1Dyma bobl Israel i gyd yn dod at ei gilydd yn Seilo, ac yn codi Pabell Presenoldeb Duw. Er eu bod nhw'n rheoli'r wlad, 2roedd saith o'r llwythau yn dal heb gael eu tir.3A dyma Josua yn dweud wrth bobl Israel, “Am faint mwy dych chi'n mynd dindroi cyn cymryd y tir mae'r Arglwydd, Duw eich hynafiaid, wedi ei roi i chi? 4Dewiswch dri dyn o bob llwyth. Dw i am eu hanfon nhw i grwydro'r wlad, ei mapio a gwneud arolwg llawn ohoni. 5Byddan nhw'n ei rhannu yn saith ardal. Ond fydd hyn ddim yn cynnwys tir Jwda i lawr yn y de, na tir Joseff yn y gogledd. 6Mapiwch y tir a'i rannu yn saith ardal wahanol, a dewch ag e i mi. Wedyn bydda i yn bwrw coelbren o flaen yr Arglwydd eich Duw, i ddewis pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth. 7Ond fydd llwyth Lefi ddim yn cael rhan o'r tir. Eu braint nhw ydy cael bod yn offeiriaid i'r Arglwydd. Ac mae llwythau Gad, Reuben a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn tir yr ochr arall i'r Afon Iorddonen, gan Moses, gwas yr Arglwydd.”8Cyn i'r dynion gychwyn ar eu taith, dyma Josua yn gorchymyn iddyn nhw: “Ewch i grwydro drwy'r wlad, a'i mapio a paratoi arolwg llawn ohoni i mi. Yna dewch yn ôl ata i. Bydda i wedyn yn bwrw coelbren o flaen yr Arglwydd yma yn Seilo, i weld pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth.”9Felly dyma'r dynion yn mynd trwy'r wlad i gyd, a'i mapio, a rhestru'r trefi i gyd ar sgrôl, a rhannu'r tir yn saith ardal. Yna dyma nhw'n dod yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Seilo.10A dyma Josua yn bwrw coelbren o flaen yr Arglwydd yn Seilo, i rannu'r tir rhwng pobl Israel, a gweld pa ardal fyddai pob llwyth yn ei gael.
Y tir gafodd llwyth Benjamin
11Teuluoedd llwyth Benjamin gafodd y rhan gyntaf. Eu tir nhw fyddai'r ardal rhwng tir Jwda a tir meibion Joseff. 12Roedd y ffin yn y gogledd yn mynd o Afon Iorddonen ar hyd y llethr i'r gogledd o Jericho, wedyn i fyny i'r bryniau i gyfeiriad y gorllewin ac ymlaen at anialwch Beth-afen. 13Roedd yn croesi wedyn i Lws, ar hyd y llethr sydd i'r de o Lws (sef Bethel). Yna i lawr i Atroth-adar sydd ar y bryn i'r de o Beth-choron Isaf. 14Wedyn roedd yn troi o'r fan honno i'r de, ar hyd ochr orllewinol y bryn ac i lawr i Ciriath-baal (sef Ciriath-iearim) un o'r trefi oedd ar dir llwyth Jwda. Dyna'r ffin i'r gorllewin. 15Yna roedd ffin y de yn dechrau wrth Ciriath-iearim, ac yn rhedeg i gyfeiriad Ffynnon Nefftoach. 16Wedyn roedd y ffin yn mynd i lawr at droed y mynydd sydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom sydd wrth ben gogleddol Dyffryn Reffaïm. Yna i lawr Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o Jerwsalem, ▼
ac ymlaen i En-rogel. 17O En-rogel roedd yn troi i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i En-shemesh ac yna i Geliloth sydd gyferbyn â Bwlch Adwmim, yna i lawr at Garreg Bohan (mab Reuben). 18Yna croesi i gyfeiriad y gogledd ar hyd y llethr sydd o flaen Dyffryn Iorddonen, cyn mynd i lawr i'r dyffryn ei hun. 19Croesi wedyn at lethr Beth-hogla ac ymlaen i ben uchaf y Môr Marw ▼
wrth aber yr Afon Iorddonen. Dyna ffin y de. 20Wedyn yr Afon Iorddonen oedd y ffin i'r dwyrain. Dyna ffiniau'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Benjamin.21A dyma'r trefi oedd yn perthyn i lwyth Benjamin: Jericho, Beth-hogla, Emec-cetsits, 22Beth-araba, Semaraïm, Bethel, 23Afim, Para, Offra, 24Ceffar-ammona, Offni a Geba – un deg dwy o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas. 25Gibeon, Rama, Beëroth, 26Mitspe, Ceffira, Motsa, 27Recem, Irpeël, Tarala, 28Sela, Eleff, tref y Jebwsiaid (sef, Jerwsalem), Gibea, a Ciriath – un deg pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Benjamin.
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
How do I find a word only where it relates to a topic?
2) Click on the English tab 3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) Click on one of the words or topics listed
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
Meaning: how the word is used throughout the Bible
Dictionary: academic details about the word
Related words: similar in meaning or origin
Grammar: (only available for some Bibles)
Why do only some Bibles have clickable words?
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
What does “~20x” or “Frequency” mean?
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
Why do some words have dropdown next to the frequency number?
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Where do I find the maps?
Video guide 1st method: Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method: 1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
How do I get the word frequency for a chapter or a book?