‏ Jonah 1

Jona yn dianc oddi wrth yr Arglwydd

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Jona, fab Amittai, a 2“Dos i ddinas fawr Ninefe,
1:2 Ninefe Prifddinas Asyria, gelynion creulon Israel.
ar unwaith! Dw i eisiau i ti gyhoeddi barn ar y bobl yno, achos dw i wedi gweld yr holl bethau drwg maen nhw'n wneud.”

3Ond dyma Jona'n ffoi i'r cyfeiriad arall, i Sbaen. Roedd eisiau dianc oddi wrth yr Arglwydd. Aeth i lawr i borthladd Jopa, a dod o hyd i long oedd ar fin hwylio i Tarshish, yn Sbaen. Ar ôl talu am ei docyn aeth gyda nhw ar y cwch a hwylio i ffwrdd, er mwyn dianc oddi wrth yr Arglwydd.

4Ond dyma'r Arglwydd yn gwneud i wynt cryf chwythu ar y môr. Roedd y storm mor wyllt nes bod y llong mewn perygl o gael ei dryllio. 5Roedd criw y llong wedi dychryn am eu bywydau. Dyma pob un yn gweiddi ar ei dduw am help. A dyma nhw'n dechrau taflu'r cargo i'r môr, er mwyn gwneud y llong yn ysgafnach. Ond roedd Jona'n cysgu'n drwm drwy'r cwbl! Roedd e wedi mynd i lawr i'r howld i orwedd i lawr, ac wedi syrthio i gysgu. 6Dyma'r capten yn dod ar ei draws, a'i ddeffro. “Beth wyt ti'n meddwl wyt ti'n wneud yn cysgu yma!” meddai. “Côd, a galw ar dy dduw! Falle y bydd e'n ein helpu ni, a'n cadw ni rhag boddi.”

7Dyma griw'r llong yn dod at ei gilydd, a dweud, “Gadewch i ni ofyn i'r duwiau ddangos i ni
1:7 ofyn … ddangos i ni Hebraeg, “taflu coelbren”, sef taflu darnau o bren neu garreg i ddarganfod beth oedd y duwiau'n ddweud.
pwy sydd ar fai am y storm ofnadwy yma.” Felly dyma nhw'n taflu coelbren, a darganfod mai Jona oedd e.

8Dyma nhw'n gofyn i Jona, “Dywed, pam mae'r drychineb yma wedi digwydd? Beth ydy dy waith di? O ble wyt ti'n dod? O ba wlad? Pa genedl wyt ti'n perthyn iddi?”

9A dyma Jona'n ateb, “Hebrëwr ydw i. Dw i'n addoli'r Arglwydd, Duw y nefoedd. Fe ydy'r Duw sydd wedi creu y môr a'r tir.”

10Pan glywon nhw hyn roedd y dynion wedi dychryn fwy fyth. “Beth wyt ti wedi'i wneud o'i le?” medden nhw. (Roedden nhw'n gwybod ei fod e'n ceisio dianc oddi wrth yr Arglwydd, am ei fod e wedi dweud hynny wrthyn nhw'n gynharach.)

11Roedd y storm yn mynd o ddrwg i waeth. A dyma'r morwyr yn gofyn i Jona, “Beth wnawn ni hefo ti? Oes rhywbeth allwn ni wneud i dawelu'r storm yma?”

12Dyma fe'n ateb, “Taflwch fi i'r môr a bydd y storm yn tawelu. Arna i mae'r bai eich bod chi yn y storm ofnadwy yma.”

13Ond yn lle gwneud hynny dyma'r morwyr yn ceisio rhwyfo'n galed i gyrraedd y tir. Ond methu wnaethon nhw; roedd y storm yn dal i fynd o ddrwg i waeth. 14Felly dyma nhw'n gweddïo ar yr Arglwydd, “O, plîs Arglwydd, paid gadael i ni farw o achos y dyn yma. Paid cosbi ni am wneud hyn iddo os ydy e'n ddieuog. Ti sydd wedi achosi hyn i gyd i ddigwydd.”

15Yna dyma nhw'n gafael yn Jona a'i daflu i'r môr, a dyma'r storm yn tawelu. 16Roedd hyn wedi gwneud i'r morwyr ofni'r Arglwydd go iawn, a dyma nhw'n addo ar lw y bydden nhw'n offrymu aberthau iddo.

17A dyma'r Arglwydd yn anfon pysgodyn mawr i lyncu Jona. Roedd Jona ym mol y pysgodyn am dri diwrnod a thair noson.

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.