‏ Joshua 23

Araith olaf Josua

1Aeth blynyddoedd lawer heibio. Roedd yr Arglwydd wedi cadw Israel yn saff rhag y gelynion o'i chwmpas, ac roedd Josua wedi mynd yn hen iawn. 2Dyma fe'n galw pobl Israel at ei gilydd – y dynion hŷn, arweinwyr, barnwyr a'r swyddogion. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dw i wedi mynd yn hen. 3Dych chi wedi gweld beth wnaeth yr Arglwydd ar eich rhan chi i'r bobloedd yma i gyd. Yr Arglwydd eich Duw chi ydy e, ac mae e wedi ymladd drosoch chi. 4Dw i wedi rhannu rhwng eich llwythau dir y bobl hynny sydd ddim eto wedi eu concro yn ogystal â'r rhai dw i wedi eu dinistrio – sef yr holl dir sydd rhwng yr Afon Iorddonen a Môr y Canoldir. 5Bydd yr Arglwydd eich Duw yn cael gwared â'r rhai sydd ar ôl, a byddwch chi'n byw yn y tir yn eu lle nhw, fel mae'r Arglwydd wedi addo i chi.

6“Felly byddwch yn ddewr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud popeth sydd wedi ei ysgrifennu yn sgrôl cyfraith Moses. Peidiwch crwydro oddi wrth hynny o gwbl. 7A peidiwch cael dim i'w wneud â'r bobloedd sydd ar ôl gyda chi. Peidiwch galw ar eu duwiau nhw na tyngu llw i'r duwiau hynny. Peidiwch addoli nhw na gweddïo arnyn nhw. 8Arhoswch yn ffyddlon i'r Arglwydd eich Duw, fel dych chi wedi gwneud hyd heddiw. 9Mae'r Arglwydd wedi gyrru gwledydd mawr cryfion allan o'ch blaen chi. Does neb wedi gallu'ch rhwystro chi hyd yn hyn. 10Mae un ohonoch chi yn ddigon i wneud i fil ohonyn nhw ffoi, am fod yr Arglwydd yn ymladd drosoch chi, fel gwnaeth e addo. 11Gwyliwch eich hunain! Carwch yr Arglwydd eich Duw! 12Os byddwch chi'n troi cefn arno, ac yn cymysgu gyda'r bobloedd yma sydd yn dal gyda chi – priodi eu merched nhw, a gadael iddyn nhw briodi eich merched chi – 13gallwch fod yn siŵr y bydd yr Arglwydd eich Duw yn stopio eu gyrru nhw allan o'ch blaen chi. Byddan nhw'n eich trapio chi. Fyddan nhw'n achosi dim byd ond trwbwl i chi, fel chwip ar eich cefnau neu ddrain yn eich llygaid. A byddwch chi'n diflannu o'r wlad dda yma mae'r Arglwydd eich Duw wedi ei rhoi i chi.

14“Edrychwch, fydda i ddim byw yn hir iawn eto. Dych chi'n gwybod yn berffaith iawn fod yr Arglwydd wedi cadw pob un addewid wnaeth e i chi. Mae e wedi gwneud popeth wnaeth e addo. 15Ond gallwch fod yr un mor siŵr y bydd yr Arglwydd yn dod â barn a dinistr arnoch chi os byddwch chi'n anufudd iddo. Byddwch yn cael eich gyrru allan o'r wlad dda yma mae e wedi ei rhoi i chi. 16Os byddwch chi'n torri amodau'r ymrwymiad mae'r Arglwydd eich Duw wedi ei wneud, ac yn dechrau addoli a gweddïo ar dduwiau eraill, bydd yr Arglwydd yn digio gyda chi, a byddwch chi'n diflannu o'r wlad dda yma mae e wedi ei rhoi i chi.”

Copyright information for CYM