‏ Job 3

Job yn drist ei fod wedi cael ei eni

1Job oedd y cyntaf i siarad, a melltithiodd y diwrnod y cafodd ei eni. 2Dyma ddwedodd e:

3“O na fyddai'r diwrnod y ces i fy ngeni
yn cael ei ddileu o hanes! –
y noson honno y dwedodd rhywun,
‘Mae bachgen wedi ei eni!’
4O na fyddai'r diwrnod hwnnw yn dywyllwch,
fel petai'r Duw sydd uchod heb erioed ei alw i fod,
a golau dydd heb wawrio arno!
5O na fyddai tywyllwch dudew yn ei guddio;
a chwmwl yn gorwedd drosto,
a'r düwch yn ei ddychryn i ffwrdd!
6O na fyddai tywyllwch dudew wedi cipio'r noson honno,
fel na fyddai'n cael ei chyfrif yn un o ddyddiau'r flwyddyn,
ac na fyddai i'w gweld ar galendr y misoedd!
7O na fyddai'r noson honno wedi bod yn ddiffrwyth,
3:7 diffrwyth h.y. fod dim plant wedi cael eu geni y noson honno.

heb sŵn neb yn dathlu'n llawen ynddi!
8O na fyddai'r rhai sy'n dewino wedi melltithio'r diwrnod hwnnw –
y rhai sy'n gallu deffro'r ddraig yn y môr!
3:8 ddraig yn y môr Hebraeg,  Lefiathan.

9O na fyddai'r sêr wedi diffodd y noson honno,
a'r bore wedi disgwyl yn ofer am y golau,
a heb weld pelydrau'r wawr –
10am ei bod heb gloi drysau croth fy mam,
a'm rhwystro rhag gweld trybini.

Job yn cwyno fod rhaid iddo ddioddef byw

11Pam wnes i ddim cael fy ngeni'n farw,
neu ddarfod wrth ddod allan o'r groth?
12Pam oedd gliniau yn disgwyl amdana i,
a bronnau i mi ddechrau eu sugno?
13Heb hynny byddwn yn gorwedd yn dawel,
yn cysgu'n drwm a gorffwys yn y bedd,
14gyda brenhinoedd a'u cynghorwyr,
y rhai fu'n codi palasau sydd bellach yn adfeilion;
15gydag arweinwyr oedd â digon o aur,
ac wedi llenwi eu tai ag arian.
16Pam na ches i fy nghuddio fel erthyl marw,
neu fabi wnaeth ddim gweld y golau?
17Yn y bedd mae holl brysurdeb pobl ddrwg wedi peidio,
a'r gweithwyr oedd dan orthrwm yn cael gorffwys.
18Mae caethion yn cael ymlacio'n llwyr,
heb lais y meistri gwaith yn gweiddi.
19Mae pobl fawr a chyffredin yno fel ei gilydd,
a'r caethwas yn rhydd rhag ei feistr.
20Pam mae Duw'n rhoi golau i'r un sy'n dioddef,
a bywyd i'r rhai sy'n chwerw eu hysbryd?
21Maen nhw'n ysu am gael marw, ond yn methu –
yn chwilio am hynny yn fwy na thrysor cudd.
22Maen nhw'n hapus, ac yn dathlu'n llawen
pan maen nhw'n cyrraedd y bedd.
23Pam rhoi bywyd i berson heb bwrpas,
a'i gau i mewn rhag dianc o'i drybini?
24Yn lle bwyta dw i'n gwneud dim ond ochneidio;
dw i'n griddfan ac yn beichio crïo.
25Mae'r hyn oeddwn yn ei ofni wedi digwydd;
yr hyn oedd yn peri arswyd wedi dod yn wir.
26Does gen i ddim llonydd, dim heddwch,
dim gorffwys – dim ond trafferthion.”
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.