‏ Jeremiah 52

Gair i gloi – Daeth geiriau Jeremeia'n wir

(52:1-34)

Hanes Jerwsalem yn cael ei choncro

(2 Brenhinoedd 24:18—25:7)

1Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi'n frenin.
52:1 benodi'n frenin Gan Nebwchadnesar (gw. 37:1).
Bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un mlynedd
52:1 un deg un mlynedd o 598 i 586 CC
. Enw ei fam oedd Chamwtal (merch Jeremeia o Libna
52:1 Jeremeia o Libna Jeremeia arall, nid y proffwyd (gw. 1:1) Roedd Libna yn dref ar y ffin rhwng Jwda a Philistia.
).
2Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn union fel y brenin Jehoiacim. 3Felly gyrrodd yr Arglwydd bobl Jerwsalem a Jwda o'i olwg am ei fod mor ddig hefo nhw.

Ond yna dyma Sedeceia yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon. 4A dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem. Digwyddodd hyn ar y degfed diwrnod o'r degfed mis
52:4 y degfed mis Tebeth, sef degfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Rhagfyr i ganol Ionawr.
yn nawfed flwyddyn Sedeceia fel brenin. Dyma nhw'n gwersylla o gwmpas y ddinas, ac yn codi rampiau i warchae arni.
5Buon nhw'n gwarchae
52:5 gwarchae Pan oedd byddin yn ymosod ar ddinas roedd yn amgylchynu'r ddinas a'i thorri i ffwrdd fel bod neb yn gallu mynd i mewn nac allan.
ar y ddinas am flwyddyn a hanner (blwyddyn un deg un Sedeceia fel brenin.)
6Erbyn y nawfed diwrnod o'r pedwerydd mis
52:6 pedwerydd mis Tamus, sef pedwerydd mis y calendr Hebreig, o tua canol Mehefin i ganol Gorffennaf. Yr union ddyddiad fyddai Gorffennaf 18, 586 CC
y flwyddyn honno roedd y newyn yn y ddinas mor ddrwg doedd gan y werin bobl ddim byd o gwbl i'w fwyta.
7Dyma'r gelyn yn llwyddo i fylchu wal y ddinas. A dyma filwyr Jwda i gyd yn ceisio dianc, a mynd allan o'r ddinas ganol nos drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal wrth ymyl gardd y brenin. Dyma nhw'n dianc i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen
52:7 Dyffryn Iorddonen Hebraeg, “Araba”.
(Roedd y Babiloniaid yn amgylchynu'r ddinas.)
8Ond aeth byddin Babilon ar ôl y brenin Sedeceia. Cafodd ei ddal ar wastatir Jericho, a dyma ei fyddin gyfan yn cael ei gyrru ar chwâl. 9Dyma nhw'n mynd â'r brenin Sedeceia i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon yn Ribla yn ardal Chamath. 10Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd gan frenin Babilon. Cafodd swyddogion Jwda i gyd eu lladd ganddo yn Ribla hefyd. 11Wedyn dyma fe'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon. Yn Babilon cafodd Sedeceia ei roi yn y carchar, a dyna lle bu nes iddo farw.

Y deml yn cael ei dinistrio

(2 Brenhinoedd 25:8-17)

12Rhyw fis yn ddiweddarach, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, un o swyddogion pwysica brenin Babilon, yn cyrraedd Jerwsalem (Roedd hyn ar y degfed diwrnod o'r pumed mis, a Nebwchadnesar wedi bod yn frenin Babilon ers un deg naw o flynyddoedd.) 13Dyma fe'n rhoi teml yr Arglwydd, palas y brenin, a'r tai yn Jerwsalem i gyd ar dân. Llosgodd yr adeiladau pwysig i gyd. 14Wedyn dyma fyddin Babilon oedd gyda'r capten yn bwrw i lawr y waliau o gwmpas Jerwsalem. 15A dyma Nebwsaradan yn mynd â'r bobl dlawd a phawb oedd wedi eu gadael ar ôl yn y ddinas, y milwyr oedd wedi mynd drosodd at y gelyn ac unrhyw grefftwyr oedd ar ôl, yn gaethion i Babilon. 16Ond gadawodd rai o'r bobl mwyaf tlawd yn y wlad, a rhoi gwinllannoedd a tir iddyn nhw edrych ar ei ôl.

