‏ Job 11

Ymateb Soffar: “Ti'n haeddu gwaeth!”

1A dyma Soffar o Naäma yn ymateb:

2“Mae'n rhaid ateb y malu awyr diddiwedd yma!
Ydy siarad di-baid yn gwneud rhywun yn iawn?
3Wyt ti'n meddwl fod dy barablu di yn mynd i dewi dynion?
Oes neb yn mynd i dy geryddu di am dy siarad gwawdlyd?
4Ti'n dweud, ‘Mae beth dw i'n gredu yn iawn,
a dw i'n lân yn dy olwg di, O Dduw.’
5O na fyddai Duw yn dweud rhywbeth,
yn dy ateb di drosto'i hun,
6ac yn dangos i ti beth ydy doethineb go iawn!
Mae dwy ochr i bob stori!
Byddet ti'n gweld fod Duw yn dy gosbi lai nag wyt ti'n ei haeddu!
7Wyt ti'n meddwl dy fod yn deall hanfod Duw?
Wyt ti wedi darganfod ffiniau i allu'r Un sy'n rheoli popeth?
8Mae'n uwch na'r nefoedd – beth alli di ei wneud?
Mae'n ddyfnach nag Annwn
11:8 Annwn Hebraeg,  Sheol, sef “y byd tanddaearol ble mae'r meirw yn mynd”
– beth wyt ti'n ei wybod?
9Mae'n fwy na'r ddaear
ac yn lletach na'r môr.
10Os ydy Duw'n dod heibio ac arestio rhywun,
a mynd ag e i'r llys, pwy sy'n gallu ei rwystro?
11Achos mae e'n nabod y rhai sy'n twyllo;
pan mae'n gweld drygioni, mae'n delio ag e.
12Ond mae mor amhosib i ddyn dwl droi'n ddoeth
ag ydy hi i asyn gwyllt gael ei eni'n ddof!
13Os gwnei di droi at Dduw,
ac estyn dy ddwylo ato mewn gweddi –
14troi cefn ar y drwg rwyt ti wedi ei wneud,
a pheidio rhoi lle i anghyfiawnder –
15yna byddi'n dal dy ben yn uchel, heb gywilydd,
ac yn gallu sefyll yn gadarn, heb ofn.
16Byddi'n anghofio dy holl drybini –
bydd fel dŵr wedi mynd dan y bont.
17Bydd bywyd yn brafiach na chanol dydd,
a'r adegau mwyaf tywyll yn olau fel y bore!
18Byddi'n teimlo'n saff, am fod gen ti obaith;
yn edrych o dy gwmpas ac yn gorffwys yn ddiogel.
19Byddi'n gorwedd i lawr, heb angen bod ofn;
a bydd llawer yn ceisio ennill dy ffafr.
20Ond fydd pobl ddrwg yn gweld dim o hyn.
Does dim dianc iddyn nhw!
Eu hunig obaith fydd cael marw.”
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.