Joshua 1
Josua yn cael ei wneud yn arweinydd Israel
1Ar ôl i Moses, gwas yr Arglwydd, farw, dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Josua, gwas Moses: 2“Mae Moses fy ngwas wedi marw. Dos, a croesi'r Afon Iorddonen. Dw i eisiau i ti arwain y bobl yma i'r tir dw i'n ei roi i chi. 3Fel gwnes i addo i Moses, dw i'n mynd i roi i chi bob modfedd sgwâr fyddwch chi'n cerdded arno. a 4Bydd eich tir yn ymestyn yr holl ffordd o'r diffeithwch yn y de i Fryniau Libanus yn y gogledd. A'r holl ffordd o'r Afon Ewffrates yn y dwyrain (gan gynnwys gogledd Syria hefyd) ▼▼1:4 gan gynnwys gogledd Syria Hebraeg, “tir yr Hethiaid.” Roedd gogledd Syria ar ffin ddeheuol Ymerodraeth yr Hethiaid
i Fôr y Canoldir yn y gorllewin. 5Bydda i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses. Fydd neb yn gallu dy stopio di tra byddi di byw. Wna i ddim dy siomi di na dy adael di. 6Bydd yn gryf a dewr. Ti'n mynd i arwain y bobl yma i goncro'r wlad wnes i addo ei rhoi i'w hynafiaid. 7Ond rhaid i ti fod yn gryf ac yn ddewr iawn! Gwna'n siŵr dy fod yn gwneud popeth mae'r Gyfraith roddodd Moses i ti yn ei ddweud. Paid crwydro oddi wrthi o gwbl, a byddi di'n llwyddo beth bynnag wnei di. 8Darllen sgrôl y Gyfraith yma yn rheolaidd. Myfyria arni ddydd a nos, a'i dysgu, er mwyn i ti wneud beth mae'n ei ddweud. Dyna sut fyddi di'n llwyddo. 9Dw i'n dweud eto, bydd yn gryf a dewr! Paid bod ag ofn na panicio. Dw i, yr Arglwydd dy Dduw, yn mynd i fod gyda ti bob cam o'r ffordd!” Gorchymyn Josua i'r bobl
10Felly dyma Josua yn rhoi'r gorchymyn yma i arweinwyr y llwythau: 11“Ewch drwy'r gwersyll a dweud wrth bawb i gael eu hunain yn barod. Y diwrnod ar ôl yfory dych chi'n mynd i groesi'r Afon Iorddonen, a dechrau concro'r tir mae'r Arglwydd eich Duw yn ei roi i chi.” 12Yna dyma Josua yn troi at lwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse, a dweud: 13“Cofiwch beth ddwedodd Moses, gwas yr Arglwydd, wrthoch chi. Mae'r Arglwydd eich Duw yn rhoi'r tir yma, sydd i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen, i chi setlo i lawr arno. 14Gall eich gwragedd a'ch plant a'ch anifeiliaid aros yma, ar y tir yma roddodd Moses i chi. Ond rhaid i bob dyn sy'n gallu ymladd groesi'r afon o flaen gweddill eich brodyr, yn barod i frwydro gyda nhw. Rhaid i chi aros i'w helpu nhw 15nes bydd yr Arglwydd wedi rhoi lle iddyn nhw setlo hefyd, a'r tir mae'r Arglwydd eich Duw yn ei roi iddyn nhw wedi ei goncro. Wedyn cewch groesi'n ôl i'r tir wnaeth Moses ei roi i chi, i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen.” 16A dyma nhw'n ateb Josua: “Byddwn ni'n gwneud popeth rwyt ti'n ddweud, a mynd ble bynnag wnei di'n hanfon ni. 17Yn union fel gwnaethon ni wrando ar Moses, byddwn ni'n gwrando arnat ti. Boed i'r Arglwydd dy Dduw fod gyda ti, fel roedd e gyda Moses! 18Os bydd unrhyw un yn gwrthryfela yn dy erbyn, ac yn gwrthod gwneud beth ti'n ddweud, y gosb fydd marwolaeth. Felly, bydd yn gryf a dewr!”
Copyright information for
CYM