17Wedyn dyma'r Babiloniaid yn malu'r offer pres oedd yn y deml – y ddwy golofn bres, y trolïau pres, a'r basn mawr pres oedd yn cael ei alw “Y Môr”. A dyma nhw'n cario'r metel yn ôl i Babilon. 18Dyma nhw hefyd yn cymryd y bwcedi lludw, y rhawiau, y sisyrnau, y dysglau, y powlenni arogldarth, a phopeth arall o bres oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr addoliad. 19Cymerodd capten y gwarchodlu bopeth oedd wedi ei wneud o aur neu arian – y powlenni bach, y padellau, y dysglau, bwcedi lludw, y lampau ar stand, y padellau a phowlenni'r offrwm o ddiod. 20Roedd cymaint o bres yn yr offer oedd y Brenin Solomon wedi eu gwneud ar gyfer y deml – pres y ddau biler, y ddysgl bres fawr sy'n cael ei galw “Y Môr”, y deuddeg tarw pres oedd dan y Môr, a'r trolïau pres – roedd y cwbl yn ormod i'w bwyso. 21Roedd y pileri yn wyth metr o uchder, pum metr a hanner o gylchedd, yn wag y tu mewn, ac wedi eu gwneud o fetel oedd tua 75 milimetr o drwch. 22Ar dop y pileri roedd capan pres oedd tua dau fetr o uchder. O gwmpas top y capan roedd rhwyllwaith cain a phomgranadau yn ei haddurno, y cwbl wedi ei wneud o bres. Roedd y ddau biler yn union yr un fath. 23Roedd naw deg chwech o bomgranadau ar yr ochrau, a chyfanswm o gant o gwmpas y rhwyllwaith ar y top.

Pobl Jwda'n cael eu cymryd yn gaethion i Babilon

(2 Brenhinoedd 25:18-21)

24Cymerodd capten y gwarchodlu brenhinol rai carcharorion hefyd. Cymerodd Seraia (y prif-offeiriad), Seffaneia (yr offeiriad cynorthwyol), a tri porthor y deml. 25Wedyn o'r ddinas cymerodd swyddog y llys oedd yn gyfrifol am y milwyr, saith o gynghorwyr y brenin oedd wedi cael eu darganfod yn cuddio yn y ddinas, ac un o'r swyddogion oedd yn drafftio pobl i ymladd yn y fyddin, a chwe deg o'i ddynion gafodd eu darganfod yn y ddinas. 26A dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodwyr, yn mynd â nhw at frenin Babilon i Ribla, 27a dyma'r brenin yn eu curo nhw a'u dienyddio nhw yno. Felly roedd pobl Jwda wedi cael eu caethgludo o'u tir.

28Dyma nifer y bobl gafodd eu caethgludo gan Nebwchadnesar: Yn ei seithfed flwyddyn fel brenin
52:28 seithfed flwyddyn fel brenin 598–597 CC
, 3,023 o bobl Jwda.
29Ym mlwyddyn un deg wyth o'i deyrnasiad
52:29 Ym mlwyddyn un deg wyth o'i deyrnasiad 587–586 CC
, 832 o bobl.
30Yna ym mlwyddyn dau ddeg tri o'i deyrnasiad
52:30 ym mlwyddyn dau ddeg tri o'i deyrnasiad 583–582 CC
, cymerodd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, 745 o Iddewon yn gaethion. Cafodd 4,600 o bobl eu caethgludo i gyd.

Y brenin Jehoiachin yn y gaethglud

(2 Brenhinoedd 25:27-30)

31Roedd Jehoiachin, brenin Jwda, wedi bod yn garcharor am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Efil-merodach
52:31 Efil-merodach Mab Nebwchadnesar oedd yn teyrnasu ar Babilon o 562 i 560 CC
yn frenin ar Babilon. Ar y pumed ar hugain o'r deuddegfed mis
52:31 deuddegfed mis Adar, sef deuddegfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Chwefror i ganol Mawrth.
y flwyddyn honno dyma Efil-merodach yn rhyddhau Jehoiachin o'r carchar.
32Buodd yn garedig ato, a'i anrhydeddu fwy nag unrhyw un o'r brenhinoedd eraill oedd gydag e yn Babilon. 33Felly dyma Jehoiachin yn newid o'i ddillad carchar. Cafodd eistedd i fwyta'n rheolaidd wrth fwrdd brenin Babilon, 34ac roedd yn derbyn lwfans dyddiol gan y brenin am weddill ei fywyd.

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.