iddo? Mab Gideon ydy e, a Sebwl yn ddirprwy wedi ei benodi ganddo. Un o ddisgynyddion Hamor, tad Sechem, ddylen ni ei wasanaethu. Pam ddylen ni wasanaethu Abimelech? 29Petawn i'n rheoli pobl Sichem, byddwn i'n cael gwared ag Abimelech! Byddwn i'n dweud wrtho, ‘Gwell i ti gael byddin fwy os wyt ti am ddod allan yn ein herbyn ni!’” 30Pan glywodd Sebwl, llywodraethwr Sichem, beth oedd Gaal wedi ei ddweud, roedd yn wyllt gynddeiriog. 31Anfonodd negeswyr at Abimelech, oedd yn Arwma, ▼▼9:31 Arwma Tua 5 milltir o Sichem.
i ddweud, “Gwylia dy hun! Mae Gaal fab Efed a'i frodyr wedi dod i Sichem i godi twrw a chael y dref i wrthryfela yn dy erbyn di. 32Tyrd yma gyda dy fyddin dros nos, a disgwyl tu allan i'r dref. 33Yna wrth iddi wawrio bore yfory, ymosod arni. Pan fydd Gaal a'i ddynion yn dod allan i ymladd, gelli wneud beth fynni iddo.” 34Felly yn ystod y nos, dyma Abimelech a'i fyddin yn dod i baratoi i ymosod ar Sichem. Rhannodd ei fyddin yn bedair uned filwrol. 35Y bore wedyn roedd Gaal fab Efed wedi codi a mynd i sefyll tu allan i giât y dref, pan ddaeth Abimelech a'i fyddin i'r golwg. 36Pan welodd Gaal nhw, dyma fe'n dweud wrth Sebwl, “Edrych, mae yna bobl yn dod i lawr o'r mynyddoedd acw.” Ond dyma Sebwl yn dweud, “Cysgodion wyt ti'n eu gweld – mae'n edrych fel pobl o'r fan yma.” 37Ond dyma Gaal yn dweud eto, “Edrych eto, mae yna bobl yn dod o Tabbwr-erets, ac mae yna griw yn dod i lawr o gyfeiriad Derwen y Dewiniaid.” 38Yna dyma Sebwl yn dweud wrtho, “Ble mae'r geg fawr yna nawr? Ti ddwedodd, ‘Pwy ydy Abimelech i ni fod yn weision bach iddo?’ Wel, dyma'r dynion oeddet ti'n eu bychanu, felly dos allan i ymladd gyda nhw!” 39Felly dyma Gaal ac arweinwyr Sichem yn mynd allan i ymladd gydag Abimelech. 40Ond roedd rhaid iddyn nhw ddianc o flaen byddin Abimelech, a chafodd llawer iawn ohonyn nhw eu lladd yr holl ffordd at giât y dref. 41Yna dyma Abimelech yn mynd yn ôl i Arwma. A dyma Sebwl yn gyrru Gaal a'i berthnasau allan o Sichem. 42Ond y diwrnod wedyn dyma bobl Sichem yn dod allan eto. Pan glywodd Abimelech am y peth, 43dyma fe'n rhannu ei fyddin yn dair uned filwrol, a paratoi i ymosod. Ac wrth i'r bobl ddod allan o'r dref, dyma fe'n ymosod arnyn nhw. 44Aeth Abimelech a'i uned at giât y dref a blocio'r ffordd yn ôl, ac yna dyma'r ddwy uned arall yn taro'r bobl oedd wedi mynd allan i'r caeau, a'u lladd nhw. 45Aeth y frwydr ymlaen drwy'r dydd. Dyma Abimelech yn concro'r dref a lladd pawb oedd ynddi. Yna dyma fe'n chwalu'r dref a'i hadeiladau i gyd, a gwasgaru halen ▼▼9:45 gwasgaru halen seremoni i felltithio'r dref.
dros y safle. 46Pan glywodd arweinwyr Tŵr Sichem beth oedd wedi digwydd, dyma nhw'n mynd i guddio yn siambr danddaearol teml El-berith. 47Yna dyma Abimelech yn clywed fod arweinwyr Tŵr Sichem gyda'i gilydd yno. 48Felly dyma fe'n mynd a'i filwyr i ben Mynydd Salmon. Yna torrodd ganghennau oddi ar goeden gyda bwyell, a'u rhoi ar ei ysgwydd. Dwedodd wrth ei filwyr am wneud yr un peth ar unwaith. 49Dyma nhw'n gwneud hynny, a mynd ar ei ôl. Yna dyma nhw'n gosod y canghennau yn erbyn waliau'r gaer, a'u rhoi ar dân. Cafodd pawb oedd yn byw yn Tŵr Sichem eu lladd – tua mil o ddynion a merched. 50Wedyn dyma Abimelech yn mynd yn ei flaen i ymosod ar dref Thebes, a'i choncro. 51Roedd tŵr amddiffynnol yng nghanol y dref. A dyma'r arweinwyr a phawb arall yn rhedeg i'r tŵr a chloi'r drws. Yna dyma nhw'n dringo i ben to'r tŵr. 52Dyma Abimelech yn ymosod ar y tŵr, ond wrth iddo baratoi i roi'r fynedfa ar dân 53dyma ryw wraig yn gollwng maen melin ar ei ben a cracio'i benglog. 54Dyma fe'n galw ar y dyn ifanc oedd yn cario ei arfau, “Tynn dy gleddyf a lladd fi. Dw i ddim eisiau i bobl ddweud fod gwraig wedi fy lladd i.” Felly dyma'r dyn ifanc yn ei drywanu gyda'i gleddyf, a bu farw. 55Pan sylweddolodd dynion Israel fod Abimelech wedi marw dyma nhw i gyd yn mynd adre. 56Dyna sut wnaeth Duw gosbi Abimelech am y drwg wnaeth e i deulu ei dad trwy ladd ei saith deg hanner brawd. 57A dyna sut wnaeth Duw gosbi pobl Sichem hefyd, am y drwg wnaethon nhw. Daeth beth ddwedodd Jotham, mab Gideon, pan felltithiodd nhw, yn wir.
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024