Jeremiah 23
Gobaith i'r dyfodol
1“Mae ar ben ar arweinwyr y wlad!” meddai'r Arglwydd. “Yn lle gofalu am fy mhobl fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu defaid maen nhw'n gwneud niwed iddyn nhw a'u gyrru nhw ar chwâl.” 2Felly dyma mae'r Arglwydd, Duw Israel, yn ei ddweud am y ‛bugeiliaid‛ yma sydd i fod i ofalu am fy mhobl: “Dych chi wedi chwalu'r praidd a gyrru'r defaid i ffwrdd yn lle gofalu amdanyn nhw. Felly bydda i'n eich cosbi chi am y drwg dych chi wedi ei wneud,” meddai'r Arglwydd. 3“Ond dw i'n mynd i gasglu'r defaid sydd ar ôl at ei gilydd. Bydda i'n eu casglu nhw o'r gwledydd lle gwnes i eu gyrru nhw, a a'u harwain nhw yn ôl i'w corlan. Byddan nhw'n cael rhai bach a bydd mwy a mwy ohonyn nhw. 4Bydda i'n penodi arweinwyr fydd yn gofalu'n iawn amdanyn nhw. Fydd dim rhaid iddyn nhw fod ag ofn. Fydd dim byd i'w dychryn nhw, a fydd dim un ohonyn nhw yn mynd ar goll,” meddai'r Arglwydd. 5“Mae'r amser yn dod,” meddai'r Arglwydd,“pan fydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd,
un fydd yn gwneud beth sy'n iawn.
Bydd e'n frenin fydd yn teyrnasu'n ddoeth.
Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad.
6Bryd hynny bydd Jwda'n cael ei hachub
a bydd Israel yn saff.
Yr enw ar y brenin yma fydd,
‘Yr Arglwydd sy'n rhoi cyfiawnder i ni.’
7“Ac eto, mae amser gwell i ddod,” meddai'r Arglwydd. “Yn lle dweud, ‘Mor sicr â bod yr Arglwydd yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o'r Aifft …’ 8bydd pobl yn dweud, ‘Mor sicr â bod yr Arglwydd yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o dir y gogledd ac o'r gwledydd lle roedd wedi eu gyrru nhw.’ A bryd hynny byddan nhw'n cael byw yn eu gwlad eu hunain.”
Barn Duw ar y proffwydi ffals
9Neges am y proffwydi: Jeremeia: Dw i wedi cynhyrfu'n lân,a dw i'n crynu trwyddo i.
Dw i fel dyn wedi meddwi;
fel rhywun sy'n chwil gaib.
Alla i ddim diodde'r ffordd mae'r Arglwydd
a'i neges yn cael ei drin.
10Mae'r wlad yn llawn pobl sy'n anffyddlon iddo.
Mae'r tir wedi sychu am ei fod wedi ei felltithio.
Does dim porfa yn yr anialwch – mae wedi gwywo.
A'r cwbl am eu bod nhw'n byw bywydau drwg
ac yn camddefnyddio eu grym.
Yr Arglwydd 11“Mae'r proffwydi a'r offeiriaid yn bobl annuwiol.
Dw i wedi gweld y pethau ofnadwy maen nhw'n eu gwneud
hyd yn oed yn y deml ei hun!”
—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
12“Felly bydd eu llwybrau yn dywyll a llithrig.
Byddan nhw'n baglu ac yn syrthio.
Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw.
Mae'r amser iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.”
—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
13“Gwelais broffwydi Samaria gynt ▼
▼23:13 Samaria gynt Roedd Samaria, prifddinas teyrnas Israel yn y gogledd, wedi ei choncro gan fyddin Assyria bron 150 o flynyddoedd cyn hyn (yn 722 CC)
yn gwneud peth cwbl anweddus:
Roedden nhw'n proffwydo ar ran y duw Baal,
ac yn camarwain fy mhobl, Israel.
14A nawr dw i'n gweld proffwydi Jerwsalem
yn gwneud rhywbeth yr un mor erchyll.
Maen nhw'n anffyddlon i mi ac yn dilyn celwydd!
Maen nhw'n annog y rhai sy'n gwneud drwg
yn lle ceisio eu cael nhw i stopio.
Maen nhw mor ddrwg â Sodom yn fy ngolwg i.
Mae pobl Jerwsalem fel pobl Gomorra ▼
▼23:14 Sodom … Gomorra Dwy dref gafodd eu dinistrio gan yr Arglwydd am fod y bobl yno mor ddrwg (gw. Genesis 18:16—19:29).
.”15Felly, dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud am y proffwydi: “Dw i'n mynd i wneud i'r bobl yma ddioddef yn chwerw,
ac yfed dŵr gwenwynig barn.
Mae proffwydi Jerwsalem yn gyfrifol
am ledu annuwioldeb drwy'r wlad i gyd.”
16Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud: “Peidiwch gwrando ar beth mae'r proffwydi yna'n ei ddweud –
maen nhw'n eich twyllo gyda'u gobaith gwag.
Maen nhw'n rhannu eu ffantasïau
yn lle beth mae'r Arglwydd yn ei ddweud.
17Maen nhw'n dal ati i ddweud
wrth y rhai sy'n ddirmygus ohono i,
‘Mae'r Arglwydd yn dweud y bydd popeth yn iawn!’
Maen nhw'n dweud wrth y rhai sy'n ystyfnig,
‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i chi.’
