‏ Joshua 17

Y tir gafodd hanner arall llwyth Manasse

1Dyma'r tir gafodd ei roi i lwyth Manasse, mab hynaf Joseff. (Roedd ardaloedd Gilead a Bashan, i'r dwyrain o Afon Iorddonen, eisoes wedi eu rhoi i ddisgynyddion Machir – tad Gilead a mab hynaf Manasse – am ei fod yn filwr dewr.) 2Cafodd gweddill y teuluoedd oedd yn perthyn i lwyth Manasse dir oedd i'r gorllewin o Afon Iorddonen. Disgynyddion Abieser, Chelec, Asriel, Sechem, Cheffer, a Shemida. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Manasse, mab Joseff.

3Ond doedd gan Seloffchad fab Cheffer ddim meibion, dim ond merched. (Cheffer oedd yn fab i Gilead, yn ŵyr i Machir ac yn or-ŵyr i Manasse.) Enwau merched Seloffchad oedd Machla, Noa, Hogla, Milca, a Tirtsa. 4Dyma nhw'n mynd at Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn, a'r arweinwyr eraill, a dweud, “Dwedodd yr Arglwydd wrth Moses am roi tir i ni gyda'n perthnasau.” a Felly dyma Josua yn rhoi tir iddyn nhw gyda brodyr eu tad, fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn.

5Cafodd Manasse ddeg darn o dir yn ychwanegol at Gilead a Bashan oedd i'r dwyrain o Afon Iorddonen, 6am fod merched o lwyth Manasse wedi cael tir gyda'r meibion. (Roedd tir Gilead yn perthyn i weddill disgynyddion Manasse.)

7Roedd tir Manasse yn ymestyn o'r ffin gyda llwyth Asher yn y gogledd, i Michmethath wrth ymyl Sichem. Yna roedd yn mynd yn bellach i'r de at y bobl oedd yn byw yn En-tappŵach. 8(Roedd yr ardal o gwmpas Tappŵach yn perthyn i lwyth Manasse, ond tref Tappŵach ei hun, oedd ar ffin Manasse yn perthyn i lwyth Effraim.) 9Wedyn roedd ffin y de yn dilyn Dyffryn Cana. Roedd trefi yno, yng nghanol trefi Manasse, oedd wedi cael eu rhoi i lwyth Effraim. Ond roedd ffin Manasse yn mynd ar hyd ochr ogleddol y dyffryn, at y môr. 10Tir Effraim oedd i'r de o'r ffin, a Manasse i'r gogledd. Môr y Canoldir oedd ffin Manasse i'r gorllewin. Yna roedd eu tir yn ffinio gyda llwyth Asher i'r gogledd ac Issachar i'r dwyrain. 11Ac roedd rhai trefi o fewn ffiniau Asher ac Issachar, gyda'r pentrefi o'u cwmpas, wedi eu rhoi i lwyth Manasse: Beth-shean, Ibleam, Dor, En-dor, Taanach, a Megido, (Naffeth ydy'r drydedd yn y rhestr). 12Ond wnaeth dynion Manasse ddim llwyddo i goncro'r trefi yma. Roedd y Canaaneaid yn dal i wrthod symud. 13Yn ddiweddarach, pan oedd Israel yn gryfach, dyma nhw yn llwyddo i orfodi'r Canaaneaid i weithio fel caethweision iddyn nhw. Ond wnaethon nhw erioed lwyddo i'w gyrru nhw allan yn llwyr.

Disgynyddion Joseff yn gofyn am fwy o dir

14Dyma ddisgynyddion Joseff yn gofyn i Josua, “Pam wyt ti wedi rhoi cyn lleied o dir i ni? – dim ond un rhandir. Mae yna lot fawr ohonon ni, a diolch i'r Arglwydd dŷn ni'n dal i dyfu.”

15Dyma Josua'n dweud, “Os oes cymaint a hynny ohonoch chi, a bryniau Effraim yn rhy fach, ewch i'r goedwig a chlirio lle i fyw yno, yn ardal y Peresiaid a'r Reffaiaid.”

16Ond dyma nhw'n ateb, “Fyddai'r bryniau yna i gyd ddim digon, ac allwn ni ddim mynd i lawr i'r dyffryn – mae gan y Canaaneaid sy'n byw yn ardal Beth-shean a Dyffryn Jesreel, gerbydau rhyfel haearn.”

17Yna dyma Josua'n dweud wrth ddisgynyddion Joseff (sef llwythau Effraim a Manasse): “Oes, mae yna lot fawr ohonoch chi, a dych chi'n gryf iawn. Byddwch chi yn cael mwy nag un rhandir. 18Chi fydd piau'r bryniau i gyd. Er fod y tir yn goediog, gallwch ei glirio, a'i gymryd i gyd. A gallwch goncro'r Canaaneaid yn yr iseldir hefyd, er eu bod nhw'n gryfion a bod ganddyn nhw gerbydau rhyfel haearn.”

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.