Jeremiah 32
Jeremeia'n prynu cae
1Rhoddodd yr Arglwydd neges arall i Jeremeia pan oedd Sedeceia wedi bod yn frenin ar Jwda ers bron ddeg mlynedd ▼▼32:1 Sedeceia … ddeg mlynedd h.y. 588 CC
. Roedd hi'n flwyddyn un deg wyth o deyrnasiad Nebwchadnesar, 2ac roedd byddin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem. Roedd Jeremeia yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu ym mhalas brenin Jwda. 3Sedeceia oedd wedi gorchymyn ei gadw yno ar ôl ei holi pam ei fod yn proffwydo fod yr Arglwydd yn dweud: “Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma i frenin Babilon. Bydd e'n ei choncro hi. 4Bydd y brenin Sedeceia yn cael ei ddal, a bydd yn cael ei osod i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon a'i wynebu'n bersonol. 5Yna bydd Sedeceia'n cael ei gymryd i Babilon, a bydd yn aros yno nes bydda i, yr Arglwydd, wedi gorffen delio hefo fe. Gallwch ddal ati i ymladd yn erbyn y Babiloniaid, ond wnewch chi ddim ennill!” 6Dyna pryd dwedodd Jeremeia, “Mae'r Arglwydd wedi rhoi'r neges yma i mi: 7‘Bydd Chanamel, mab dy ewythr Shalwm, yn dod i dy weld di. Bydd yn gofyn i ti brynu'r cae sydd ganddo yn Anathoth, am mai ti ydy'r perthynas agosaf, ac felly ti sydd â'r hawl cyntaf i'w brynu.’ 8A dyna'n union ddigwyddodd. Dyma Chanamel, cefnder i mi, yn dod i'm gweld yn iard y gwarchodlu. Gofynnodd i mi, ‘Wyt ti eisiau prynu'r cae sydd gen i yn Anathoth, yn ardal Benjamin? Ti sydd â'r hawl cyntaf i'w brynu am mai ti ydy'r perthynas agosaf. Pryna fe i ti dy hun.’ Pan ddigwyddodd hyn roeddwn i'n gwybod yn iawn fod yr Arglwydd wedi siarad gyda mi. 9“Felly dyma fi'n prynu'r cae sydd yn Anathoth gan Chanamel, a thalu un deg saith darn arian amdano. 10Dyma fi'n arwyddo'r gweithredoedd a'i selio o flaen tystion, pwyso'r arian mewn clorian a thalu iddo. 11Roedd dau gopi o'r gweithredoedd – un wedi ei selio oedd yn cynnwys amodau a thelerau'r cytundeb, a'r llall yn gopi agored. Wedyn dyma fi'n eu rhoi nhw 12i Barŵch (mab Nereia ac ŵyr i Machseia). Gwnes hyn i gyd o flaen fy nghefnder Chanamel a'r dynion oedd wedi ardystio'r gweithredoedd, a phawb arall o bobl Jwda oedd yn eistedd yn iard y gwarchodlu. 13Yna dyma fi'n dweud wrth Barŵch o'u blaenau nhw i gyd, 14‘Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Cymer y gweithredoedd yma, y copi sydd wedi ei selio a'r un agored, a'i rhoi mewn jar pridd i'w cadw'n saff am amser hir.” 15Achos dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Bydd tai a chaeau a gwinllannoedd yn cael eu prynu yn y wlad yma eto.”’ Gweddi Jeremeia
16“Ar ôl rhoi'r gweithredoedd i Barŵch dyma fi'n gweddïo ar yr Arglwydd: 17‘O! Feistr, Arglwydd! Ti ydy'r Duw cryf a nerthol sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear. Does dim byd yn rhy anodd i ti ei wneud. 18Ti'n dangos cariad diddiwedd at filoedd. Ond rwyt ti hefyd yn gadael i blant ddiodde am bechodau eu rhieni. Ti ydy'r Duw mawr, yr Un grymus! Yr Arglwydd holl-bwerus ydy dy enw di. 19Ti ydy'r Duw doeth sy'n gwneud pethau rhyfeddol. Ti'n gweld popeth mae pobl yn eu gwneud. Ti sy'n rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn. 20Ti wnaeth arwyddion gwyrthiol a phethau rhyfeddol yng ngwlad yr Aifft. Ti'n enwog hyd heddiw yn Israel ac ar hyd a lled y byd am beth wnest ti. 21Defnyddiaist dy nerth rhyfeddol i ddod â'th bobl Israel allan o wlad yr Aifft, a dychryn y bobl yno gyda'r gwyrthiau mwyaf syfrdanol. b 22Ac wedyn dyma ti'n rhoi'r wlad ffrwythlon yma iddyn nhw – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo! Dyna oeddet ti wedi ei addo i'w hynafiaid nhw.23Ond pan ddaethon nhw i gymryd y wlad drosodd, wnaethon nhw ddim gwrando arnat ti na byw fel roeddet ti wedi eu dysgu nhw. Wnaethon nhw ddim byd oeddet ti'n ei ddweud. Dyma pam mae'r dinistr yma wedi dod arnyn nhw. 24Mae rampiau gwarchae wedi eu codi o gwmpas y ddinas, yn barod i'w chymryd hi. Mae'r rhyfela, y newyn a'r haint, yn siŵr o arwain at y ddinas yma'n cael ei choncro gan y Babiloniaid. Fel y gweli, mae popeth yn digwydd yn union fel gwnest ti rybuddio. 25Ac eto, er fod y Babiloniaid yn mynd i goncro'r ddinas yma, rwyt ti wedi dweud wrtho i am brynu'r cae yma, a chael tystion i wneud y peth yn gyfreithlon.’”
