John 8
1Ond aeth Iesu i Fynydd yr Olewydd.Y wraig wedi ei dal yn godinebu
2Pan wawriodd hi y bore wedyn, roedd Iesu yn ôl yng nghwrt y deml. Dyma dyrfa yn casglu o'i gwmpas, ac eisteddodd Iesu i'w dysgu nhw. 3Tra roedd yn dysgu'r bobl dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid yn dod ato gyda gwraig oedd wedi cael ei dal yn godinebu. Dyma nhw'n ei rhoi hi i sefyll yn y canol o flaen pawb, 4ac yna medden nhw wrth Iesu, “Athro, mae'r wraig hon wedi cael ei dal yn cael rhyw gyda dyn oedd ddim yn ŵr iddi. 5Yn y Gyfraith mae Moses yn dweud fod gwragedd o'r fath i gael eu llabyddio i farwolaeth gyda cherrig. a Beth wyt ti'n ei ddweud am y mater?” 6(Roedden nhw'n defnyddio'r cwestiwn fel trap, er mwyn cael sail i ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn.) Ond dyma Iesu'n plygu i lawr a dechrau ysgrifennu gyda'i fys yn y llwch ar lawr. 7Ond wrth iddyn nhw ddal ati i bwyso arno i ateb, edrychodd i fyny a dweud wrthyn nhw, “Os oes un ohonoch chi ddynion ddim wedi pechu, taflwch chi'r garreg gyntaf ati hi.” 8Yna plygodd eto ac ysgrifennu ar lawr. 9Ar ôl clywed beth ddwedodd e, dyma'r dynion yn gadael. Y rhai hynaf aeth gyntaf, a'r lleill yn dilyn, nes oedd neb ar ôl ond Iesu, a'r wraig yn dal i sefyll o'i flaen. 10Edrychodd i fyny eto, a gofyn iddi, “Wel, wraig annwyl, ble maen nhw? Oes neb wedi dy gondemnio di?” 11“Nac oes syr, neb” meddai. “Dw innau ddim yn dy gondemnio di chwaith,” meddai Iesu. “Felly dos, a pheidio pechu fel yna eto.” ▼▼8:11 Dydy adn.1-11 ddim yn rhai llawysgrifau. Mewn llawysgrifau eraill maen nhw'n ymddangos ar ôl 7:36 neu 21:25 neu Luc 21:38, gyda gwahaniaethau bach yn y geiriad.
Iesu, golau'r byd
12Pan roedd Iesu'n annerch y bobl dro arall, dwedodd, “Fi ydy golau'r byd. Bydd gan y rhai sy'n fy nilyn i olau i'w harwain nhw i fywyd, a fyddan nhw byth yn cerdded mewn tywyllwch.” 13Ond dyma'r Phariseaid yn ymateb, “Rhoi tystiolaeth ar dy ran dy hun rwyt ti. Dydy tystiolaeth felly ddim yn ddilys.” 14Atebodd Iesu, “Hyd yn oed os ydw i'n tystio ar fy rhan fy hun, mae'r dystiolaeth yna'n ddilys. Dw i'n gwybod o ble dw i wedi dod ac i ble dw i'n mynd. Ond does gynnoch chi ddim syniad o ble dw i wedi dod nac i ble dw i'n mynd. 15Dych chi'n barnu yn ôl safonau dynol; dw i'n barnu neb felly. 16Ond pan dw i'n barnu, dw i'n dyfarnu'n gywir, am fy mod i ddim yn barnu ar fy mhen fy hun. Mae'r Tad sydd wedi fy anfon i yn barnu gyda mi. 17Mae eich Cyfraith chi'n dweud yn glir fod tystiolaeth dau ddyn yn ddilys. c 18Dw i fy hun yn rhoi tystiolaeth, a'r Tad ydy'r tyst arall, yr un sydd wedi fy anfon i.” 19“Ble mae dy dad di?” medden nhw. “Dych chi ddim wir yn gwybod pwy ydw i,” atebodd Iesu, “nac yn nabod fy Nhad chwaith. Tasech chi'n gwybod pwy ydw i, byddech chi'n nabod fy Nhad i hefyd.” 