Judges 11
Jefftha
1Roedd dyn yn Gilead o'r enw Jefftha. Roedd yn filwr dewr. Putain oedd ei fam, ond roedd e wedi cael ei fagu gan ei dad, Gilead. 2Roedd gan Gilead nifer o feibion eraill oedd yn blant i'w wraig. Pan oedd y rhain wedi tyfu dyma nhw'n gyrru Jefftha i ffwrdd. “Dwyt ti ddim yn mynd i etifeddu dim o eiddo'r teulu. Mab i wraig arall wyt ti.” 3Felly roedd rhaid i Jefftha ddianc oddi wrth ei frodyr. Aeth i fyw i ardal Tob, ac yn fuan iawn roedd yn arwain gang o rapsgaliwns gwyllt. 4Roedd hi beth amser ar ôl hyn pan ddechreuodd yr Ammoniaid ryfela yn erbyn Israel. 5A dyna pryd aeth arweinwyr Gilead i ardal Tob i ofyn i Jefftha ddod yn ôl. 6“Tyrd yn ôl i arwain y fyddin yn erbyn yr Ammoniaid,” medden nhw wrtho. 7“Ond roeddech chi'n fy nghasáu i,” meddai Jefftha. “Chi yrrodd fi oddi cartref! A dyma chi, nawr, yn troi ata i am eich bod mewn trwbwl!” 8“Mae'n wir,” meddai arweinwyr Gilead wrtho, “Dŷn ni yn troi atat ti i ofyn i ti arwain y frwydr yn erbyn yr Ammoniaid. Ond wedyn cei fod yn bennaeth Gilead i gyd!” 9A dyma Jefftha'n dweud, “Iawn. Os gwna i ddod gyda chi, a'r Arglwydd yn gadael i mi ennill y frwydr, fi fydd eich pennaeth chi.” 10Ac meddai'r arweinwyr, “Mae'r Arglwydd yn dyst a bydd yn ein barnu ni os na wnawn ni fel ti'n dweud.” 11Felly dyma Jefftha'n mynd gydag arweinwyr Gilead a dyma fe'n cael ei wneud yn bennaeth ac arweinydd y fyddin. A dyma Jefftha'n ailadrodd telerau'r cytundeb o flaen yr Arglwydd yn Mitspa. 12Yna dyma fe'n anfon negeswyr at frenin yr Ammoniaid i ofyn pam oedd e'n ymosod ar y wlad. 13Yr ateb roddodd brenin yr Ammoniaid i'r negeswyr oedd, “Am fod pobl Israel wedi dwyn ein tir ni pan ddaethon nhw o'r Aifft – o Afon Arnon yn y de i Afon Jabboc yn y gogledd, ac at yr Iorddonen yn y gorllewin. Rho'r tir yn ôl i mi, a fydd yna ddim rhyfel.” 14Dyma Jefftha'n anfon y neges yma'n ôl at frenin Ammon, 15“Wnaeth Israel ddim dwyn y tir oddi ar bobloedd Moab ac Ammon. 16Pan ddaethon nhw allan o'r Aifft dyma nhw'n teithio drwy'r anialwch at y Môr Coch ▼▼11:16 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”.
ac yna ymlaen i Cadesh. 17Anfonodd Israel negeswyr at frenin Edom, yn gofyn, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di?’ Ond dyma frenin Edom yn gwrthod gadael iddyn nhw. Yna dyma Israel yn gofyn yr un peth i frenin Moab ond doedd yntau ddim yn fodlon gadael iddyn nhw groesi. Felly dyma bobl Israel yn aros yn Cadesh. 18Yna dyma nhw'n mynd rownd Edom a Moab – pasio heibio i'r dwyrain o wlad Moab, a gwersylla yr ochr draw i'r Afon Arnon. Wnaethon nhw ddim croesi tir Moab o gwbl (yr Afon Arnon oedd ffin Moab). 19“Wedyn dyma Israel yn anfon negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, a gofyn iddo, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di i ni fynd i'n tir ein hunain?’ 20Ond doedd Sihon ddim yn trystio pobl Israel i adael iddyn nhw groesi ei dir. Felly dyma fe'n galw ei fyddin at ei gilydd a codi gwersyll yn Iahats, i ymosod ar Israel. 21Ond dyma'r Arglwydd, Duw Israel, yn eu galluogi nhw i drechu Sihon a'i fyddin gyfan. A dyma Israel yn cymryd tiroedd yr Amoriaid i gyd – 22o'r Afon Arnon yn y de i'r Afon Jabboc yn y gogledd ac o'r anialwch yn y dwyrain i'r Iorddonen yn y gorllewin. 