18Ond prun ohonyn nhw sy'n gwybod cynlluniau'r Arglwydd,
ac wedi clywed a deall beth mae e'n ddweud?
Prun ohonyn nhw sydd wedi gwrando arno?”
Jeremeia: 19Gwyliwch chi! Bydd yr Arglwydd yn ddig.
Bydd yn dod fel storm.
Bydd fel corwynt dinistriol yn disgyn ar y rhai drwg.
20Fydd llid yr Arglwydd ddim yn tawelu
nes bydd wedi gwneud popeth mae'n bwriadu ei wneud.
Byddwch chi'n dod i ddeall y peth yn iawn ryw ddydd.
Yr Arglwydd 21“Wnes i ddim anfon y proffwydi yma,
ond roedden nhw'n rhedeg i gyhoeddi eu neges.
Wnes i ddim rhoi neges iddyn nhw,
ond roedden nhw'n dal i broffwydo.
22Petaen nhw wedi sefyll o'm blaen a gwrando,
bydden nhw wedi cyhoeddi fy neges i'm pobl.
Bydden nhw wedi gwneud iddyn nhw droi cefn ar ddrwg.”
23“Ai rhyw dduw bach lleol ydw i?” meddai'r Arglwydd. “Onid fi ydy'r Duw sy'n gweld popeth o bell?”
24“Pwy sy'n gallu cuddio oddi wrtho i?” meddai'r Arglwydd. “Dw i ym mhobman drwy'r nefoedd a'r ddaear!”
25“Dw i wedi clywed beth mae'r proffwydi yn ei ddweud. Maen nhw'n honni siarad drosta i, ond yn dweud celwydd! ‘Dw i wedi cael breuddwyd! Dw i wedi cael breuddwyd!’ medden nhw. 26Am faint mae'n rhaid i hyn fynd ymlaen? Am faint maen nhw'n mynd i ddal ati i ddweud celwydd? Maen nhw'n twyllo eu hunain! Ydyn nhw'n mynd i newid rywbryd? 27Am faint maen nhw'n mynd i rannu eu breuddwydion gyda'i gilydd, a cheisio cael fy mhobl i anghofio pwy ydw i? Dyna beth wnaeth eu hynafiaid – anghofio amdana i ac addoli'r duw Baal. 28Gadewch i'r proffwyd gafodd freuddwyd
ei rhannu fel breuddwyd.
Ond dylai'r un dw i wedi rhoi neges iddo
gyhoeddi'r neges yna'n ffyddlon.”
“Allwch chi ddim cymharu'r gwellt gyda'r grawn!”
meddai'r Arglwydd.
29“Mae fy neges i fel tân yn llosgi,”
meddai'r Arglwydd.
“Mae fel gordd yn dryllio carreg.”
30“Felly, dw i eisiau i chi ddeall fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n dwyn y neges gan ei gilydd,” meddai'r Arglwydd. 31“Dw i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n dweud beth maen nhw eisiau, ac yna'n honni, ‘Dyma beth mae'r Arglwydd yn ei ddweud …’ 32Dw i eisiau i chi ddeall,” meddai'r Arglwydd, “fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n cyhoeddi'r celwydd maen nhw wedi ei ddychmygu. Maen nhw'n camarwain fy mhobl gyda'u celwyddau a'u honiadau anghyfrifol. Wnes i ddim eu hanfon nhw na dweud wrthyn nhw beth i'w wneud. Dŷn nhw ddim yn helpu'r bobl yma o gwbl,” meddai'r Arglwydd.
Baich trwm yr Arglwydd
33Yna dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho i, “Jeremeia, pan mae'r bobl yma, neu broffwyd neu offeiriad, yn gofyn i ti, ‘Beth ydy'r baich mae'r Arglwydd yn ei roi arnon ni nawr?’ dywed wrthyn nhw, ‘Chi ydy'r baich, a dw i'n mynd i'ch taflu chi i ffwrdd,’ 34Ac os bydd proffwyd, offeiriad, neu unrhyw un arall yn dweud, ‘Mae'r Arglwydd yn rhoi baich trwm arnon ni,’ bydda i'n cosbi'r dyn hwnnw a'i deulu. 35Dyma ddylech chi fod yn ei ofyn i'ch gilydd: ‘Beth oedd ateb yr Arglwydd?’ neu ‘Beth ddwedodd yr Arglwydd?’ 36Rhaid i chi stopio dweud fod yr Arglwydd yn rhoi baich trwm arnoch chi. Y pethau dych chi'ch hunain yn eu dweud ydy'r ‛baich‛. Dych chi wedi gwyrdroi neges ein Duw ni, yr Arglwydd holl-bwerus, y Duw byw! 37Beth ddylech chi ei ofyn i'r proffwyd ydy, ‘Beth oedd ateb yr Arglwydd?’ neu ‘Beth ddwedodd yr Arglwydd?’ 38Os daliwch chi ati i ddweud, ‘Mae'r Arglwydd yn rhoi baich trwm arnon ni,’ dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: ‘Dych chi'n dal i ddweud “Mae'r Arglwydd yn rhoi baich trwm arnon ni,” er fy mod i wedi dweud yn glir wrthoch chi am beidio gwneud hynny. 39Felly, dw i'n mynd i'ch codi chi a'ch taflu chi i ffwrdd – chi a'r ddinas rois i i'ch hynafiaid chi. 40Bydda i'n eich gwneud chi'n jôc, a byddwch yn cael eich cywilyddio am byth.’”
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024