20Dwedodd hyn pan oedd yn dysgu yn y deml wrth ymyl y blychau lle roedd pobl yn rhoi eu harian i'r drysorfa. Ond wnaeth neb ei ddal, am fod ei amser iawn ddim wedi dod. 21Dwedodd Iesu wrthyn nhw dro arall, “Dw i'n mynd i ffwrdd. Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn marw yn eich pechod. Dych chi ddim yn gallu dod ble dw i'n mynd.” 22Gwnaeth hyn i'r arweinwyr a phobl Jwdea ofyn, “Ydy e'n mynd i ladd ei hun neu rywbeth? Ai dyna pam mae'n dweud, ‘Dych chi ddim yn gallu dod i ble dw i'n mynd’?” 23Ond aeth yn ei flaen i ddweud, “Dych chi'n dod o'r ddaear; dw i'n dod oddi uchod. O'r byd hwn dych chi'n dod; ond dw i ddim yn dod o'r byd hwn. 24Dyna pam ddwedais i y byddwch chi'n marw yn eich pechod – os wnewch chi ddim credu mai fi ydy e, byddwch chi'n marw yn eich pechod.” 25“Mai ti ydy pwy?” medden nhw. “Yn union beth dw i wedi ei ddweud o'r dechrau,” atebodd Iesu. 26“Mae gen i lawer i'w ddweud amdanoch chi, a digon i'w gondemnio. Mae'r un sydd wedi fy anfon i yn dweud y gwir, a beth dw i wedi ei glywed ganddo fe dw i'n ei gyhoeddi i'r byd.” 27Doedden nhw ddim yn deall ei fod yn siarad am Dduw y Tad. 28Felly dwedodd Iesu, “Pan byddwch wedi fy nghodi i, Mab y Dyn, i fyny, ▼▼8:28 fy nghodi i … i fyny: gw. nodyn ar 7:39.
dyna pryd byddwch chi'n gwybod mai fi ydy e, ac nad ydw i yn gwneud dim ar fy mhen fy hun, dim ond dweud beth mae'r Tad wedi ei ddysgu i mi. 29Mae'r un sydd wedi fy anfon i gyda mi; dydy e ddim wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, achos dw i bob amser yn gwneud beth sy'n ei blesio.” Y gwirionedd sy'n rhoi rhyddid
30Daeth llawer o bobl i gredu ynddo tra roedd yn siarad. 31A dwedodd Iesu wrth yr Iddewon hynny oedd wedi credu ynddo, “Os daliwch chi afael yn beth dw i wedi ei ddangos i chi, dych chi'n ddilynwyr go iawn i mi. 32Byddwch yn dod i wybod beth sy'n wir, a bydd y gwirionedd hwnnw'n rhoi rhyddid i chi.” 33“Dŷn ni'n ddisgynyddion i Abraham,” medden nhw, “fuon ni erioed yn gaethweision! Felly beth wyt ti'n ei feddwl wrth ddweud, ‘Byddwch chi'n cael bod yn rhydd’?” 34Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, mae pawb sy'n pechu wedi ei gaethiwo gan bechod. 35Dydy caethwas ddim yn perthyn i'r teulu mae'n ei wasanaethu, ond mae mab yn perthyn am byth. 36Felly os ydy'r Mab yn rhoi eich rhyddid i chi byddwch yn rhydd go iawn. 37Dw i'n gwybod eich bod chi'n ddisgynyddion i Abraham, ond dych chi'n ceisio fy lladd i am eich bod chi ddim yn deall beth dw i'n ei ddweud go iawn. 38Dw i'n cyhoeddi beth dw i wedi ei weld gyda'r Tad. Dych chi'n gwneud beth mae'ch tad chi'n ei ddweud wrthoch chi.” 39“Abraham ydy'n tad ni,” medden nhw. “Petaech chi wir yn blant i Abraham,” meddai Iesu, “byddech chi'n gwneud beth wnaeth Abraham. 40Ond dyma chi, yn benderfynol o'm lladd i, a minnau ond wedi cyhoeddi'r gwirionedd glywais i gan Dduw. Doedd Abraham ddim yn gwneud pethau felly! 41Na, gwneud y pethau mae'ch tad chi'n eu gwneud dych chi.” “Dim plant siawns ydyn ni!” medden nhw, “Duw ei hun ydy'r unig Dad sydd gynnon ni.”Plant y diafol