23“Felly, yr Arglwydd, Duw Israel, wnaeth yrru'r Amoriaid allan o flaen pobl Israel. Pa hawl sydd gen ti i'w gymryd oddi arnyn nhw? 24Cadw di beth mae dy dduw Chemosh yn ei roi i ti. Dŷn ni am gadw tiroedd y bobloedd mae'r Arglwydd wedi eu gyrru allan o'n blaen ni. 25Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n gryfach na Balac fab Sippor, brenin Moab? Wnaeth e fentro ffraeo gyda phobl Israel? Wnaeth e ymladd yn eu herbyn nhw? 26Mae pobl Israel wedi bod yn byw yn y trefi yma ers tri chan mlynedd – Cheshbon ac Aroer a'r pentrefi o'u cwmpas, a'r trefi sydd wrth Afon Arnon. Pam ydych chi ddim wedi eu cymryd nhw yn ôl cyn hyn? 27“Dw i ddim wedi gwneud cam â ti. Ti sydd ar fai yn dechrau'r rhyfel yma. Heddiw bydd yr Arglwydd, y Barnwr, yn penderfynu pwy sy'n iawn – pobl Israel neu'r Ammoniaid!” 28Ond wnaeth brenin Ammon gymryd dim sylw o neges Jefftha. 29A dyma Ysbryd yr Arglwydd yn dod ar Jefftha. Dyma fe'n mynd â'i fyddin trwy diroedd Gilead a Manasse, pasio trwy Mitspe yn Gilead, ac ymlaen i wynebu byddin yr Ammoniaid. 30Dyma Jefftha yn addo ar lw i'r Arglwydd, “Os gwnei di adael i mi guro byddin yr Ammoniaid, 31gwna i roi i'r Arglwydd beth bynnag fydd gyntaf i ddod allan o'r tŷ i'm cwrdd i pan af i adre. Bydda i'n ei gyflwyno yn aberth i'w losgi'n llwyr i Dduw.” 32Yna dyma Jefftha a'i fyddin yn croesi i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid a dyma'r Arglwydd yn rhoi buddugoliaeth iddo. 33Cafodd yr Ammoniaid eu trechu'n llwyr, o Aroer yr holl ffordd i Minnith a hyd yn oed i Abel-ceramim! – dau ddeg o drefi i gyd. Dyma fe'n eu difa nhw'n llwyr! Roedd yr Ammoniaid wedi eu trechu gan Israel. 34Pan aeth Jefftha adre i Mitspa pwy redodd allan i'w groesawu ond ei ferch, yn dawnsio i gyfeiliant tambwrinau. Roedd hi'n unig blentyn. Doedd gan Jefftha ddim mab na merch arall. 35Pan welodd hi, dyma fe'n rhwygo ei ddillad. “O na! Fy merch i! Mae hyn yn ofnadwy! Mae'n drychinebus! Dw i wedi addo rhywbeth ar lw i'r Arglwydd, a does dim troi'n ôl.” 36Dyma ei ferch yn dweud wrtho, “Dad, os wyt ti wedi addo rhywbeth i'r Arglwydd rhaid i ti gadw dy addewid. Mae'r Arglwydd wedi cadw ei ochr e a rhoi buddugoliaeth i ti dros dy elynion, yr Ammoniaid. 37Ond gwna un peth i mi. Rho ddau fis i mi grwydro'r bryniau gyda'm ffrindiau, i alaru am fy mod byth yn mynd i gael priodi.” 38“Dos di,” meddai wrthi. A gadawodd iddi fynd i grwydro'r bryniau am ddeufis yn galaru gyda'i ffrindiau am na fyddai byth yn cael priodi. 39Ar ddiwedd y deufis dyma hi'n dod yn ôl at ei thad, a dyma fe'n gwneud beth roedd e wedi ei addo. Roedd hi'n dal yn wyryf pan fuodd hi farw. Daeth yn ddefod yn Israel 40fod y merched yn mynd i ffwrdd am bedwar diwrnod bob blwyddyn, i goffáu merch Jefftha o Gilead.
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word

2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.

3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".

1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.

2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.

© STEPBible - 2024