‏ Job 10

Job yn cwyno

1Mae'n gas gen i orfod byw!
Ydw, dw i'n mynd i gwyno,
a dweud mor chwerw dw i'n teimlo.
2Dweud wrth Dduw, ‘Paid condemnio fi heb achos!
Gad i mi wybod pam ti'n ymosod arna i.’
3Wyt ti'n mwynhau cam-drin pobl?
Taflu i ffwrdd waith dy ddwylo,
a gwenu ar gynlluniau pobl ddrwg?
4Wyt ti'n edrych ar bethau trwy lygaid dynol?
Wyt ti'n deall pethau fel mae pobl yn eu gweld nhw?
5Ydy dy fywyd di mor fyr â bywyd rhywun meidrol?
Ydy dy flynyddoedd di'n mynd heibio fel ein blynyddoedd ni?
6Ai dyna pam ti'n chwilio am fy meiau i
a cheisio dod o hyd i'm pechod?
7Ti'n gwybod yn iawn nad ydw i'n euog,
ond all neb fy achub o dy ddwylo di.
8Dy ddwylo di wnaeth fy naddu i a'm creu,
ond yna dyma ti'n troi i'm dinistrio'n llwyr!
9Cofia mai ti wnaeth fy siapio i fel clai.
Wyt ti'n mynd i wneud llwch ohono i eto?
10Ti dywalltodd fi fel llaeth i'r groth,
a'm ceulo fel caws ym mol fy mam.
11Gwisgaist fi â chnawd a chroen,
a gweu fy esgyrn a'm gewynnau at ei gilydd.
12Ti roddodd fywyd i mi, a gofalu amdana i –
dy ofal di sydd wedi fy nghadw i'n fyw.
13Ond roeddet ti'n cuddio dy gynllun go iawn.
Dw i'n gwybod mai dyma oedd dy fwriad:
14Fy ngwylio i, i weld fyddwn i'n pechu,
ac wedyn gwrthod gadael i mi fynd.
15Os ydw i'n euog – mae ar ben arna i!
Ond hyd yn oed os ydw i'n ddieuog, alla i ddim codi fy mhen;
dw i'n llawn cywilydd ac wedi cael llond bol o ofid.
16Os coda i fy mhen, rwyt yn fy hela fel llew,
i ddangos dy hun yn rhyfeddol – a hynny ar fy nhraul i!
17Ti'n galw tystion newydd yn fy erbyn,
ac yn troi'n fwy a mwy dig gyda mi;
dod â byddin newydd yn fy erbyn o hyd.
18Felly pam wnest ti adael i mi ddod allan o'r groth?
Pam wnes i ddim marw bryd hynny, cyn i neb fy ngweld i? –
19Byddai'n braf petawn i erioed wedi bodoli.
Neu wedi cael fy nghario o'r groth i'r bedd!
20Mae fy nyddiau i mor brin, felly stopia!
Gad lonydd i mi, i mi gael ychydig o gysur!
21Cyn i mi fynd – heb fyth ddod yn ôl –
i wlad y twyllwch dudew,
22i dir y gwyll a'r fagddu,
lle does ond cysgodion ac anhrefn,
a lle mae'r golau ei hun fel tywyllwch.”
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.