Ateb Duw i Jeremeia
26Dyma'r Arglwydd yn ateb Jeremeia: 27“Yr Arglwydd ydw i, Duw y ddynoliaeth gyfan. Mae'n wir, does dim byd yn rhy anodd i mi ei wneud. 28Felly, dyma dw i'n ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma yn nwylo'r Babiloniaid. Bydd Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ei choncro. 29Bydd byddin Babilon yn ymosod ac yn dod i mewn i'r ddinas yma, yn ei rhoi ar dân ac yn ei llosgi'n ulw. Bydd y tai ble buodd pobl yn aberthu i Baal ar eu toeau c, ac yn tywallt offrwm o ddiod i dduwiau eraill, yn cael eu llosgi. Roedd pethau fel yna yn fy ngwylltio i. 30Dydy pobl Israel a Jwda wedi gwneud dim byd ond drwg o'r dechrau cyntaf. Maen nhw wedi fy nigio i drwy addoli eilunod maen nhw eu hunain wedi eu cerfio,’ meddai'r Arglwydd. 31‘Mae'r ddinas yma wedi fy ngwylltio i'n lân o'r diwrnod pan gafodd ei hadeiladu hyd heddiw. Felly rhaid i mi gael gwared â hi. 32Mae pobl Israel a Jwda wedi fy ngwylltio'n lân drwy wneud cymaint o bethau drwg – nhw a'u brenhinoedd a'u swyddogion, yr offeiriaid a'r proffwydi, pobl Jwda i gyd, a phawb sy'n byw yn Jerwsalem! 33Maen nhw wedi troi cefn arna i yn lle troi ata i! Dw i wedi ceisio eu dysgu nhw dro ar ôl tro, ond roedden nhw'n gwrthod gwrando a chael eu cywiro. 34Maen nhw'n llygru fy nheml i drwy osod eilun-dduwiau ffiaidd ynddi. 35Maen nhw hefyd wedi codi allorau paganaidd i Baal yn Nyffryn Ben-hinnom. Maen nhw'n aberthu eu plant bach i Molech! d Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud y fath beth. Fyddai peth felly byth wedi croesi fy meddwl i! Mae wedi gwneud i Jwda bechu yn ofnadwy!’ 36“‘Mae'r rhyfel, a'r newyn a haint yn mynd i arwain at roi'r ddinas yma yn nwylo brenin Babilon,’ meddech chi. Gwir. Ond nawr dw i, yr Arglwydd, Duw Israel, am ddweud hyn am y ddinas yma: 37‘Dw i'n mynd i gasglu fy mhobl yn ôl o'r gwledydd ble gwnes i eu gyrru nhw. e Ro'n i wedi gwylltio'n lân hefo nhw. Roeddwn i'n ffyrnig! Ond dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r lle yma, a byddan nhw'n cael byw yma yn hollol saff. 38Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i. 39Byddan nhw i gyd yn benderfynol o fyw yn ffyddlon i mi bob amser, a bydd hynny'n dda iddyn nhw a'u plant ar eu holau. 40Bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda nhw fydd yn para am byth f – ymrwymiad i beidio stopio gwneud daioni iddyn nhw. Bydda i'n plannu ynddyn nhw barch ata i fydd yn dod o waelod calon, a fyddan nhw byth yn troi cefn arna i eto. 41Bydda i wrth fy modd yn gwneud pethau da iddyn nhw. Bydda i'n eu plannu nhw yn y tir yma eto. Bydda i'n ffyddlon iddyn nhw, ac yn rhoi fy hun yn llwyr i wneud hyn i gyd.’ 42“Ie, dyma dw i, yr Arglwydd, yn ei ddweud: ‘Fel y bydda i'n dod â'r dinistr mawr yma arnyn nhw, bydda i wedyn yn dod â'r holl bethau da dw i'n ei addo iddyn nhw.’ 43‘Ond mae'r wlad yma'n anialwch diffaith,’ meddech chi. ‘Does dim pobl nag anifeiliaid yn byw yma. Mae'r wlad wedi ei choncro gan y Babiloniaid.’ Ond gwrandwch, bydd caeau yn cael eu prynu yn y wlad yma unwaith eto. 44Bydd caeau yn cael eu prynu a'u gwerthu yma eto, a gweithredoedd yn cael eu harwyddo a'u selio o flaen tystion. Bydd hyn yn digwydd yn nhir Benjamin, yr ardal o gwmpas Jerwsalem, trefi Jwda, yn y bryniau, yn yr iseldir yn y gorllewin a'r Negef yn y de. Bydda i'n rhoi'r cwbl wnaethon nhw ei golli yn ôl iddyn nhw,” meddai'r Arglwydd.
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024