‏ Jonah 2

Jona yn gweddïo ar Dduw

1Dyma Jona yn gweddïo ar yr Arglwydd ei Dduw o fol y pysgodyn.

2Roeddwn i mewn trafferthion,
a dyma fi'n galw ar yr Arglwydd,
a dyma fe'n fy ateb i.
Dyma fi'n gweiddi am dy help di,
o ganol byd y meirw,
a dyma ti'n gwrando arna i!
3Teflaist fi i'r dyfnder;
i waelod y môr.
Roedd y cerrynt o'm cwmpas,
a'r tonnau mawr yn torri uwch fy mhen.
4Ro'n i'n meddwl fy mod i wedi cael
fy ysgubo i ffwrdd gen ti am byth,
ac y byddwn i byth yn cael gweld
dy deml sanctaidd di eto!
5Roeddwn i bron boddi –
roedd y môr dwfn o'm cwmpas,
a gwymon wedi lapio am fy mhen.
6Roeddwn i wedi suddo
at waelod isa'r mynyddoedd.
Roedd giatiau Byd y Meirw
wedi cloi tu ôl i mi am byth.
Ond dyma ti, Arglwydd Dduw,
yn fy achub i o'r Pwll dwfn.
7Pan oedd fy mywyd yn llithro i ffwrdd,
dyma fi'n galw arnat ti, Arglwydd;
a dyma ti'n gwrando ar fy ngweddi
o dy deml sanctaidd.
8Mae'r rhai sy'n addoli eilunod diwerth
yn troi cefn ar dy drugaredd di.
9Ond dw i'n mynd i offrymu aberth i ti,
a chanu mawl i ti'n gyhoeddus.
Bydda i'n gwneud beth dw i wedi ei addo!
Yr Arglwydd ydy'r un sy'n achub!

10Yna dyma'r Arglwydd yn dweud wrth y pysgodyn am chwydu Jona ar dir sych.

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.