42“Ond petai Duw yn Dad i chi,” meddai Iesu, “byddech chi'n fy ngharu i, am fy mod i wedi dod yma oddi wrth Dduw. Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun; Duw sydd wedi fy anfon i. 43Pam dydy fy ngeiriau i ddim yn gwneud synnwyr i chi? Am eich bod yn methu clywed y neges sydd gen i. 44Y diafol ydy eich tad chi, a dych chi'n fodlon gwneud beth mae'ch tad eisiau. Llofrudd oedd e o'r dechrau, heb lynu wrth y gwir, am fod dim lle i'r gwir ynddo. Pan mae'n dweud celwydd, mae'n siarad ei famiaith! Celwyddgi ydy e, a thad pob celwydd! 45Ond dw i'n dweud y gwir, felly dych chi ddim yn fy nghredu i! 46Oes unrhyw un ohonoch chi'n gallu profi fy mod i'n euog o bechu? Felly pam dych chi'n gwrthod credu pan dw i'n dweud y gwir? 47Mae pwy bynnag sy'n blentyn i Dduw yn gwrando ar beth mae Duw yn ei ddweud. Y rheswm pam dych chi ddim yn gwrando ydy am eich bod chi ddim yn blant i Dduw.”Iesu ac Abraham
48“Y Samariad ddiawl!” medden nhw, “Dŷn ni'n iawn. Mae cythraul ynot ti!” 49“Does gen i ddim cythraul,” meddai Iesu, “Beth dw i'n ei wneud ydy anrhydeddu fy Nhad, a dych chi'n fy sarhau i. 50Dw i ddim yn edrych am glod i mi fy hun; ond mae un sy'n ei geisio, a fe ydy'r un sy'n barnu. 51Credwch chi fi – fydd pwy bynnag sy'n dal gafael yn yr hyn dw i wedi ei ddangos iddyn nhw byth yn gweld marwolaeth.” 52Pan ddwedodd hyn dyma'r arweinwyr Iddewig yn gweiddi, “Mae'n amlwg fod cythraul ynot ti! Buodd Abraham farw, a'r proffwydi hefyd, a dyma ti yn honni y bydd y rhai sy'n credu beth rwyt ti'n ddweud ddim yn marw. 53Wyt ti'n fwy o ddyn nag Abraham, tad y genedl? Buodd e farw, a'r proffwydi hefyd! Pwy wyt ti'n feddwl wyt ti?” 54Atebodd Iesu, “Os dw i'n canmol fy hun, dydy'r clod yna'n golygu dim byd. Fy Nhad sy'n fy nghanmol i, yr un dych chi'n hawlio ei fod yn Dduw i chi. 55Ond dych chi ddim wedi dechrau dod i'w nabod; dw i yn ei nabod e'n iawn. Petawn i'n dweud mod i ddim yn ei nabod e, byddwn innau'n gelwyddog fel chi. Dw i yn ei nabod e ac yn gwneud beth mae'n ei ddangos i mi. 56Roedd Abraham (eich tad chi) yn gorfoleddu wrth feddwl y câi weld yr amser pan fyddwn i'n dod; fe'i gwelodd, ac roedd wrth ei fodd.” 57“Dwyt ti ddim yn hanner cant eto!” meddai'r arweinwyr Iddewig wrtho, “Wyt ti'n honni dy fod di wedi gweld Abraham?” 58Atebodd Iesu, “Credwch chi fi – dw i'n bodoli ers cyn i Abraham gael ei eni.” 59Pan ddwedodd hyn, dyma nhw'n codi cerrig i'w labyddio'n farw, ond cuddiodd Iesu ei hun, a llithro allan o'r deml.
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024