‏ Joshua 12

Crynodeb o hanes Concro'r wlad

1Dyma'r brenhinoedd wnaeth pobl Israel eu trechu i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen, a'r tiroedd wnaethon nhw eu meddiannu – o Geunant Arnon i Fynydd Hermon, sef yr holl dir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen:
12:1 Dyffryn Iorddonen Hebraeg, “Araba”.

2Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon ac yn teyrnasu o Aroer, ger Ceunant Arnon. Roedd yn teyrnasu o ganol Ceunant Arnon i Ddyffryn Jabboc, sef y ffin gyda tiriogaeth pobl Ammon – yn cynnwys hanner Gilead. 3Roedd ei diriogaeth yn cynnwys y tir sydd i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, yr holl ffordd o Lyn Galilea
12:3 Lyn Galilea Hebraeg, “Cinnereth”, enw cynharach ar y llyn.
i'r Môr Marw.
12:3 Hebraeg, “Môr yr Araba, sef y Môr Halen”
Yna o Beth-ieshimoth yn y dwyrain i lawr i'r de cyn belled â llethrau Mynydd Pisga.
4Og, brenin Bashan – un o'r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl. Roedd Og yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei, 5a'i diriogaeth yn ymestyn o Fynydd Hermon i Salca yn y gogledd, Bashan yn y dwyrain, ac i'r gorllewin at y ffin gyda teyrnasoedd Geshwr a Maacha, a hanner arall Gilead at y ffin gyda teyrnas Sihon, oedd yn frenin yn Cheshbon. 6Roedd Moses, gwas yr Arglwydd, a phobl Israel wedi eu trechu nhw a rhannu eu tiroedd nhw rhwng llwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse. d

7A dyma'r brenhinoedd wnaeth Josua a pobl Israel eu trechu i'r gorllewin o'r Afon Iorddonen – o Baal-gad yn Nyffryn Libanus yn y gogledd i lawr i Fynydd Halac ac at wlad Edom yn y de. (Rhannodd Josua y tiroedd yma i gyd rhwng llwythau Israel. 8Roedd yn cynnwys y bryniau a'r iseldir, Dyffryn Iorddonen,
12:8 Dyffryn Iorddonen Hebraeg, “Araba”.
y llethrau, anialwch Jwda a'r Negef, sef tiroedd yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid):

9Brenin Jericho;
brenin Ai, ger Bethel;
10brenin Jerwsalem;
brenin Hebron;
11brenin Iarmwth;
brenin Lachish;
12brenin Eglon;
brenin Geser;
13brenin Debir;
brenin Geder;
14brenin Horma;
brenin Arad;
15brenin Libna;
brenin Adwlam;
16brenin Macceda;
brenin Bethel;
17brenin Tappŵach;
brenin Cheffer;
18brenin Affec;
brenin Lasaron;
19brenin Madon;
brenin Chatsor;
20brenin Shimron-meron;
brenin Achsaff;
21brenin Taanach;
brenin Megido;
22brenin Cedesh;
brenin Jocneam, ger Mynydd Carmel;
23brenin Dor, ar yr arfordir;
brenin Goïm, ger Gilgal;
24a brenin Tirsa.

Tri deg un o frenhinoedd i gyd.

Copyright information for CYM