‏ Job 2

Duw a Satan – yr ail ddadl

1Daeth y diwrnod eto i'r bodau nefol ddod o flaen yr Arglwydd. A dyma Satan yn dod gyda nhw i sefyll o flaen yr Arglwydd. 2Gofynnodd yr Arglwydd i Satan, “Ble wyt ti wedi bod?”

Atebodd Satan yr Arglwydd, “Dim ond yn crwydro yma ac acw ar y ddaear.”

3A dyma'r Arglwydd yn gofyn iddo, “Wyt ti wedi sylwi ar fy ngwas Job? Does neb tebyg iddo ar wyneb y ddaear. Mae'n ddyn gonest ac yn trin pobl eraill yn deg; mae'n addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg. Ac mae mor ffyddlon ag erioed er dy fod ti wedi fy annog i ddod â dinistr arno heb achos.”

4Atebodd Satan, “Croen am groen! – mae pobl yn fodlon colli popeth i achub eu bywydau! 5Petaet ti'n ei daro ag afiechyd a gwneud iddo ddioddef, byddai'n dy felltithio di yn dy wyneb!”

6Felly dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, “Edrych, cei wneud beth bynnag wyt ti eisiau iddo; ond rhaid i ti ei gadw'n fyw.”

Job yn colli ei iechyd

7Felly dyma Satan yn mynd allan oddi wrth yr Arglwydd ac yn taro Job â briwiau cas o'i gorun i'w sawdl.

8A dyma Job yn cymryd darn o botyn i grafu ei friwiau, a mynd i eistedd yn y lludw ar y domen sbwriel. 9Ac meddai ei wraig wrtho, “Ti'n dal mor ffyddlon ag erioed, wyt ti? Melltithia Dduw, er mwyn i ti gael marw!”

10Ond atebodd Job hi, “Ti'n siarad fel y byddai gwraig ddwl, ddi-Dduw yn siarad! Dŷn ni'n derbyn popeth da gan Dduw; oni ddylen ni dderbyn y drwg hefyd?”

Er gwaetha'r cwbl, wnaeth Job ddweud dim i bechu yn erbyn Duw.

Ffrindiau Job yn dod i'w weld

11Pan glywodd tri o ffrindiau Job am y trychinebau ofnadwy oedd wedi digwydd iddo, dyma nhw'n penderfynu mynd i'w weld. Y tri oedd Eliffas o Teman, Bildad o Shwach, a Soffar o Naäma. Dyma nhw'n cyfarfod â'i gilydd, a mynd ato i gydymdeimlo a cheisio ei gysuro. 12Pan welon nhw e o bell, doedden nhw prin yn ei nabod, a dyma nhw'n dechrau wylo'n uchel. Dyma'r tri yn rhwygo eu dillad ac yn taflu pridd i'r awyr.

13Buon nhw'n eistedd gydag e ar lawr ddydd a nos am wythnos. Ddwedodd neb yr un gair wrtho, achos roedden nhw'n gweld ei fod e'n dioddef yn ofnadwy.

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.