Jeremiah 42
Y bobl yn gofyn i Jeremeia weddïo am arweiniad
1Dyma swyddogion y fyddin i gyd, gan gynnwys Iochanan fab Careach a Iesaneia fab Hoshaia, a pawb arall (y bobl gyffredin a'r arweinwyr) 2yn mynd at y proffwyd Jeremeia, a gofyn iddo, “Plîs wnei di weddïo ar yr Arglwydd dy Dduw droson ni – fel ti'n gweld does ond criw bach ohonon ni ar ôl. 3Gofyn i'r Arglwydd dy Dduw ddangos i ni ble i fynd a beth i'w wneud.” 4A dyma Jeremeia yn ateb, “Iawn. Gwna i weddïo ar yr Arglwydd eich Duw fel dych chi'n gofyn, a dweud wrthoch chi bopeth fydd yr Arglwydd yn ei ddweud. Gwna i guddio dim byd.” 5A dyma nhw'n ateb Jeremeia, “Bydd yr Arglwydd ei hun yn dyst yn ein herbyn os na wnawn ni yn union beth fydd e'n ei ddweud wrthon ni trwot ti. 6Dŷn ni'n dy anfon di at yr Arglwydd ein Duw, a sdim ots os byddwn ni'n hoffi beth mae'n ei ddweud ai peidio byddwn ni'n gwrando arno. Os gwnawn ni hynny, bydd popeth yn iawn.”Duw yn ateb gweddi Jeremeia
7Ddeg diwrnod wedyn dyma'r Arglwydd yn siarad â Jeremeia. 8Felly dyma Jeremeia yn galw am Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin, a gweddill y bobl – y bobl gyffredin a'r arweinwyr. 9Yna dyma Jeremeia'n dweud wrthyn nhw, “Anfonoch chi fi at yr Arglwydd, Duw Israel, gyda'ch cais; a dyma beth mae'r Arglwydd yn ei ddweud: 10‘Os gwnewch chi aros yn y wlad yma, bydda i'n eich adeiladu chi. Fydda i ddim yn eich bwrw chi i lawr. Bydda i'n eich plannu chi yn y tir yma, a ddim yn eich tynnu fel chwyn. Dw i'n wirioneddol drist o fod wedi'ch dinistrio chi. 11Ond bellach does dim rhaid i chi fod ag ofn brenin Babilon. Peidiwch bod a'i ofn, achos dw i gyda chi, i'ch achub chi o'i afael. a 12Dw i'n mynd i fod yn garedig atoch chi, a gwneud iddo fe fod yn garedig atoch chi trwy adael i chi fynd yn ôl i'ch tir.’ b 13“Os byddwch chi'n gwrthod gwrando ar yr Arglwydd eich Duw, a mynnu, ‘Na, dŷn ni ddim am aros yma, 14dŷn ni am fynd i wlad yr Aifft i fyw. Fydd dim rhaid i ni wynebu rhyfel yno, a clywed sŵn y corn hwrdd ▼▼42:14 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
yn ein galw i ymladd. Fydd dim rhaid i ni lwgu yno …’ 15Os dyna wnewch chi, dyma neges yr Arglwydd i chi sydd ar ôl o bobl Jwda. Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: ‘Os ydych chi mor benderfynol o fynd i'r Aifft a setlo yno, 16bydd y rhyfel dych chi'n ei ofni yn eich dilyn chi i wlad yr Aifft. Bydd y newyn dych chi'n poeni amdano yn dod ar eich hôl chi hefyd, a byddwch chi'n marw yno. 17Bydd pawb sy'n penderfynu mynd i setlo yn yr Aifft yn cael eu lladd mewn rhyfel, neu yn marw o newyn neu haint. Bydd y dinistr fydda i'n ei anfon arnyn nhw mor ofnadwy fydd neb ar ôl yn fyw.’ 18“Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Yn union fel gwnes i dywallt fy llid mor ffyrnig ar bobl Jerwsalem, bydda i'n tywallt fy llid arnoch chi pan ewch chi i'r Aifft. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd i chi, a byddwch yn destun sbort d ac yn esiampl o bobl wedi eich melltithio. A fyddwch chi ddim yn gweld y lle yma byth eto.’ 19“Chi bobl Jwda sydd ar ôl yma, mae'r Arglwydd yn dweud wrthoch chi, ‘Peidiwch mynd i'r Aifft.’ Dw i am i chi ddeall fy mod i wedi eich rhybuddio chi heddiw. 20Dych chi'n gwneud camgymeriad dybryd. Bydd yn costio'ch bywydau i chi! Chi anfonodd fi at yr Arglwydd Dduw. ‘Gweddïa ar yr Arglwydd ein Duw droson ni’ meddech chi. ‘Dywed wrthon ni beth mae'r Arglwydd ein Duw yn ei ddweud, ac fe wnawn ni hynny.’ 21Wel, dyma fi wedi dweud wrthoch chi heddiw, ond dych chi ddim am wrando. Dych chi ddim am wneud beth mae'r Arglwydd eich Duw wedi fy anfon i i'w ddweud wrthoch chi. 22Felly dw i eisiau i chi ddeall y byddwch chi'n cael eich lladd gan y cleddyf, neu'n marw o newyn a haint yn y lle dych chi'n bwriadu mynd i fyw.”
Copyright information for
CYM