‏ John 13

Iesu'n golchi traed ei ddisgyblion

1Erbyn hyn roedd hi bron yn amser dathlu Gŵyl y Pasg. Roedd Iesu'n gwybod fod yr amser wedi dod iddo adael y byd a mynd at y Tad. Roedd wedi caru y rhai oedd yn perthyn iddo, ac yn awr dangosodd iddyn nhw mor fawr oedd ei gariad.

2Roedden nhw wrthi'n bwyta swper. Roedd y diafol eisoes wedi rhoi'r syniad i Jwdas, mab Simon Iscariot, i fradychu Iesu. 3Gwyddai Iesu fod y Tad wedi rhoi popeth yn ei ddwylo e. Roedd wedi dod oddi wrth Dduw, ac roedd yn mynd yn ôl at Dduw. 4Cododd oddi wrth y bwrdd, tynnu ei fantell allanol, a rhwymo tywel am ei ganol. 5Yna tywalltodd ddŵr i fowlen a dechrau golchi traed ei ddisgyblion, a'u sychu gyda'r tywel oedd am ei ganol.

6Pan ddaeth tro Simon Pedr, dyma Simon yn dweud, “Arglwydd, wyt ti'n mynd i olchi fy nhraed i?”

7Atebodd Iesu, “Dwyt ti ddim yn deall beth dw i'n wneud ar hyn o bryd, ond byddi'n dod i ddeall yn nes ymlaen.”

8Ond meddai Pedr, “Na, byth! chei di ddim golchi fy nhraed i!”

“Os ga i ddim dy olchi di,” meddai Iesu, “dwyt ti ddim yn perthyn i mi.”

9“Os felly, Arglwydd,” meddai Simon Pedr, “golcha fy nwylo a'm pen i hefyd, nid dim ond fy nhraed i!”

10Atebodd Iesu, “Does dim rhaid i rywun sydd wedi cael bath ymolchi eto, dim ond golchi ei draed, am fod gweddill ei gorff yn lân. A dych chi'n lân – pawb ond un ohonoch chi.” 11(Roedd yn gwybod pwy oedd yn mynd i'w fradychu; a dyna pam y dwedodd e fod un ohonyn nhw ddim yn lân.)

12Ar ôl iddo orffen golchi eu traed nhw, gwisgodd ei fantell eto a mynd yn ôl i'w le. “Ydych chi'n deall beth dw i wedi ei wneud i chi?” meddai. 13“Dych chi'n fy ngalw i yn ‛Athro‛ neu yn ‛Arglwydd‛, ac mae hynny'n iawn, am mai dyna ydw i. 14Felly, am fy mod i, eich Arglwydd a'ch Athro wedi golchi eich traed chi, dylech chi olchi traed eich gilydd. 15Dw i wedi rhoi esiampl i chi er mwyn i chi wneud yr un peth i'ch gilydd. 16Credwch chi fi, dydy caethwas ddim uwchlaw ei feistr, a dydy negesydd ddim yn bwysicach na'r un wnaeth ei anfon e. 17Dych chi'n gwybod hyn bellach, ond gwneud y pethau yma sy'n dod â bendith.

Iesu'n dweud y byddai'n cael ei fradychu

(Mathew 26:20-25; Marc 14:17-21; Luc 22:21-23)

18“Dw i ddim yn dweud hyn amdanoch chi i gyd. Dw i'n nabod y rhai dw i wedi eu dewis yn dda. Ond mae'n rhaid i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ddweud ddod yn wir: ‘Mae'r un fu'n bwyta gyda mi wedi troi yn fy erbyn i.’ a

19“Dw i'n dweud nawr, cyn i'r peth ddigwydd, ac wedyn pan fydd yn digwydd byddwch yn credu mai fi ydy e. 20Credwch chi fi, mae rhywun sy'n rhoi croeso i negesydd sydd wedi ei anfon gen i, yn rhoi croeso i mi. Ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi yn croesawu'r Tad sydd wedi fy anfon i.”

21Ar ôl dweud hyn, roedd Iesu'n amlwg wedi cynhyrfu trwyddo. A dwedodd yn gwbl glir, “Credwch chi fi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i.”

22Syllodd y disgyblion ar ei gilydd, heb syniad yn y byd am bwy oedd e'n sôn. 23Roedd y disgybl oedd Iesu'n ei garu'n fawr yn eistedd agosaf at Iesu. 24Dyma Simon Pedr yn gwneud arwydd i hwnnw ofyn i Iesu pwy oedd yn ei olygu.

25Felly pwysodd yn ôl at Iesu, a gofyn iddo, “Arglwydd, am bwy rwyt ti'n sôn?”

26Atebodd Iesu, “Yr un wna i roi darn o fara iddo wedi ei drochi'n y ddysgl saws.” Yna rhoddodd ddarn o fara yn y saws, a'i basio i Jwdas, mab Simon Iscariot. 27Yr eiliad y cymerodd Jwdas y bara, dyma Satan yn mynd i mewn iddo. “Dos ar unwaith,” meddai Iesu wrtho, “Gwna beth rwyt ti'n mynd i'w wneud.” 28Ond doedd neb arall wrth y bwrdd yn deall beth oedd Iesu'n ei olygu. 29Gan mai Jwdas oedd yn gofalu am y pwrs arian, roedd rhai yn tybio fod Iesu'n dweud wrtho am fynd i brynu beth oedd ei angen ar gyfer dathlu'r Ŵyl, neu i fynd i roi rhodd i bobl dlawd. 30Aeth Jwdas allan yn syth ar ôl cymryd y bara. Roedd hi'n nos.

Iesu'n dweud y byddai Pedr yn ei wadu

(Mathew 26:31-35; Marc 14:27-31; Luc 22:31-34)

31Ar ôl i Jwdas adael dwedodd Iesu,

“Mae'n amser i mi, Mab y Dyn, gael fy anrhydeddu,
ac i Dduw gael ei anrhydeddu drwy beth fydd yn digwydd i mi.
32Os ydy Duw wedi ei anrhydeddu ynof fi,
bydd Duw yn fy anrhydeddu i ynddo'i hun,
ac yn fy anrhydeddu ar unwaith.

33“Fy mhlant annwyl i, fydda i ddim ond gyda chi am ychydig mwy. Byddwch yn edrych amdana i, ond yn union fel dwedais i wrth yr arweinwyr Iddewig, allwch chi ddim dod i ble dw i'n mynd. b

34“Dw i'n rhoi gorchymyn newydd i chi: Carwch eich gilydd. Rhaid i chi garu'ch gilydd yn union fel dw i wedi'ch caru chi. 35Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi'n ddilynwyr i mi, am eich bod chi'n caru'ch gilydd.”

36“Ble rwyt ti'n mynd, Arglwydd?” gofynnodd Simon Pedr iddo.

Atebodd Iesu, “Ar hyn o bryd allwch chi ddim dod i ble dw i'n mynd. Ond byddwch yn dod yno yn nes ymlaen.”

37“Pam alla i ddim dod rwan?” meddai Pedr, “dw i'n fodlon marw drosot ti!”

38Atebodd Iesu, “Wnei di wir farw drosof fi? Cred di fi, cyn i'r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di'n fy nabod i!”

Copyright information for CYM